Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 14eg Hydref, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar gael.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau dilynol o fuddiant a goddefebau:

 

Cynghorydd J. Wilkins – Eitem Rhif 13

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 357 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2020.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

5.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 245 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020. 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 339 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD  cadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 240 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

8.

Blaenraglen Gwaith – 9 Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 463 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

9.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 97 KB

Derbyn adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd yr Arweinydd y dylai’r dyraniad a wnaed gan Gapel Glowyr Seion gan y Cynghorydd J. Holt ddarllen £50.00 ac nid £200.00.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Adroddwyd y grantiau ychwanegol dilynol:-

 

 

 

ABERTYLERI

Ward Llanhiledd - Cynghorwyr J. Collins a N. Parsons

 

 

1.

Gr?p Gweithgareddau Brynithel

£150

 

GLYNEBWY

Ward Beaufort – Cynghorwyr G. Thomas a S. Healy

 

 

1.

Theatr Beaufort

£100

 

TREDEGAR

 

Ward Georgetown & Canolog & Gorllewin - Cynghorwyr

K. Hayden,  J. Morgan, S. Thomas, H. Trollope a B. Willis

 

 

1.

Cadetiaid Awyrlu 2167

£200

2.

Clwb Bowls Parc Bedwellte

£200

3.

Capel Bethania

£200

4.

Cegin Gymunedol Chloe

£200

5.

Cymru Creations

£200

6.

Clwb Pêl-droed Dan 13 Tredegar

£100

7.

Clwb Pêl-droed Tigers Dan 10 Tredegar

£100

8.

Gymfinity

£200

9.

Kids R Us

£200

10.

Gr?p Mam a’i Phlentyn, Eglwys Bedyddwyr Canolog Tredegar

£200

11.

Eglwys San Siôr

£200

12.

Clwb Bocsio Amatur Silwrian

£200

13.

Fforwm Busnes Tredegar

£200

14.

Eglwys Bedyddwyr Canolog Tredegar

£200

15.

Eglwys Fethodistaidd Tredegar

£200

16.

Pêl-droed Tredegar

£200

17.

Côr Orffews Tredegar

£200

18.

Clwb Pêl-droed Amatur Iau Tref Tredegar

£100

19.

Clwb Pêl-droed Tref Tredegar

£100

20.

Clwb Pêl-droed Menywod a Merched Tredegar

£200

21.

Clwb Camera Tredvale

£200

22.

Pensiynwyr Stocktonville

£200

23.

Y Lleng Brydeinig (Moose International)

£200

24.

Planet Fitness

£200

25.

Clwb Pysgota Tredegar

£200

26.

Fforwm Treftadaeth Blaenau Gwent

£200

27.

Ambiwlans Sant Ioan Tredegar

£117.85

28.

Clwb Rygbi Tredegar Ironsides

£100

29.

Clwb Rygbi Iau Tredegar Ironsides

£100

30.

Rhandiroedd Southend

£100

31.

Gwenynwyr Southend 

£100

32.

Canolfan Gymunedol Georgetown

£200

33.

Coetiroedd Cwm Sirhywi

£200

34.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr St Georges Court

£200

35.

Cymdeithas Cadwraeth Bws Reliance

£200

36.

Capel Saron

£200

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr wybodaeth a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

10.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Ymestyn Rhaglen Anelu’n Uchel Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 568 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol mai diben yr adroddiad yw sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer cyflwyno cynnig i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ymestyn rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel a dod yr Awdurdod cynnal. Hefyd, i geisio cymeradwyaeth ar gyfer cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru uno rhaglenni Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ac Anelu’n Uchel Merthyr Tudful o fis Medi 2021 a fyddai’n cadw cyllid i’r ddau awdurdod lleol weithio gydag addysg i hwyluso prentisiaethau.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol gefndir gwaith Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel a dywedodd iddo ennill gwobr ‘Cyflogwr Mawr y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2019. Mae categori’r wobr, ‘Cyflogwr Mawr a Macro y Flwyddyn’, yn cydnabod ac yn dathlu ymrwymiad y cyflogwr i ddatblygu eu gweithlu drwy brentisiaethau, tra’n cefnogi gweithwyr cyflogedig yn ystod hyfforddiant.

