Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mercher, 21ain Mehefin, 2023 11.00 am

Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Rheolwr Archwilio a Risg a’r Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

4.

Penodi Cadeirydd 2023/2024

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio 2023/2024.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2023/2024.

 

Cynigiodd Aelod fod Ms Joanne Absalom yn cael ei phenodi i’r swydd, ac eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD penodi Ms Joanne Absalom i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2023/2024.

 

Cymerodd Ms. Absalom y Gadair ar y pwynt hwn.

 

Cytunwyd y byddai Eitem Rhif 22 – Asesiad Effaith Integredig  y Ganolfan Ddinesig yn cael ei ystyried y pwynt hwn.

 

 

5.

Asesiad Effaith Integredig y Ganolfan Ddinesig pdf icon PDF 478 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd ar y camau gweithredu dilynol:

 

Ø  Darparu’r costau terfynol yn gysylltiedig gyda dymchwel y Ganolfan Ddinesig.

Ø  Diweddaru ffigurau ymwelwyr yn ymwneud ag ymweliadau i bob hyb cymunedol ar gyfer Chwefror – Mehefin 2023 yn cynnwys natur defnydd a sut yr oedd preswylwyr yn rhyngweithio drwy’r sianeli hyn.

Ø  Cylchredeg yr adroddiad yn ymwneud â model gweithredu newydd y Cyngor a gytunwyd yn y Cyngor ar 25 Mawrth.

Ø  Darparu mwy o wybodaeth yng nghyswllt problemau parcio/mynediad, yn arbennig mynediad i’r anabl mewn hybiau cymunedol.

Ø  Darparu nifer ymwelwyr i ganol tref Glynebwy.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y cafodd asesiad effaith integredig ei gwblhau yn unol gyda deddfwriaeth i gael ei gytuno’n ffurfiol yn y Cyngor.

 

6.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 351 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r penderfyniadau.,

 

7.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 340 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

8.

Blaenraglen Gwaith 2023-24 pdf icon PDF 378 KB

Cytuno ar y Flaenraglen Gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Flaenraglen Gwaith 2023/2024 arfaethedig.

 

Yn dilyn trafodaeth cytunwyd cynnwys yr eitemau dilynol o fewn Blaenraglen Gwaith 2023/2024:

 

Ø  Silent Valley Waste Services Cyf – rhoi manylion am gwblhau’r trosglwyddiad mewnol.

Ø  Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

Ø  Adolygu sut y gellir sicrhau’r Pwyllgor am gynnydd ar yr argymhellion Archwilio Allanol a Mewnol.

Ø  Cynnal trafodaeth gyda swyddogion priodol yng nghyswllt darparu adroddiad yn ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith, gyda’r diwygiadau uchod.

 

9.

Datganiad Cyfrifon 2021/22

Diweddariad llafar.

 

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn cyflwynwyd Deborah Woods, Arweinydd Archwilio newydd Blaenau Gwent, i’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau ddiweddariad llafar ynghylch Datganiad Cyfrifon 2021/2022 a dywedodd y Pwyllgor, yn amodol ar bod Archwilio Cymru yn  cwblhau eu harchwiliad yn cynnwys ISA 260 a barn archwilio, caiff Datganiad Cyfrifon 2021/2022 ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 12 Gorffennaf 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

10.

Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg 2022/23 pdf icon PDF 522 KB

Ysytyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd:

Ø  Diwygio geiriad yr hysbyseb Gymraeg yn ymwneud â’r swydd wag ar gyfer aelodau lleyg, os oes angen.

Ø  Rhoi diweddariad ar y tri ymchwiliad mawr a ddechreuodd yn ystod y flwyddyn, ar yr adeg gywir.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, ar yr uchod, i dderbyn yr Adroddiad a Barn Archwilio Flynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg, sef yn seiliedig ar ganfyddiadau’r gwaith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2022/23, bod system rheoli mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 wedi gweithredu i lefel oedd yn rhoi Sicrwydd Rhesymol am ddigonolrwydd ac effeithlonrwydd digidol fframwaith y sefydliad o lywodraethiant a rheoli risg.

 

11.

Cynllun Archwilio Mewnol 2023-2028 pdf icon PDF 570 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r sail ar gyfer dethol/blaenoriaethu archwilio fel y disgrifir yn adran 2 yr adroddiad, a chymeradwyo’r cynllun archwilio, gan farnu ei fod yn rhoi digon o sylw y gallai’r Rheolwr Archwilio a Risg roi barn archwilio blynyddol arnynt, gan alluogi’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio i gyflawni ei rôl sicrwydd.

 

12.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol..

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau amser cychwyn cyfarfodydd y dyfodol o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol y bydd cyfarfodydd y dyfodol o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cychwyn am 9.30 a.m.