Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mercher, 20fed Medi, 2023 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen cyfnod hysbysu o leiaf 3 diwrnod gwaith os dymunwch wneud hynny. Darperir cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

Prif Swyddog – Masnachol a Chwsmeriaid

Mike Jones, Richard Harries, Alice King a Deborah Woods, Archwilio Cymru.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 82 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er mwyn pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 82 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu sy’n deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023. Ar hynny:

 

Eitem Rhif 7 – Blaenraglen Gwaith 2023/24 – Hyfforddiant Gloywi ar Rôl a Chylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio

 

Nodwyd y cynhelir yr hyfforddiant uchod ddydd Mawrth 10 Hydref 2023 am 9.30am ar MS Teams, felly mae’r cam gweithredu hwn yn awr wedi ei gwblhau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Blaenraglen Gwaith 2023-24 pdf icon PDF 87 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Blaenraglen Gwaith arfaethedig 2023/2024.

 

Rhoddwyd y diweddariad dilynol:

 

-        Caiff Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ei ystyried gan y Pwyllgor yng nghyfarfod mis Tachwedd. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd dilynol caiff yr eitem hon ei chynnwys ar y flaenraglen gwaith ar gyfer mis Medi.

 

-        Datganiad Cyfrifon 2021/2022 – yn amodol ar i Archwilio Cymru gwblhau ISA 260, rhagwelir y caiff yr adroddiad hwn ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref ar gyfer ei ystyried.

 

Yn dilyn pryderon a wnaed gan Aelodau am yr oedi wrth dderbyn Datganiad Cyfrifon 2021/2022 wedi ei gwblhau, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod cynrychiolydd o Archwilio Cymru wedi cynnig cwrdd ag Aelodau’r Pwyllgor i roi esboniad o ran y problemau a geir ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn unfrydol ac yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y Flaenraglen Gwaith.

 

 

7.

Siarter Archwilio Mewnol pdf icon PDF 145 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol yn unol ag arfer da a gofynion PSIAS.

 

8.

Cynnydd Archwiliad Mewnol 2023/24 pdf icon PDF 118 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol, Archwilio Mewnol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol. Ar hynny:

 

Adroddiad Archwilio Mewnol – Llety Dros Dro 2022/2023

 

Oherwydd yr effaith ariannol bosibl ar yr awdurdod lleol a’r diffyg llety tai cymdeithasol yn yr ardal, caiff mater digartrefedd ei drafod yn adrannol i ganfod os dylid cynnwys y mater hwn o fewn y gofrestr risg corfforaethol.

 

Os yn briodol, yn dilyn yr asesiad risg ac unrhyw fesurau lliniaru posibl, byddir yn rhoi diweddariadau i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd ar weithgareddau am y cyfnod 1 Ebrill i 30 Mehefin.

 

9.

Cofrestr Risg Gorfforaethol Ch1 2023 / 2024 pdf icon PDF 134 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Nodwyd y byddai  Aelodau yn cael cyfle pellach i roi sylwadau ar fformat y gofrestr risg, y broses rheoli risg a’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghyswllt rôl sicrwydd y Cyngor yn y sesiwn hyfforddiant gloywi ar 10 Hydref 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad ac yn dilyn ystyriaeth o’r wybodaeth, rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor fod gan y Cyngor drefniadau priodol yn eu lle i reoli risg.