 

Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r rhaglen yn agor cyfleoedd yn ein cymuned a ledled Blaenau’r Cymoedd. Mae gan y model hefyd y gallu i weithredu ar draws y brifddinas-ranbarth gyda recriwtio ychwanegol. Teimlai ei bod yn gadarnhaol bod Blaenau Gwent yn arwain ar y rhaglen ac y gofynnwyd i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i fynd â hyn rhagddo yn seiliedig ar fodel Blaenau Gwent.

 

Nododd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr edmygaeth o’r rhaglen a’i fod yn falch i weithio gyda’r Tîm Anelu’n Uchel.

 

Mae’r Agenda Sgiliau yn bwysig iawn i Flaenau Gwent a Chymru ac mae gwaith y tîm bach hwn yn enfawr ac yn dangos dylanwad y rhaglen honno drwy’r gydnabyddiaeth y bydd Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymestyn y rhaglen. Mae’r Rhaglen yn enghreifftiol ac yn rhywbeth a ddefnyddir fel arfer gorau. Dywedodd yr Aelod Gweithredol iddo fod yn bresennol yn y noson wobrwyo a’i bod yn wych gweld y cyflogwyr eraill yr oedd yr Awdurdod yn cystadlu yn eu herbyn. Mae’r gwaith yn gyfle gwych i weithio gyda Merthyr Tudful a fyddai yn ein harwain i’r Fargen Ddinesig a rhoi’r ehangiad hwnnw i weithio drwy’r rhanbarthau gydag awdurdodau a ddymunai ymuno. Teimlid fod hyn yn gyfle gwirioneddol i symud y rhaglen ar draws y 10 awdurdod gan roi prentisiaethau go iawn, gan weithio gyda gweithgynhyrchwyr go iawn sy’n rhoi cyfleoedd a chyfraddau cyflogaeth rhagorol.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod y cyfle yn cydnabod y gydnabyddiaeth a’r parch at y Cyngor yn nhermau’r hyn a gyflawnwyd yn y 3-4 blynedd ddiwethaf. Mae’r gwaith caled a’r ymroddiad wedi creu rhywbeth a fyddai’n dempled i’w ddefnyddio ar draws De Ddwyrain Cymru am flynyddoedd lawer. Byddai’r Rhaglen yn parhau i fod o fudd i’r bobl ifanc yn ein cymunedau a dymunai’r Arweinydd longyfarch yr Aelod Gweithredol, y Cyfarwyddydd Corfforaethol a’r Tîm ar eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1: sef cyflwyno dau gynnig, un i’r Fargen Ddinesig a’r llall i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd haf 2020. Mae’r gymeradwyaeth yn rhoi cyd-destun strategol a ffocws clir i gefnogi dull gweithredu partneriaeth a chydweithio i weithredu camau gweithredu penodol a darpariaeth cyflogaeth a sgiliau cysylltiedig.

 

11.

Cynllun Peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol mai diben yr adroddiad oedd cael sylwadau ar y prosiect peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig ym Mlaenau Gwent. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod Llywodraeth Cymru wedi dynodi Blaenau Gwent fel ardal a fyddai’n cael budd o gynllun peilot a dywedodd y caiff y prosiect hwn ei weithredu ar draws tair ardal awdurdod lleol yng Nghymru – Sir Benfro, Conwy a Blaenau Gwent. Byddai’r awdurdodau hyn yn manteisio o beilota math newydd o drafnidiaeth gyhoeddus  fyddai’n rhedeg gwasanaethau tu allan i’r amserau rhedeg arferol. Byddai 2 fws yn cael eu caffael fel rhan o’r prosiect a byddai’n gweithredu i ddechrau yng nghymoedd Ebwy Fach ac Ebwy Fawr. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu bob amser bryderon am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent ac mae’r cynllun peilot hwn yn rhoi cyfle i brofi’r galw am lwybrau a gwasanaethau neilltuol. Gobeithid y byddai hyn wedyn yn anelu i roi mwy o hyblygrwydd ar gyfer defnyddwyr.

