Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Rheolwr Archwilio a Risg a’r Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau. |
|
Penodi Cadeirydd 2023/2024 Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio 2023/2024.
Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2023/2024.
Cynigiodd Aelod fod Ms Joanne Absalom yn cael ei phenodi i’r swydd, ac eiliwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD penodi Ms Joanne Absalom i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2023/2024.
Cymerodd Ms. Absalom y Gadair ar y pwynt hwn.
Cytunwyd y byddai Eitem Rhif 22 – Asesiad Effaith Integredig y Ganolfan Ddinesig yn cael ei ystyried y pwynt hwn.
|
|
Asesiad Effaith Integredig y Ganolfan Ddinesig PDF 478 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd ar y camau gweithredu dilynol:
Ø Darparu’r costau terfynol yn gysylltiedig gyda dymchwel y Ganolfan Ddinesig. Ø Diweddaru ffigurau ymwelwyr yn ymwneud ag ymweliadau i bob hyb cymunedol ar gyfer Chwefror – Mehefin 2023 yn cynnwys natur defnydd a sut yr oedd preswylwyr yn rhyngweithio drwy’r sianeli hyn. Ø Cylchredeg yr adroddiad yn ymwneud â model gweithredu newydd y Cyngor a gytunwyd yn y Cyngor ar 25 Mawrth. Ø Darparu mwy o wybodaeth yng nghyswllt problemau parcio/mynediad, yn arbennig mynediad i’r anabl mewn hybiau cymunedol. Ø Darparu nifer ymwelwyr i ganol tref Glynebwy.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y cafodd asesiad effaith integredig ei gwblhau yn unol gyda deddfwriaeth i gael ei gytuno’n ffurfiol yn y Cyngor.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 351 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r penderfyniadau.,
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2023-24 PDF 378 KB Cytuno ar y Flaenraglen Gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Flaenraglen Gwaith 2023/2024 arfaethedig.
Yn dilyn trafodaeth cytunwyd cynnwys yr eitemau dilynol o fewn Blaenraglen Gwaith 2023/2024:
Ø Silent Valley Waste Services Cyf – rhoi manylion am gwblhau’r trosglwyddiad mewnol. Ø Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. Ø Adolygu sut y gellir sicrhau’r Pwyllgor am gynnydd ar yr argymhellion Archwilio Allanol a Mewnol. Ø Cynnal trafodaeth gyda swyddogion priodol yng nghyswllt darparu adroddiad yn ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith, gyda’r diwygiadau uchod.
|
|
Datganiad Cyfrifon 2021/22 Diweddariad llafar.
Cofnodion: Ar y pwynt hwn cyflwynwyd Deborah Woods, Arweinydd Archwilio newydd Blaenau Gwent, i’r Pwyllgor.
Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau ddiweddariad llafar ynghylch Datganiad Cyfrifon 2021/2022 a dywedodd y Pwyllgor, yn amodol ar bod Archwilio Cymru yn cwblhau eu harchwiliad yn cynnwys ISA 260 a barn archwilio, caiff Datganiad Cyfrifon 2021/2022 ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 12 Gorffennaf 2023.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg 2022/23 PDF 522 KB Ysytyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd: Ø Diwygio geiriad yr hysbyseb Gymraeg yn ymwneud â’r swydd wag ar gyfer aelodau lleyg, os oes angen. Ø Rhoi diweddariad ar y tri ymchwiliad mawr a ddechreuodd yn ystod y flwyddyn, ar yr adeg gywir.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, ar yr uchod, i dderbyn yr Adroddiad a Barn Archwilio Flynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg, sef yn seiliedig ar ganfyddiadau’r gwaith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2022/23, bod system rheoli mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 wedi gweithredu i lefel oedd yn rhoi Sicrwydd Rhesymol am ddigonolrwydd ac effeithlonrwydd digidol fframwaith y sefydliad o lywodraethiant a rheoli risg.
|
|
Cynllun Archwilio Mewnol 2023-2028 PDF 570 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r sail ar gyfer dethol/blaenoriaethu archwilio fel y disgrifir yn adran 2 yr adroddiad, a chymeradwyo’r cynllun archwilio, gan farnu ei fod yn rhoi digon o sylw y gallai’r Rheolwr Archwilio a Risg roi barn archwilio blynyddol arnynt, gan alluogi’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio i gyflawni ei rôl sicrwydd.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol..
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau amser cychwyn cyfarfodydd y dyfodol o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
PENDERFYNWYD yn unfrydol y bydd cyfarfodydd y dyfodol o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cychwyn am 9.30 a.m.
|