Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Dydd Llun, 6ed Ionawr, 2020 11.00 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen hysbysiad o 3 diwrnod gwaith o leiaf os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorwyr G. Paulsen, M. Cook, S. Thomas a
H. Trollope.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unryw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 222 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2019.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o Bwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gymeradwyo'r cofnodion.

 

 

5.

Blaenraglen Gwaith - 9.4.2020 pdf icon PDF 485 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Flaenraglen Gwaith Bwrdd Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y cyfarfod y bwriedir ei gynnal ar 9 Ebrill 2020.

 

Dywedodd y Cadeirydd y dylai Opsiwn 1 ac Opsiwn 2 ddarllen 9 Ebrill 2020 ac nid 6 Ionawr 2020 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Blaenraglen Gwaith Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y bwriedir ei gynnal ar 9 Ebrill 2020.

 

6.

Rhwydwaith Llesiant Integredig Blaenau Gwent pdf icon PDF 750 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Arweinydd Gwasanaeth Rhwydwaith Llesiant Integredig.

 

Cyfeiriodd Arweinydd Gwasanaeth Rhwydwaith Llesiant Integredig at yr adroddiad sy'n rhoi diweddariad ar y cynnydd ar weithredu'r Rhaglen Trawsnewid Rhwydwaith Llesiant Integredig Rhanbarthol ar gyfer Blaenau Gwent. Rhoddodd yr Arweinydd Gwasanaeth drosolwg manwl o gefndir a chwmpas y weledigaeth a sut y cafodd ei ddatblygu a'i alinio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dywedwyd fod 'Adeiladu Gwent Iachach' yn dynodi llawer o ffactorau sy'n dylanwadu ar ein hiechyd a llesiant sy'n cynnwys cysylltiadau gyda'r gymuned, tai da, diogelwch ariannol ac yn amlygu pwysigrwydd adeiladu system lesiant i ddod â chymunedau ynghyd i ostwng unigrwydd ac ynysigrwydd ynghyd â rhoi cefnogaeth gyda phroblemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

 

Aeth yr Arweinydd Gwasanaeth ymlaen drwy ddweud mai cysyniad y rhaglen trawsnewid Rhwydwaith Llesiant integredig oedd gweithio gyda'r asedau sydd eisoes ar gael yn y gymuned i ddatblygu hybiau cymunedol a sicrhau bod meddygfeydd, sefydliadau cymunedol a grwpiau i gyd yn gwybod am ei gilydd a'r gefnogaeth y gellid ei rhoi os oedd angen cael mynediad i wasanaethau.

 

Defnyddiwyd ardaloedd dechreuol Brynmawr a Tredegar mewn cysylltiad gyda'r Hybiau Canolfannau Iechyd a ddatblygwyd yn ddiweddar, felly caiff y gwaith ei ymestyn ar draws Blaenau Gwent. Byddid yn cynnal gwaith i fapio'r holl asedau sydd ar gael i sicrhau y gall pobl gael mynediad i'w gwasanaethau perthnasol.

 

Mae cyfeiriadur ar-lein ar gael fel opsiwn i chwilio a chanfod gwasanaethau sydd ar gael a gobeithid drwy'r cynllun Datblygu Gweithlu y byddai gweithlu medrus yn cael ei ffurfio er mwyn cysylltu pobl gyda chefnogaeth llesiant yn eu hardal leol. Mae hyn yn rhoi cyfle ar gyfer staff rheng-flaen mewn lleoedd megis meddygfeydd a llyfrgelloedd a llawer mwy i roi pobl ar ben y ffordd.

 

Dywedodd yr Arweinydd Gwasanaeth y byddai'r Rhwydwaith yn gwella cymunedau, gostwng y galw ar becynnau gofal gan alluogi preswylwyr i aros yn eu cartrefi eu hunain. Byddai'n creu cymunedau mwy cyfeillgar a diogel sy'n grymuso unigolion yn ogystal â grwpiau i ofalu am eu hiechyd a llesiant eu hunain a phobl eraill.

 

I gloi, cyfeiriodd Arweinydd Gwasanaeth Rhwydwaith Llesiant Integredig yr Aelodau at yr opsiynau i gael eu hystyried a gwahoddodd gwestiynau ar y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at gydweithredu a gweithio partneriaeth a gofynnodd os y cysylltwyd â'r grwpiau pensiynwyr lleol i gymryd rhan.

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd Gwasanaeth Rhwydwaith Llesiant Integredig y gofynnir am y cydweithredu hwn drwy'r Fforwm 50+ a bwriedir ymweld â phob gr?p ar draws Blaenau Gwent. Ychwanegodd Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus/ Arweinydd Strategol Blaenau Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y ceisir gwybodaeth ar bobl h?n gan feddygfeydd gan y byddai unigolion unig neu ynysig yn ymweld â'u meddyg teulu lleol a chroesewid gwybodaeth gan Aelodau Etholedig a fyddai hefyd yn gwybod am grwpiau yn eu cymunedau perthnasol.