 

Byddai’r prosiect hefyd yn cysylltu gyda’r strategaeth trafnidiaeth ar gyfer Blaenau Gwent ac yn rhoi’r data perthnasol i wella dealltwriaeth y Cyngor o batrymau teithio a lle’n briodol yn ein galluogi i wella ac addasu gwasanaethau trafnidiaeth i wasanaethu anghenion cyfredol a dyfodol preswylwyr.

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad gan ei fod yn dynodi’r ymddiriedaeth a roddodd Llywodraeth Cymru yn y Cyngor i gynnal cynllun peilot. Teimlai’r Aelod Gweithredol fod Blaenau Gwent yn ardal ardderchog i gynnal y peilot gan fod daearyddiaeth yr ardal yn amrywiol.

 

Teimlai’r Aelod Gweithredol hefyd y dylai trafnidiaeth gyhoeddus gael ei reoli gan y sector cyhoeddus gan ein bod mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion ein cymunedau. Byddai’r cynllun peilot yn rhoi cyfle i ymateb i’r galw.

 

Teimlai’r Arweinydd ei bod yn bwysig bod y cynllun peilot yn cael cyhoeddusrwydd da i bawb, p’un ai oes ganddynt fynediad i’r cyfryngau cymdeithasol ai peidio. I fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol bod ein holl gymunedau yn cymryd rhan. Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol fod trafodaethau dechreuol ar sut y byddai’r cynllun peilot yn cael ei farchnata a chytunwyd ei bod yn bwysig y caiff anghenion pob preswylydd eu diwallu.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymunedol fod hefyd angen siarad gyda darparwyr eraill yn nhermau cysylltiadau i’r Ysbyty Grange newydd er mwyn i breswylwyr gael mynediad i’r ysbyty hwn. Mewn ymateb, cadarnhawyd y cynhelir dialog gyda phartneriaid yn y sector iechyd a rhoddir ystyriaeth i ganol trefi, mannau cyflogaeth a materion mynediad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef cymeradwyo symud ymlaen gyda’r prosiect peilot a chyflwyno Trafnidiaeth Ymatebol Integredig i Flaenau Gwent.

 

12.

Tai Strategol: Cyllid Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd pdf icon PDF 520 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn amlinellu cyfle Cronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol wrth ymateb i gyfle’r Gronfa Bwlch Hyfywedd, yn cynnwys dynodi safleoedd datblygu posibl ac yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu achos busnes a gwaith cysylltiedig i benderfynu ar y bwlch hyfywedd a chefnogi gais i’r Fargen Ddinesig.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach am yr adroddiad ac amlinellu cyfle’r Cylild Bwlch Hyfywedd, cyllid refeniw ac amserlen y gronfa. O ran sefyllfa a safleoedd Blaenau Gwent dywedwyd y cafodd safleoedd posibl eu dynodi yn y sector preifat ac y byddai’r rhain yn cael eu hystyried gyda’r perchnogion i benderfynu ar ddiddordeb yn y cynllun.

Croesawodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad ac roedd yn falch i weld y buddsoddiad gan fod tai yn sbardun allweddol yn yr economi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi Opsiwn 1: cyfle Cronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; yn cynnwys y sefyllfa bresennol o fewn Blaenau Gwent yng nghyswllt dynodi safleoedd datblygu posibl. Hefyd cymeradwywyd parhau i ymchwilio’r safleoedd a ddynodwyd er mwyn penderfynu ar y bwlch hyfywedd; a lle’n briodol, datblygu achos(ion) busnes a gwaith cysylltiedig i gefnogi cyflwyno cais i Gronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

13.

