Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 1af Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 259 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 7 Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 205 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2020, yn cynnwys:-

 

Adroddiad Gweithgareddau – Gorfodaeth Gorchmynion Sbwriel a Rheoli C?n am flwyddyn ariannol 2019/20

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd fod y gwasanaeth gorfodaeth sbwriel a rheoli c?n yn dal i fod wedi’i ohirio oherwydd pandemig Covid, ac y symudwyd Swyddogion i ymgymryd â dyletswyddau mewn ymateb i Covid. Byddai’r gwaith hwn yn parhau am y dyfodol rhagweladwy, yn amodol ar gyllid.

 

Gofynnodd Aelod am ffigurau ar nifer y dirwyon a wnaed yng nghyswllt baw c?n a hefyd am sbwriel a tipio anghyfreithlon.

 

Esboniodd y Swyddog fod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod blaenorol yn rhoi data ar gyfer 2019/20. Ni fu unrhyw weithgaredd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ers mis Mawrth 2020, gan y cafodd y gwasanaeth ei ohirio. Fodd bynnag, cadarnhaodd y cyflwynir adroddiad ar dipio anghyfreithlon i’r Pwyllgor Craffu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Gorfodaeth Parcio Sifil

 

Cyfeiriodd Aelod at ei sylwadau a wnaed yn y cyfarfod blaenorol ac ategodd y dylai’r Cyngor ystyried dull gweithredu Awdurdod cyfagos yng nghyswllt trwyddedau parcio preswylwyr, a caniatáu opsiwn ar gyfer ail drwydded am ffi bob blwyddyn.

 

Mynegodd bryder fod Swyddogion Gorfodaeth yn symud o ganol trefi i ardaloedd preswyl ehangach, a gofynnodd am gynnal adolygiad o ‘linellau melyn’ yn amodol ar i gyllid fod ar gael o fewn y gyllideb.

 

Gofynnodd Aelod eraill os yw Swyddogion Gorfodaeth Parcio Sifil yn cynnal gwiriadau ar ddeiliaid bathodynnau glas yn cydymffurfio gyda’r meini prawf.

 

Gofynnodd Aelod arall os yw Swyddogion Gorfodaeth Parcio Sifil yn gwirio y cydymffurfir ag amodau bathodynnau glas yn nhermau hyd amser parcio ac os yw’r person cymwys yn y cerbyd.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Peirianneg na wyddai os yw’r gwiriadau hyn yn cael eu cynnal, ond dywedodd y byddai’n cysylltu gyda’r Swyddogion Gorfodaeth ynghylch y mater hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Diweddariad ar Hen Domennydd Gwastraff pdf icon PDF 664 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Peirianneg yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol yng nghyswllt hen domennydd gwastraff ym Mlaenau Gwent, ac yn rhoi manylion camau gweithredu a thasgau allweddol yn unol â Thasglu Polisi Diogelwch Tomennydd Glo. Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dilynodd trafodaeth am y tirlithriad yn y Rhondda y llynedd ac esboniodd y Swyddog bod nifer o domennydd llai ym Mlaenau Gwent ac y cafodd llawer eu hadfer neu adeiladu arnynt. Ni awyddai fod unrhyw domennydd ym Mlaenau Gwent ar ochr mynydd neu wrth ymyl afon, a dim byd sylweddol fel y math a welwyd yn y Rhondda.

 

Dywedodd Aelod y dylid dynodi Swyddog i archwilio’r tomennydd yn y Fwrdeistref yn rheolaidd.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog y daw deddfwriaeth newydd i rym ym Mai/Mehefin 2021 a all olygu fod angen gwaith.

 

Gofynnodd Aelod sut y bwriedir categoreiddio tomennydd ar dir ansefydlog. Atebodd y Swyddog fod tir ansefydlog yn wahanol i domennydd glo ac wedi eu dynodi ar gofrestr wahanol.

