Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheeuriadau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau ar gyfer Aelodau.
Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: CYTUNODD y Pwyllgor y bydd cyfarfodydd y dyfodol yn cychwyn am 10.00 a.m.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 271 KB Derbyn cofnoodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosoolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2021.
Dywedodd Aelod, fel y nodir yn y cofnodion, ei fod yn dal heb dderbyn ymateb gan y Cyfarwyddwr Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol ac mai hwn oedd y trydydd mis o ddisgwyl ymateb i’w gais am wybodaeth. Awgrymodd y Cadeirydd fod yr Aelod yn siarad yn uniongyrchol gyda’r Cyfarwyddwr Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yn dilyn y cyfarfod hwn.
Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
Gofynnodd Aelod am eglurdeb os y cyflwynir adroddiad cynnydd ar CCTV i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol. Cadarnhaodd y Cadeirydd y caiff adroddiad cynnydd ar CCTV ei gynnwys yn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn ar 10 Medi 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Ystyried yr adroddiad..
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol, sy’n cyflwyno y Rhaglen Gwaith Craffu Corfforaethol ar gyfer 2021-22 (Atodiad 1) ac i geisio cymeradwyaeth gan y Pwyllgor.
Cyfeiriodd Aelod at newid hinsawdd ac er nad oedd yn bwnc i’r Pwyllgor hwn, teimlai y dylai pob agenda gynnwys gwybodaeth am newid hinsawdd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd y byddai templed adroddiad safonol o fis Medi 2021 yn cynnwys adran ar ddatgarboneiddio a gaiff wedyn ei adrodd i bob Pwyllgor.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cytuno ar Flaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar gyfer 2021-22.
|
|
Strategaeth Gweithlu 2021-2026 PDF 477 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol i graffu ar a herio’r ddrafft Strategaeth Gweithlu 2021-2026 (Atodiad 1).
Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo sy’n cynnwys bod y drafft Strategaeth Gweithlu yn strategaeth pum mlynedd yn canolbwyntio ar y dyfodol, gan gysylltu deilliannau gwasanaeth gyda’r gweithlu sydd ei angen i gyflawni’r deilliannau hynny a chynllunio ar gyfer gweithlu’r dyfodol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cefnogi drafft arfaethedig Strategaeth Gweithlu 2021-26 i symud ymlaen i gael ei gymeradwyo yn y Cyngor.
|
|
Adroddiad Cyllid a Pherfformiad Diwedd y Flwyddyn 2020/21 PDF 412 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd oedd i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol sefyllfa diwedd y flwyddyn yr Adroddiad Cyllid a Pherfformiad ar gyfer y flwyddyn 2020/21 (ynghlwm yn Atodiad 1).
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Dywedodd Aelod ei bod yn ddi-os y cyflawnwyd gwaith da drwy gydol y flwyddyn, yn arbennig yn ystod y pandemig, ac mae’n amlwg y cafodd rhai o agweddau ariannol yr adroddiad eu gwneud mewn amodau cyllideb da. Teimlai fod angen profi Pontio’r Bwlch yn iawn ac roedd yn ymwybodol fod cyllid caledi Llywodraeth Cymru wedi galluogi’r Cyngor i gyflawni’r gyllideb.
Cyfeiriodd Aelod at absenoliaeth a holodd os bu unrhyw welliant yn ystod blwyddyn ddiwethaf y pandemig. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod absenoliaeth wedi gostwng fel canlyniad i weithio gartref. Cynhelir adolygiad ar y ffigurau a’r perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf a chyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ym mis Medi.
Cododd Aelod bryderon am absenoliaeth yn yr adrannau Cynllunio a Rheoli Adeiladu yng nghyswllt ymweliadau safle. Cododd Aelod arall hefyd fater absenoliaeth ar draws y Cyngor; er bod absenoliaeth yn is, teimlai fod yn dal fod angen i drafod hyn gan fod y Cyngor yn prynu gwasanaethau gan asiantaethau yn Nhorfaen a Chaerdydd yng nghyswllt materion Cynllunio a Rheoli Adeiladu. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol mai’r ffigurau a gynhwysir yn yr adroddiad oedd y sefyllfa diwedd blwyddyn o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021 a chadarnhaodd y cyflwynir adroddiad yn adolygu perfformiad absenoldeb salwch i’r Pwyllgor hwn ym mis Medi. Roedd yn cydnabod fod absenoldebau mewn Rheoli Adeiladu ac mae’r Gyfarwyddiaeth yn datblygu cynlluniau parhad gwasanaeth.