Yr Economi – Adferiad Economaidd yn dilyn COVID-19 pdf icon PDF 739 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Wilkins fuddiant yn yr eitem hon, fodd bynnag arhosodd yn y cyfarfod yn ystod trafodaethau.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Croesawodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad cadarnhaol sy’n nodi’r strategaeth arfaethedig y byddai Blaenau Gwent yn ei mabwysiadu mewn ymateb i COVID-19. Mae’r strategaeth yn cefnogi’r sectorau a’r busnesau yn y Fwrdeistref Sirol ac yn rhoi diweddariad cynnydd ar y gwaith sy’n mynd rhagddo’n lleol sy’n bwydo i’r cynlluniau rhanbarthol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod pandemig a chyfnod clo COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar lawer o fusnesau a chyflogaeth ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Cafodd masnachu’r rhan fwyaf o gwmnïau ei darfu gan achosi problemau tymor byr a hirdymor mewn llawer o sectorau. Edrychodd yr adroddiad at ddata a gasglwyd gan wahanol sefydliadau a gweithredu modelu i edrych ar y ffigurau diweithdra posibl ar gyfer Blaenau Gwent. Roedd hefyd yn ystyried busnesau sydd angen cymorth ac a fedrai hybu’r economi lleol yn y dyfodol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol drosolwg manwl o’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cafodd modelu diweithdra COVID ei weithredu ar draws gwahanol sectorau gan roi ffigurau gwirioneddol ar gyfer diweithdra yn y Fwrdeistref a nododd mai’r sefyllfa achos gwaethaf fyddai ychydig dros 4,200 o bobl ychwanegol yn ddi-waith gyda 1,700 o swyddi newydd yn cael eu disgwyl dros yr un cyfnod. Roedd hefyd nifer o dueddiadau a chamau gweithredu yn deillio o’r data a gallai gwaith ddechrau ar gynlluniau a all fod angen eu datblygu a fyddai’n galluogi busnesau Blaenau Gwent i addasu i’r ffyrdd newydd o weithio a amlinellwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Wedyn amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y camau gweithredu tymor byr a hirdymor i fynd rhagddynt ar draws y sectorau fel y manylir yn yr adroddiad.

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y gwaith a dywedodd fod yr adroddiad yn torri ar draws nifer o feysydd gwasanaeth. Adran fach yw'r Tîm Datblygu Economaidd a chawsant eu cefnogi gan Refeniw a Budd-daliadau i ddiogelu a chefnogi busnesau drwy gyllid grant. Cafodd y cysylltiad gyda busnesau ei gadw drwy gydol y cyfnod clo a dymunai ddiolch i’r staff am eu gwaith caled.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod y pandemig wedi effeithio ar lawer iawn o swyddi a busnesau a bod yr her yn parhau gan nad oes unrhyw ddyddiad gorffen. Roedd yn hyderus fod y gefnogaeth yn ei lle i ddiogelu beth bynnag a fedrwn a pharhau i ddod â buddsoddiad i Flaenau Gwent.

 

Ategodd yr Arweinydd ymdrechion swyddogion yn ystod y cyfnod hwn a dywedodd fod unigolion wedi cysylltu ag ef yn canmol gwaith y Tîm Datblygu Economaidd i sicrhau eu bod yn goroesi. Mae staff Datblygu Economaidd yn rhagorol ac wedi rhoi cymorth gwych mewn cyfnod ansicr.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr holl adroddiadau Adfywio a Datblygu Economaidd a ystyriwyd o safon rhagorol. Mae’n dangos ymrwymiad ac arbenigedd yn y maes dan arweiniad yr Aelod Gweithredol. Roedd y materion a ystyriwyd yn bwysig i’r cyhoedd, ac wedi bod yn anodd i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

14.

Polisi Diwygiedig Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol pdf icon PDF 428 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

15.