 

Dywedodd Aelod i’r NCB gynnal archwiliadau helaeth o’r holl domennydd ledled De Cymru yn dilyn trychineb Aberfan. Mynegodd gonsyrn y cafodd y cofnodion hynny eu colli dros gyfnod a theimlai fod gofyn i awdurdodau lleol barhau â’r dasg honno yn awr. Mae hefyd nifer o domennydd yn yr ardal fel canlyniad i gloddio am fwynhau haearn a gofynnodd os y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei hymestyn i’w cynnwys.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog fod unrhyw archwiliadau pyllau glo yn dal i fod yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Glo. Fodd bynnag, yn nhermau’r ddeddfwriaeth newydd, ni fyddai’n gwybod am y cynnwys nes y daw i law ar gyfer sylwadau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r camau gweithredu a thasgau allweddol a nodir ym mharagraffau 2.8 i 2.9 (Opsiwn 1).

 

7.

Diweddariad Gweithiau Cyfalaf Seilwaith Mynwentydd pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tim Strydlun.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Strydlun yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y gwariant cyfredol a gwariant y dyfodol yn gysylltiedig â’r cyllid cyfalaf (tua £200,000) sydd ar gael i wneud gwaith seilwaith mynwentydd ym mlynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Roedd yn falch i ddweud fod y Cyngor allan i dendr ar hyn o bryd ar gyfer yr holl waith yn gysylltiedig gyda’r seilwaith llwybrau o fewn y mynwentydd. Mae’n debygol y byddai’r gweithiau hynny yn dod dan y gyllideb, a fyddai’n galluogi symud ymlaen â gweithiau Blaenoriaeth 2.

 

Cyfeiriodd Aelod at y rhestr o weithiau a amlygir yn Atodiad 1 a dywedodd y byddai wedi disgwyl i ‘torri tyfiant’ fod yn rhan o waith cynnal a chadw dydd-i-ddydd.

 

Dywedodd iddo ymweld â holl fynwentydd y Fwrdeistref a holi pam na chafodd y dilynol ei gynnwys yn yr adroddiad:

 

  • Blaenau – gwaith atgyweirio neu symud y lloches.
  • Brynmawr – symud y canopi sy’n gysylltiedig â’r hen Gapel Gorffwys.
  • Glynebwy – symud neu waith atgyweirio i’r lloches. Holodd hefyd am yr angen am grid gwartheg a theimlai y byddai’n well gwario’r arian ar ddraeniad.
  • Brynithel – gofynnodd am eglurdeb ar p’un ai a fyddai’r lloches yn cael ei symud neu ei hailbeintio.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog y byddai’n hapus i gwrdd gydag Aelodau lleol ar y safle i drafod y gwaith i gael ei wneud. Yn nhermau sylw’r Aelod am ‘dorri tyfiant’, cytunodd fod hyn yn ‘gadw t? da’ a chadarnhaodd y cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Tîm am hyn.

 

Yng nghyswllt mynwent Brynmawr, cadarnhaodd y Swyddog fod darn o  waith ar wahân ar adeilad yr hen gapel gorffwys, ac y cyflwynir adroddiad maes o law.

 

Dywedodd Aelod y bu gwelliant enfawr mewn cynnal a chadw mynwentydd yn y Fwrdeistref.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a gododd Aelod am feinciau, cadarnhaodd y Swyddog y cynhelir adolygiad i ddynodi unrhyw rai sydd angen eu hadnewyddu ac yn y blaen. Cadarnhaodd hefyd y mabwysiadwyd polisi fel canlyniad i waith a wnaed gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen Craffu i gynnwys rhai manylebion a chyfnod cynnal a chadw ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu mainc.

 

Holodd Aelod am yr amserlen ar gyfer gwaith Blaenoriaeth 1 a dywedodd y Swyddog y gobeithir y caiff y gwaith seilwaith ei gwblhau o fewn 3 mis.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir yn Atodiad 1 (blaenoriaethau cynnal a chadw mynwentydd).

 

8.