 

Yn nhermau ymestyn y Rhwydwaith Llesiant Integredig, cadarnhawyd fod Brynmawr a Tredegar yn cael eu peilota i ddechrau. Byddai'r gwaith hwn yn cael ei ymestyn ar draws Blaenau Gwent, fodd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Hyb Diogelwch Cymunedol pdf icon PDF 494 KB

Ystyried adroddiad Prif Arolygydd Heddlu Gwent.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Prif Arolygydd Heddlu Gwent ac Arweinydd Proffesiynol Diogelwch y Gymuned.

 

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Gwent fod yr adroddiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed gan Hyb Diogelwch Cymunedol Blaenau Gwent a sefydlwyd i gynorthwyo partneriaid sy'n gweithio ym Mlaenau Gwent i gydweithio o ran materion Diogelwch Cymunedol sy'n effeithio ar yr ardal leol.

 

Dywedwyd fod yr Hyb yng Ngorsaf Heddlu Glynebwy ac ar agor ar ddyddiau Mawrth a Iau i bartneriaid gwrdd. Cynhelir cyfarfod partneriaeth bob bythefnos ar faterion lleol a chaiff cynlluniau gweithredu eu datblygu i drin problemau. Teimlai'r Prif Arolygydd fod y cyfarfodydd hyn yn gynhyrchiol ac yn cael canlyniadau da.

 

Ychwanegwyd y cafodd adolygiad ei gynnal o bob Hyb Partneriaeth ar draws y pump rhanbarth a chafodd arolygon eu cylchredeg i gael adborth. Cafodd y canlyniadau eu meincnodi ar gyfer pob Hyb i sicrhau y defnyddir dull gweithredu cyson. Hefyd, teimlid fod y broses hefyd yn rhoi cyfle i rannu arfer da.

 

Ar y pwynt hwn rhoddodd y Prif Arolygydd drosolwg o'r sylwadau a gafwyd o'r arolwg a amlinellu astudiaethau achos o waith da asiantaethau yn ymwneud â'r gweithio partneriaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Arolygydd am y trosolwg o waith yr Hyb Diogelwch Cymunedol a chroesawodd gwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at fygythiadau a wnaed i staff a gofynnodd sut y digwyddodd y bygythiadau hyn a'r nifer o fygythiadau a wnaed. Dywedodd Arweinydd Proffesiynol Diogelwch Cymunedol y caiff bygythiadau i staff eu gwneud mewn amrywiaeth o ffyrdd yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a wyneb i wyneb. Cyflwynwyd diweddariad rheolaidd i'r Rheolwr Gyfarwyddwr ar y bygythiadau ac mae'r broses i fynd i'r afael â bygythiadau hefyd ar gael i staff. Roedd hefyd broses yn ei lle ar gyfer staff seiliedig mewn ysgol gyda'r Pennaeth Trawsnewid Addysg yn Swyddog Arweiniol ar y Gr?p Diogelwch Corfforaethol.

 

Dywedodd Arweinydd Proffesiynol Diogelwch Cymunedol y caiff y problemau'n gysylltiedig â bygythiadau i staff eu hadolygu gan y Gr?p Iechyd a Diogelwch newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a wnaed yng nghyswllt cynyddu CCTV, dywedwyd y cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ym mis Chwefror.

 

Teimlai Aelod y dylai Aelodau Etholedig gael yr un ystyriaeth â staff yn nhermau bygythiadau gan fod cynghorwyr hefyd yn agored i fygythiadau. Dywedodd Arweinydd Proffesiynol Diogelwch Cymunedol y gellir hefyd ddefnyddio'r protocol bygythiadau staff ar gyfer Aelodau Etholedig gan ei fod yn rhoi cyngor ac arweiniad.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau ei bod yn bwysig bod unrhyw fygythiadau yn cael eu hadrodd i'r Heddlu a'r Tîm Iechyd a Diogelwch.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

 

8.

Parod i’r Hinsawdd Gwent pdf icon PDF 628 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau, y Swyddog Polisi a Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Dywedwyd fod yr adroddiad yn cyflwyno astudiaethau achos yng nghyswllt Climate Ready Gwent ac yn amlinellu profiadau byw yn gysylltiedig â materion newid hinsawdd sy'n effeithio ar ranbarth Gwent. Mae Gr?p Gweithredu Strategol Llesiant Gwent (GWSAG) wedi comisiynu gwaith i gynnal y prosiect Climate Ready ar draws y pump rhanbarth yng Ngwent. Mae'r prosiect yn mynd ati i ddynodi ffyrdd o weithio o fewn cymunedau lleol ar addasu hinsawdd ac wedi defnyddio profiadau byw i sicrhau ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth go iawn. Cafodd naw astudiaeth achos gwahanol eu datblygu gyda gwahanol gymunedau yn cynnwys y Fforwm 50+ ac Uwch Gyngor Plant ym Mlaenau Gwent. Y canfyddiadau oedd yr astudiaethau achos a amlinellir yn atodiadau'r adroddiad.