Blaenau Gwent – Cytundeb Partneriaeth Ôl-16 pdf icon PDF 415 KB

Ystyried adroddiad  y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Amlinellodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr adroddiad a gyflwynwyd i geisio cymeradwyaeth i sefydlu Bwrdd Partneriaeth Ôl 16 Blaenau Gwent. Mae trefniant partneriaeth cryf rhwng y Cyngor a Choleg Gwent sydd wedi aeddfedu mewn blynyddoedd diweddar. Mae gan y Cyngor a Choleg Gwent system ar waith i rannu data ar lefel strategol a gweithredol a chaiff hyn ei ddatblygu ymhellach gyda sefydlu Bwrdd Partneriaeth Ôl 16. Mae’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Gyfarwyddiaeth Addysg, Coleg Gwent, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ysgolion uwchradd Blaenau Gwent. Byddai hefyd gynrychiolwyr o gydweithwyr mewn Adfywio i gwmpasu’r agenda ehangach sgiliau a datblygu economaidd.

 

Cyflwynodd yr Hafan Dysgu adroddiad perfformiad blynyddol i’r Cyngor a gafodd ei gynnwys ar flaenraglen gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ac sy’n rhan o’r Rhaglen Sesiynau Gwybodaeth i Aelodau.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Addysg yr adroddiad sy’n dangos ymrwymiad rhanddeiliaid. Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod perthynas gref rhwng ysgolion uwchradd a Choleg Gwent ac y byddai’r bartneriaeth yn cryfhau hyn ymhellach. Roedd hefyd yn gadarnhaol gweld y byddai’r Tîm Adfywio yn cymryd rhan yn y Bwrdd gan y byddai hyn yn sicrhau llu o fuddion ar gyfer pobl ifanc.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd gyda’r sylwadau a wnaed a theimlai y byddai gweithio gyda Choleg Gwent ac Anelu’n Uchel yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer ein pobl ifanc.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

16.

Buddsoddiad mewn Darpariaeth Chwarae Plant pdf icon PDF 855 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar safleoedd ardaloedd chwarae plant ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen waith bresennol o osod offer chwarae mewn safleoedd a ddynodwyd yn dilyn yr adolygiad helaeth o feysydd chwarae a gynhaliwyd ac a adroddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r rhesymeg dros osod offer chwarae newydd i blant a brynwyd yn dilyn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru. Derbyniwyd y cyllid hwn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/2020 a gwnaed penderfyniad dan awdurdod dirprwyedig oherwydd ein bod mewn cyfnod clo i ailddyrannu’r cyllid a ddynodwyd yn wreiddiol i’r prosiect Parc Sblash. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd y penderfyniad i ailddyrannu’r cyllid ei wneud gan nad oedd Parc yr ?yl mwyach mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda’r prosiect Parc Sblash ac mae’n rhaid i’r Cyngor hysbysu Llywodraeth Cymru sut y caiff cyllid ei ddefnyddio erbyn diwedd Mawrth neu byddai’r cyllid yn cael ei dynnu’n ôl.

 

