Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 2ail Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Rheolwr Gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Chyflogaeth

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 482 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

5.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 381 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd/Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd/Aelod Gweithredol – Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gweithredol yn gydnaws gyda’r rhaglenni gwaith Craffu a gytunwyd cyn gwyliau mis Awst. Ychwanegodd yr Arweinydd fod Deiliaid Portffolio yn unigol ac ar y cyd fel Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried y Rhaglen Waith, felly

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

6.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 205 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Adroddwyd y grantiau ychwanegol dilynol:-

 

GLYNEBWY

Ward Badminton - Cynghorydd C. Meredith

 

 

1.

Eglwys Dewi Sant / Eglwys Bywoliaeth Glynebwy

£200

2.

Cymdeithas Rhandiroedd Glanffrwd

£150

Ward Badminton – Cynghorydd G. Paulsen

 

 

1.

Eglwys Dewi Sant / Eglwys Bywoliaeth Glynebwy

£200

2.

Cymdeithas Rhandiroedd Glanffrwd

£150

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

7.

Rhaglen Gweithiau Cyfalaf Priffordd 2017 – 2021 pdf icon PDF 507 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd ar Raglen Gweithiau Cyfalaf Priffyrdd 2017-2021 ac yn cyflwyno opsiynau am Raglen Gweithiau 2020-2021 i’w hystyried. Ychwanegodd y Swyddog y bwriadwyd cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Craffu a’r Pwyllgor Gweithredol ym mis Chwefror, fodd bynnag cafodd ei ohirio er mwyn canfod os byddai cyfalaf ychwanegol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, cafodd yr adroddiad ei ohirio oherwydd yr effaith ar wasanaethau fel canlyniad i COVID-19.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol ymhellach am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol ynddo. Dywedodd fod canfyddiad y cyhoedd o briffyrdd yn ymwneud â chyflwr ffyrdd mewn ardaloedd preswyl lleol. Mae atgyweiriadau ymatebol i dyllau yn y ffyrdd a wyneb ffyrdd yn ffordd gostus a llai effeithlon o gynnal a chadw y briffordd. Roedd cyfanswm canran y ffyrdd diddosbarth mewn cyflwr gwael cyn gwaith priffyrdd yn 17%, fodd bynnag yn dilyn gwaith yn ystod y ddwy flynedd flaenorol cafodd y ffigur ei ostwng i 11.4%. Byddai rhaglen arfaethedig 2020-2021 yn parhau i ganolbwyntio ar ffyrdd preswyl/ochr/diddosbarth. Yn ychwanegol at y gweithiau hyn, cynigiwyd hefyd fod gwaith yn cael ei wneud i nodweddion hanfodol ar briffyrdd megis rhwystrau diogelwch, arwyddion traffig gyda golau mewnol a mesurau gostwng cyflymder.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y Pwyllgor Craffu wedi croesawu’r adroddiad gyda’r amod y bydd unrhyw feysydd penodol a gyflwynir gan Aelodau Ward yn cael eu hystyried yn unol â’r matrics blaenoriaeth.

 

Croesawyd yr adroddiad gan yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd a nododd y sylwadau a godwyd yn y Pwyllgor Craffu. Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod y rhaglen gweithiau priffyrdd yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor hwn ac ymrwymodd i fonitro ac adolygu’r rhaglen yn unol â hynny.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd fod y gweithiau priffyrdd yma yn hanfodol i’n cymunedau a bod buddsoddiad wedi gweld ffyrdd preswyl yn cael eu codi i safon derbyniol. Croesawodd y byddai’r gwelliannau hyn yn parhau gan eu bod yn bwysig i breswylwyr.

 

Dywedodd yr Arweinydd y rhoddwyd ymrwymiad i breswylwyr yn 2017 i godi ffyrdd preswyl, ochr a diddosbarth lan i safon dderbyniol. Cyflawnwyd yr ymrwymiad hwn a dywedwyd fod Atodiadau A-C yn amlinellu’n glir faint  y gweithiau a gwblhawyd. Gobeithid y byddai’r ymrwymiad hwn yn parhau am 20 mis arall a thu hwnt gan mai ein huchelgais yw dod â phob ffordd breswyl lan i 100% defnydd priodol.

 

Cynigiodd yr Arweinydd bod yr Aelod Gweithredol – Amgylchedd a Phennaeth Gwasanaethau Cymunedol yn adolygu camau nesaf y Rhaglen Gwella Priffyrdd. Unwaith y cwblhawyd y gwerthusiad hwn, awgrymwyd y dylai trafodaethau gael eu hymestyn i’r Prif Swyddog Adnoddau a’r Arweinydd o safbwynt ariannol i sicrhau y gellid cynnal y gwelliannau yn y dyfodol. Byddai hyn yn sicrhau fod rhaglen gadarn o weithiau yn ei lle i roi ymrwymiad clir i’r Cyngor a’r preswylwyr a gynrychiolwn y bydd gweithiau gwella priffyrdd yn parhau.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cynigiodd yr Arweinydd bod cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cynnal i ddechrau am 10.00 a.m.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.