 

Rhoddodd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru drosolwg o'r adroddiad a dywedodd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i roi ystyriaeth i newid hinsawdd fel prosiect yn y cyfarfod y bwriedir ei gynnal ar 21 Ionawr 2020.

 

Dywedodd y cynrychiolydd ei bod drwy weithio'n rhanbarthol gyda phrosiectau eraill ar draws Gwent wedi dysgu o'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn Sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd a nododd yr ymgyfraniad cadarnhaol gan gymunedau sy'n awyddus i gymryd rhan a chael eu lleisiau wedi'u clywed. Yn ystod y dull ymgysylltu mae'n bwysig y caiff y prosiect ei hyrwyddo am yr hyn y gallem ei wneud fel cymuned yn hytrach na gweithio ar wahân.

 

Ychwanegwyd fod dealltwriaeth o'r heriau a'r risgiau. Dywedodd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru ei bod yn gyffrous gweld cymunedau yn dod ynghyd i ddeall y darlun newid hinsawdd a'r hyn mae'n ei olygu ar gyfer ein tirluniau, bywyd gwyllt ac chynefinoedd. Roedd hefyd yn fater y gellid edrych arno ar y cyd, nid dim ond mewn rhanbarthau lleol ac yn rhanbarthol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru a gwahoddodd gwestiynau gan Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd am wefru ceir trydan a seilwaith ynni, dywedwyd fod hyn yn rhan o brosiect gostwng allyriadau carbon ac mae'n agwedd o Bartneriaeth Climate Ready Gwent sy'n gweithio ar draws sectorau cyhoeddus i ostwng allyriadau carbon ac mae Blaenau Gwent yn arwain y ffordd ar y gwaith partneriaeth hwnnw. Ychwanegwyd fod Blaenau Gwent yn arwain y caffael ar ran y rhanbarth yn nhermau gosod mannau gwefru trydan.

 

Cyfeiriodd Aelod at dd?r llwyd a gofynnodd os mai d?r brwnt a ddefnyddir o fewn y cartref oedd hyn.

 

Dywedodd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru y credai fod d?r llwyd yn dd?r glaw a gasglwyd y gellid ei ddefnyddio i fflysio toiledau, d?r heb ei drin na fedrid ei ddefnyddio ar gyfer yfed.. Ychwanegodd y gallai'r mathau hyn o newidiadau gael eu hadeiladu i benderfyniadau am gynllunio a datblygu yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod arall fod gan ddatblygiad tai newydd a godir gan Tai Calon doeau gwyrdd ac wedi disgrifio dulliau tebyg ar gyfer y datblygiad. Dywedodd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru fod hyn yn dangos sut y gellid addasu  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod pdf icon PDF 542 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Partneriaeth, Rhaglen Gweithredu Cynnar Gyda'n Gilydd

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd Partneriaeth, Rhaglen Gweithredu Cynnar gyda'n Gilydd, Gwent.

 

Nododd Arweinydd Partneriaeth, Rhaglen GweithreduCynnar gyda'n Gilydd Gwent yr adroddiad sy'n amlinellu'r rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n sicrhau fod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Gwent wedi paratoi ar gyfer y rhaglen gyda chymorth hyfforddiant ar gyfer staff allweddol yn eu sefydliadau perthnasol.  Siaradodd yr Arweinydd Partneriaeth yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellu'r pwyntiau allweddol ynddo. Dywedodd fod y cyllid ar gyfer y rhaglen i ddod i ben ym Mawrth 2020 ac i'r hyfforddiant ddod i ben ar gyfer yr heddlu a phartneriaid ym mis Tachwedd 2019. Ym mis Hydref 2019 roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ystyried papur am faterion allweddol a chytuno i gau'r prosiect. Disgwylir papur pellach yn 2020 gydag argymhellion i gefnogi yn dilyn cau'r prosiect.

 

Gofynnodd Aelod os cafodd hyfforddiant ei ddarparu i hyfforddwyr mewn clybiau chwaraeon gan y gall plant/pobl ifanc mewn chwaraeon deimlo'n gysurus yn siarad gyda hyfforddwyr. Dywedodd yr Arweinydd Partneriaeth, Rhaglen Gweithredu'n Gynnar gyda'n Gilydd Gwent y byddai'r gwaith yn y dyfodol yn cael ei wneud gan Hyb Cefnogi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i'w ymestyn i glybiau chwaraeon a chymunedau chwaraeon.

 

Mewn ymateb i bryderon am gau'r proseict, dywedwyd y byddai Gweithlu Ymwybyddiaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn cyflwyno'r hyfforddiant, fodd bynnag cafodd llawer iawn o hyfforddiant ei wneud. Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr nad oes staff gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus felly y byddid yn ystyried dull gweithredu partneriaeth ar sut y byddai sefydliadau yn parhau'r gwaith mewn busnes dyddiol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef bod Bwrdd Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi'r adroddiad ar gau'r prosiect i'w gyflwyno i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.