Dywedwyd y derbyniwyd grant dechreuol o £177,000 o Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru yn 2019/20 i gefnogi gweithredu Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae. Ym mis Mawrth cafodd y Cyngor ei hysbysu gan Lywodraeth Cymru am ddyraniad pellach o gyllid o’r grant ac mae Parc Bryn Bach, Tredegar, wedi manteisio’n ddiweddar o gyllid grant newydd gan Lywodraeth Cymru o Barciau Rhanbarthol y Cymoedd fel rhan o’r Prosiect Porth Darganfod. Cafodd y cyfleuster newydd ei groesawu gan ymwelwyr i’r parc.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad yn dynodi safleoedd ardaloedd chwarae mewn ardaloedd blaenoriaeth yn seiliedig ar werth chwarae, mynediad i’r safle a lefelau defnydd. Rhoddir manylion y safleoedd ardaloedd chwarae a ddynodwyd ac y rhoddir blaenoriaeth iddynt yn Atodiad 1 yr adroddiad. Ychwanegwyd fod Adolygiad Ardaloedd Chwarae 2018 wedi dynodi nifer o ardaloedd chwarae heb fawr neu ddim gwerth chwarae a chytunwyd gyda Aelod Gweithredol  yr Amgylchedd y cynhelir ymgynghoriad pellach gydag Aelodau Ward perthnasol i drafod opsiynau ar gyfer safleoedd.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd y buddsoddiad mewn ardaloedd chwarae plant a bod yr ardaloedd hyn yn hanfodol i lesiant plant yn ystod cyfnodau clo.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr adolygiad gwreiddiol a gynhaliwyd yn 2018 yn Brosiect Effeithiolrwydd Ariannol a ddynodwyd fel rhan o broses gosod y gyllideb. Cafodd yr adolygiad ei gytuno yn 2019 a gwnaed llawer iawn o waith oedd wedi parhau yn erbyn pob her ddiweddar. Teimlai’r Arweinydd fod parhad y gwaith yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i chwarae ac mae’r Agenda Iechyd a Llesiant yn parhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1 ar gyfer gosod yr offer chwarae sydd eisoes wedi ei prynu yn y safleoedd fel y dynodir yn yr adroddiad a chefnogi mwy o ddeialog ar lefel ward yng nghyswllt dyfodol ardaloedd chwarae plant yn unol gyda’r “Adolygiad o Ardaloedd Chwarae” a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2018.

 

17.

Diogelu’r Cyhoedd – Cynllun Awdurdod Sylfaenol pdf icon PDF 656 KB

Ystyried adroddiad  Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn hysbysu Aelodau am y Ddeddf Gorfodaeth a Sancsiynau Rheoleiddio sy’n effeithio ar weinyddiaeth swyddogion gorfodaeth y Cyngor yng nghyswllt Iechyd yr Amgylchedd, Trwyddedu a Safonau Masnachu. Mae’r adroddiad yn cynnig mabwysiadu polisi lle gellid rhoi cyfle i fusnesau addas sy’n masnachu ar draws ffiniau awdurdodau lleol, busnesau newydd neu fusnes sengl i ymrwymo i berthynas gyfreithiol awdurdod sylfaenol gyda Chyngor Blaenau Gwent yng nghyswllt swyddogaethau rheoleiddiol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gofynnir i’r Pwyllgor Gweithredol gymeradwyo mabwysiadu partneriaethau Awdurdod Sylfaenol mewn egwyddor a pholisi lleol cysylltiedig ar gyfer Awdurdod Sylfaenol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol drosolwg ac esboniad o Awdurdod Sylfaenol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1 sef:

 

·         mabwysiadu’r polisi drafft a gynhwysir yn Atodiad 1 a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i ddechrau ar berthynas Awdurdod Sylfaenol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer diben Deddf Gorfodaeth a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008.

 

·         cynnig y cynllun Awdurdod Sylfaenol i fusnesau priodol ar sail adferiad cost ar gyfer yr awdurdod lleol fel y manylir yn y Ddeddf Gorfodaeth a Sancsiynau Rheoleiddiol.

 

·         byddai mabwysiadu’r polisi yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol, coleddu egwyddorion rheoleiddio gwell a chefnogi busnesau lleol. Byddai mabwysiadu’r polisi yn cyfrannu at nodau’r Cyngor i ddatblygu economi llewyrchus ym Mlaenau Gwent lle mae busnesau o bob maint yn cael mynediad i gefnogaeth i ddiwallu eu gofynion rheoleiddiol a hybu twf busnes a’r buddion cysylltiedig i’n preswylwyr a chymunedau.

 

·         nid yw mabwysiadu Opsiwn 1 yn gorfodi’r gwasanaeth i ymrwymo i unrhyw bartneriaethau Awdurdod Sylfaenol ond yn hytrach yn caniatáu cytundeb o’r fath os bernir bod hynny’n addas yn unol â’r drafft bolisi a ddangosir yn Atodiad 1.

 

18.

Adolygiad i Ansawdd Cyflenwad Dŵr mewn Ysgolion pdf icon PDF 419 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Consideration was given to the joint report of the Corporate Director Regeneration and Community Services and the Interim Corporate Director Education.