Adroddiad Sefyllfa Ceffylau sy’n Pori’n Anghyfreithlon pdf icon PDF 730 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd.

 

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg ar fater ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon o fewn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r adroddiad yn amlinellu maint y broblem, yn cynnwys dynodi lleoliadau daearyddol lle rhoddir adroddiadau cyson am y broblem, a nododd y fframwaith deddfwriaethol a pholisi a ddefnyddir i ddatrys digwyddiadau.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod fod adroddiadau niferus am bori anghyfreithlon yn yr ardal o dir glas yn West Side, Blaenau, ond na chafodd ei gynnwys yn yr adroddiad. Dywedodd hefyd fod y ffigurau’n ymddangos yn eithaf isel a holodd sut y cânt eu cofnodi, gan y derbynnir cwynion drwy wahanol lwybrau, h.y. iechyd yr amgylchedd, lles anifeiliaid a hefyd stadau.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y ddeddfwriaeth a dywedodd fod pryder y byddai’r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw faterion llesiant ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon ar dir y Cyngor. Cyfeiriodd wedyn at adran 2.6 yr adroddiad a gofynnodd faint oedd cost y gwaith ar y cyd i’r Cyngor. Yn nhermau’r cynigion a amlinellir yn yr adroddiad, gobeithiai y byddai buddsoddiad wrth weithredu yn atal troseddwyr mynych.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog y byddai’n cysylltu gyda’r Aelod parthed yr ardal tir glas yn West Side, Blaenau. Fodd bynnag, yng nghyswllt y ddeddfwriaeth a phryderon am gyfrifoldeb am berchnogion tir, dywedodd y Swyddog mai perchnogion y ceffylau fyddai’n gyfrifol yn y pen draw am eu llesiant. Os cymeradwyir yr adroddiad, dywedodd y byddai’n galluogi Swyddogion i  fynd ymlaen i symud ceffylau o dir yn syth, yn achos troseddwyr mynych hirdymor; a rhoddodd sicrwydd am lesiant ceffylau pe byddai hyn yn digwydd.

 

Cyfeiriodd y Swyddog wedyn at y costau ar gyfer y gwaith ar y cyd a wnaed yn 2013/14, a chadarnhaodd fod hyn tua £3k ac y cafodd ei gyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y cafodd y gwaith ar y cyd ei gyflawni drwy gydweithrediad a chefnogaeth elusennau ceffylau a grwpiau hawliau lles anifeiliaid, a bu’n llwyddiannus iawn. Nid oes unrhyw broblemau sylweddol wedi codi ers y dyddiad hwnnw.

 

Yng nghyswllt sylwadau gan Aelod am y ffigurau, cadarnhaodd y Swyddog y caiff pob cwyn am bori anghyfreithlon ar dir y Cyngor eu cofnodi gyda’r Adran Stadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Stadau a Rheoli Asedau Strategol y cafodd y data ei baratoi o gofnodion o fewn yr Adran a gwybodaeth Swyddogion o drin cwynion o bori anghyfreithlon. Mae cofnodion mwy cywir yn cael eu cadw yn awr ac ymddangosai fod nifer o achosion o bori anghyfreithlon bob blwyddyn a throseddwyr mynych.

 

Dilynodd trafodaeth pan awgrymodd Aelod y gellid hefyd gynnal trafodaethau gyda Tai Calon am bosibilrwydd dull partneriaeth at y broblem o anifeiliaid yn crwydro.

 

Dywedodd Aelod y bu anifeiliaid yn crwydro yn broblem am flynyddoedd lawer a dywedodd fod angen adolygu contract y Cyngor gyda Chyngor Sir Powys.

 

Cynigiodd Aelod yr ychwanegiad dilynol i Opsiwn 1 yr adroddiad:

 

‘Ac argymhellodd fod y Cyngor yn edrych ar weithio gyda phartneriaid a chael caniatâd i  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Defnyddio Ymgynghorwyr pdf icon PDF 485 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy’n rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghyswllt y gwariant a wnaed yn ystod 2018/2019 a 2019/2020 ar ddefnydd ymgynghorwyr i gefnogi, atodi ac ategu gwaith Swyddogion ar draws y Cyngor.

