Lleoliad: via MS Teams (if you would like to view this meeting please contact michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Ystyried penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Ymateb Blaenau Gwent i Arolwg Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol PDF 420 KB Ystyried adroddiad Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth fel y’u cyflwynwyd a derbyn adroddiadau monitro ar y cynllun gweithredu a’r adroddiad hunanwerthuso yn y dyfodol (Opsiwn 2).
|
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Addysg PDF 414 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2022/23 CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL GWASANAETHAU ADDYSG
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at leoliad ysgolion a nodir gan Wardiau yn Atodiad 1 yr adroddiad a dywedodd nad yw Badminton bellach yn Ward ym Mlaenau Gwent. Cafodd Ward Canol a Gorllewin Tredegar ei hailenwi yn Ward Trydegar, cafodd Wardiau Abertyleri a Six Bells eu cyfuno a hefyd Rasa a Garnlydan. Gofynnodd yr Arweinydd os y gellid diwygio hyn o fewn yr Atodiad.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiown 2).
|
|
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno i’r cynnig i ddarparu trefniadau gorfodaeth ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel y disgrifir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).
|