 

The Corporate Director Regeneration and Community Services informed that the purpose of the report was to update Members on the outcome of the review carried out by Integrated Water Services (IWS) in light of the water quality issues experienced in our schools during the period of closure due to COVID-19.

 

The Corporate Director felt that the Council had taken a pro-active and comprehensive approach to the reopening of schools from a Health and Safety perspective, including water testing in accordance with the Approved Code of Practice (ACOP) L8 and Health & Safety Executive (HSE) specific advice. The safety of the children and staff across all school sites was a priority to the Council.

 

The Corporate Director continued that normally schools are only closed for a period of five to six weeks during the summer holidays. This period of school closures was unprecedented and lessons had been learned for the future across the school estate.

 

The Corporate Director advised that Integrated Water Services (IWS) was the firm appointed to undertake the review. The scope of the review included selecting 12 school sites from the 29 schools sites in the Borough. The Corporate Director noted the schools as detailed in the report and referred the Executive to the key recommendations identified by IWS. The Review findings are shared in full as part of the appendices and nothing identified within the review demonstrated that the Council did anything to put the pupils and staff at risk. The Council accepted the criticism in the Review and an action plan have been produced.

 

 

 

 

The Executive Member for Environment added that although this matter was specific to schools it was an issue that related to all Council buildings. The review had been requested by the Executive Member and the findings are attached in its entirety in order for the Council to learn from the exercise.

 

The Education Transformation Manager concurred that the Council faced unprecedented times and challenges. The Council was compliant with the Approved Code of Practice L8 and had been monitoring maintenance and testing regimes throughout the emergency response period. The work undertaken was a good example of strong partnership working with issues responded to in a timely and effective manner. As result, the schools were well informed and supported with no illnesses resulting from the water quality issues in schools, and minimal disruption to our schools, all of whom were able to open to learners during the summer-term. All relevant officers worked tirelessly to address the water testing outcomes and will take on board the recommendations going forward.

 

The Executive Member for Education welcomed the opportunity to develop the processes in place. She concurred that the Council had been over cautious to ensure the safety of our pupils and school staff which demonstrated that their wellbeing was at the forefront of the Council.  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - 2020/2021, Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2021 (fel ar 30 Mehefin 2020) pdf icon PDF 670 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi’r rhagolwg o’r sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 fel y’i rhagwelir ar 30 Mehefin 2020. Siaradodd y Prif Swyddog am yr adroddiad a rhoi manylion y rhagolwg o’r sefyllfa ariannol hyd at ddiwedd Mawrth 2021 ar draws pob portffolio, y rhagolwg o’r all-dro ar gyfer Ffioedd a Chostau a’r cynnydd ar gyflawni prosiectau Pontio’r Bwlch ar gyfer 2020/2021.

 

Fe wnaeth y Prif Swyddog Adnoddau hefyd dynnu sylw Aelodau at yr effaith ar y gyllideb ac amlinellodd y cyllid a dderbyniwyd. Caiff yr amrywiadau eu diwygio ymhellach ar ddiwedd Chwarter 2 a byddent yn cael eu mireinio ymhellach yn unol â grantiau penodol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am i gyfarfod o’r Is-gr?p Pwysau Cost gael ei drefnu cyn gynted ag sydd modd i drafod pwysau cyfredol ar y gyllideb. Gofynnodd yr Aelod hefyd, os yw arian yn y gronfa trawsnewid i gael ei ddefnyddio, y dylid dod â hynny i wleidyddion ei gytuno.