 

Dywedodd mai mantais defnyddio ymgynghorwyr yw mai dim ond am gyfnod byrrach mae eu hangen sy’n galluogi’r Cyngor i dalu am unrhyw sgiliau neilltuol pan mae eu hangen a dim ond pan mae eu hangen. Mae hyn yn aml yn ddefnydd effeithlon o adnoddau’r Cyngor ac yn osgoi’r angen i gyflogi staff ychwanegol gyda gwybodaeth a sgiliau arbenigol, ar sail barhaol.

 

Gwariodd y Cyngor gyfanswm o £0.7m yn ystod 2018/2019 a £1.1m yn 2019/20 ar ymgynghorwyr ar draws pob gwasanaeth, ac mae’r Atodiad i’r adroddiad yn dynodi’r ymgynghorwyr hynny, y costau a’r rheswm dros eu cyflogi yng nghyswllt portffolio’r Amgylchedd.

 

Gofynnodd Aelod pa mor aml mae cyflogi ymgynghorwyr wedi arwain at fynd ymlaen â phrosiectau.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr Atodiad yn dynodi nifer o feysydd lle mae defnydd ymgynghorwyr wedi arwain at sicrhau cyllid allanol ychwanegol.

 

Dywedodd yr Aelod y byddai dadansoddiad o’r ffigurau yn fanteisiol yn nhermau’r swm a wariwyd ar ymgynghorwyr o gymharu gyda’r prosiectau y symudwyd ymlaen â nhw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’n rhoi dadansoddiad o’r ffigurau yng nghyswllt portffolio’r Amgylchedd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, lle sicrheir cyllid allanol, y gall hyn fod yn rhan o brosiect mwy y gall y Cyngor hefyd fod yn cyfrannu ato.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr Atodiad a gofynnodd am eglurhad ar y prosiect Gwastraff. Mynegodd gonsyrn hefyd am y risg o ddefnyddio cronfeydd oedd wedi eu clustnodi ar gyfer cyfleuster profi ac olrhain.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y prosiect Gwastraff yn brosiect ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Fynwy. Dywedodd fod y gost yn wariant unwaith-yn-unig yng nghyswllt cyngor cyfreithiol arbenigol sydd ei angen i sefydlu’r trefniant ar y cyd ac y caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Yng nghyswllt y prosiect profi ac olrhain, teimlai y bu’r cyngor arbenigol yn ddefnyddiol ac angenrheidiol i gyflawni prosiect o’r math hwnnw a theimlai Aelodau hefyd mai dyma’r dull cywir i ddynodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer y Cyngor. Mae’r gwariant o gronfeydd wrth gafn a glustnodwyd ac nid yw o anfantais i unrhyw brosiectau eraill.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r defnydd o ymgynghorwyr (Opsiwn 1).

 

10.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 397 KB

Derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y flaenraglen waith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 12 Ebrill 2021.

 

Dywedodd y Cadeirydd i Aelodau wneud y ceisiadau dilynol:

 

·         Adolygu cofrestr bresennol y Cyngor o domennydd glo segur

·         Gwybodaeth ar nifer y dirwyon a wnaed yng nghyswllt tipio anghyfreithlon

·         Adolygu gorchmynion traffig (llinellau melyn) mewn ardaloedd preswyl

·         Adolygu contract y Cyngor gyda Chyngor Sir Powys yng nghyswllt anifeiliaid yn crwydro ac yn y blaen

·         Gwybodaeth ar orfodaeth rheoliadau Covid

·         Gwybodaeth ar y trac rasio anghyfreithlon yn Georgetown, Tredegar

·         Diweddariad ar achos busnes Silent Valley

 

Dywedodd Aelod y dylid diwygio enw’r Deiliad Portffolio i ddarllen Joanna Wilkins.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad (Opsiwn 1).