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod problem benodol yn y gwasanaeth y mae’r Cyfarwyddwr Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’i dîm yn ymchwilio, mae ffigurau absenoldeb salwch yn gyffredinol ar draws y Cyngor yn gostwng.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod set neilltuol o amgylchiadau yn yr adran o fewn Rheoli Adeiladu ac mewn Cynllunio. Yng nghyswllt Rheoli Adeiladu, roedd Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau wedi hysbysu Aelodau drwy nodyn am y set unigryw o amgylchiadau lle’r oedd pob un o’r pedwar Swyddog Rheoli Absenoldeb yn absennol am wahanol resymau ac er mwyn cynnal gwasanaeth ar gyfer y gymuned, rhoddwyd trefniadau ar waith gyda rhai cynghorau cyfagos yng nghyswllt gwirio cynllun, oedd yn drefniant cydfuddiannol ac nad oedd yn effeithio ar y gwasanaeth i breswylwyr. Cadarnhaodd y cafwyd cefnogaeth asiantaeth yng nghyswllt Rheoli Adeiladu, mae dau ar hyn o bryd a byddai hyn yn galluogi cynnal arolygiadau ar y safle a darparu gwasanaeth gystal ag y gellid ei ddisgwyl o fewn yr amgylchiadau presennol. Yng nghyswllt Cynllunio, mae penderfynu ar geisiadau cynllunio yn flaenoriaeth allweddol a daethpwyd â pheth cymorth ymgynghoriaeth i mewn i helpu prosesu’r ceisiadau cynllunio. Dywedodd y cafodd hynny ei wneud o’r blaen yn y gorffennol pan oedd nifer fawr o geisiadau cynllunio. Sicrhaodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau fod y sefyllfa’n cael ei thrin ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Diwygio Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw PDF 558 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i ystyried newid arfaethedig i bolisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) yr Adroddiad a’r effaith a gaiff hyn ar ddarpariaeth isafswm refeniw yn y dyfodol.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Gadawodd y Cynghorydd P. Baldwin y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Holodd Aelod am gost cyflogi Cynghorwyr Trysorlys, Link Asset Services, i gynnal adolygiad o’r polisi MRP presennol. Nid oedd yr union ffigur wrth law gan y Prif Swyddog Adnoddau ond amcangyfrifodd y byddai tua £2,000 i £3,000 ac y byddai’n cael ei gyllido drwy gyllideb gwasanaeth Adnoddau.
Cododd Aelod bryderon fod hyn yn gwthio dyled i’r dyfodol ar gyfer gweinyddiaethau diweddarach. O gofio am y setliadau da a gafodd yr Awdurdod hwn gan Lywodraeth Cymru teimlai y dylai’r Cyngor fod yn gwneud mwy i liniaru pwysau cost ei hunan. Mae ganddo bryderon os gall gweinyddiaethau’r Awdurdod yn y dyfodol ddefnyddio benthyca darbodus mewn amodau cyllideb mwy llym. Dyfynnodd yr Aelod o adroddiad blaenorol MRP lle hysbyswyd Aelodau “yn ystod cyfnod gostwng MRP hyd at 2022/23, byddai gan yr Awdurdod gyfnod hirach i gynllunio a gweithredu arbedion trawsnewidiol tymor hirach a fyddai’n cyfrannu at liniaru’r cynnydd mewn MRP ar ddiwedd y bumed flwyddyn”. Teimlai fod yr adroddiad hwn yn awr yn dangos fod hyn yn fethiant llwyr.
Nid oedd y Prif Swyddog Adnoddau yn cytuno gyda sylwadau’r Aelodau a dywedodd eu bod wedi dynodi a sicrhau lefel sylweddol o arbedion yn ystod y cyfnod o bum mlynedd ac wedi wynebu pwysau cost annisgwyl ychwanegol yn ogystal â’r MRP.
Gwyddai’r Aelod nad oedd y Prif Swyddog Adnoddau yn ei swydd adeg yr adroddiad MRP blaenorol, ond dywedodd fod Aelodau wedi penderfynu cefnogi, gan wybod y byddai’r Cyngor yn canfod ffordd o liniaru’r pwysau cost hyn a fyddai’n dod i mewn yn 2022/23, a theimlai fod y weinyddiaeth wedi methu gwneud hyn a bu’n rhaid ymrwymo i gytundeb MRP arall ar gyfer y dyfodol a fyddai’n rhoi dyled ar genedlaethau i ddod. Ni fedrai’r Aelod gefnogi’r adroddiad a byddai’n cynnig argymhelliad arall yn dilyn trafodaeth bellach.
Teimlai Aelod arall y teimlai fod hyn yn cadw dyled ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cyfeiriodd at bwynt 5.1.5 yr adroddiad – Ar gyfer dibenion yr adroddiad hwn ni chafodd amcangyfrifon gwariant cyfalaf yr Awdurdod yn y dyfodol eu cynnwys yn y dadansoddiad ac mae pob opsiwn yn seiliedig ar sefyllfa CFR fel ar 31 Mawrth 2021 – a holodd os yw’r £70 miliwn y mae’r Awdurdod yn ei fenthyca a thalu £1.4 miliwn yn ôl wedi ei gynnwys yn y cyfrifiadau hyn. Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau na fyddai’r newid hwn mewn polisi yn effeithio ar yr union ad-daliad dyled a wneir bob blwyddyn. Nid yw’r benthyciad arfaethedig o £70m gan Lywodraeth Cymru wedi ei gynnwys yn y cyfrifiadau am ddau reswm. Y cyntaf oedd nad yw’r Cyngor wedi cytuno hyd yma i dderbyn y benthyciad ar sail hirdymor a’r ail oedd pe bai’r Cyngor yn ... view the full Cofnodion text for item 9. |