 

Ymhellach gofynnodd yr Arweinydd os oes unrhyw gynnydd gyda Llywodraeth Cymru yn cytuno y gellid cyfalafu pwysau cysylltiedig â COVID. Dywedodd ei fod yn codi’r mater dro ar ôl tro yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gofynnodd i’r Prif Swyddog Adnoddau godi’r mater mewn cyfarfodydd trysorlys. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau nad oes unrhyw wybodaeth bellach ar y penderfyniad hwn, fodd bynnag bu peth symud yn Llywodraeth yr Alban felly byddai’n parhau i ddilyn y mater.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’i fod yn rhoi’r her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad. Rhoddwyd ystyriaeth i’r cynlluniau gweithredu a roddir yn Atodiad 4, a ddatblygwyd i drin yr amrywiadau anffafriol a ragwelir ar ddiwedd mis Mehefin 2020.

 

 

20.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf. Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/2021 (fel ar 30 Mehefin 2020) pdf icon PDF 513 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac

 

·         y dylid darparu her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad.

·         parhau i gefnogi gweithdrefnau rheolaeth ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor.

·         nodi’r gweithdrefnau rheoli cyllideb a monitro sydd ar waith o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogeli cyllid yr Awdurdod.

 

 

21.

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol ac wedi'u Clustnodi 2019/2020 pdf icon PDF 700 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a

 

·         nodi’r defnydd o gronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi ar gyfer 2019/2020.

·         nodi’r drafft gynnydd o’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol yn 2019/2020 i £6.438m, sef 4.69% o wariant refeniw net (uwch na’r lefel targed o 4%).

·         yr effaith y byddai amrywiad ffafriol o £0.454m ar gyfer 2019/2020 yn ei gael ar y targed Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol; a

·         parhau i herio gorwariant cyllideb a gweithredu Cynlluniau Gweithredu gwasanaeth priodol lle mae angen.

·         nodi bod cynnal cronfeydd wrth gefn cyffredinol ar lefel ddigonol yn hanfodol i’r Cyngor fedru ateb ymrwymiadau’r dyfodol yn deillio o risgiau na wnaed unrhyw ddarpariaeth benodol ar eu cyfer.

 

22.

Cefnogi Cadernid Ariannol – Adolygiad Dilynol Archwilio Cymru pdf icon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad mewn egwyddor, yn amodol ar gyflwyno’r adroddiad i’w ystyried ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Gweithredol ym mis Rhagfyr.

 

 

23.

Datganiad Sefyllfa ar system CCTV y Cyngor (mis Ebrill i fis Awst 2020) pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar  cyd gan y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn ystyried yr wybodaeth a roddir yn y datganiad sefyllfa ar weithredu CCTV yn ystod pandemig COVID-19.

 

 

Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd

24.

Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu 2019-20 pdf icon PDF 755 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

Croesawodd yr Aelod Gweithredol yr adroddiad a chyfeiriodd at sefyllfaoedd cymharol awdurdodau lleol Cymru yn 2018/19 i 2019/20 lle mae Blaenau Gwent wedi codi i’r 11 safle o fod yn y 19 safle. Dymunai ddiolch i’r cyhoedd a’r swyddogion ar y gwelliant gwych hwn sy’n gryn gamp o gymharu â’r sefyllfa yr oedd yr Awdurdod ynddo 3 blynedd yn ôl.

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a dywedodd fod y gwelliannau hyn yn dangos ymrwymiad y weinyddiaeth i’r materion sy’n bwysig i’n cymunedau. Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod yn symud yn y cyfeiriad cywir yn yr holl wasanaethau a ddarperir.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau Monitro – Addysg

25.

DRAFFT Canfyddiadau Hunanarfarnu Gwasanaeth Addysg Blaenau Gwent pdf icon PDF 530 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad mewn egwyddor, yn amodol ar gyflwyno’r adroddiad i’w ystyried ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Gweithredol ym mis Rhagfyr.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

26.

Ymateb Gwasanaethau Cymdeithasol i bandemig COVID-19 pdf icon PDF 562 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dymunai’r Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol ddiolch i holl swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol am eu hymateb i bandemig COVID-19. Mae’r staff wedi wynebu pwysau heriol, fodd bynnag mae timau wedi parhau i roi gwasanaeth rhagorol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

27.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol – 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 pdf icon PDF 598 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol