Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 15fed Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Trollope (Cadeirydd), G. Collier a L. Elias.

 

Aelod Cyfetholedig

T. Baxter

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 263 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbenig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion ar gyer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 26 Ionawr 2022 pdf icon PDF 90 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 225 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Dalen Weithredu – 1 Chwefror 2022 pdf icon PDF 104 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

8.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Ymateb i COVID-19 pdf icon PDF 607 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau adolygu ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i sefyllfa COVID-19, yn arbennig wrth gefnogi’r ysgolion yn ystod y cyfnod ymateb argyfwng.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr adroddiad a rhoi trosolwg o’r sefyllfa bresennol yng nghyswllt ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i Covid-19.

 

Holodd Aelod os oedd unrhyw gynigion i ostwng cyfnod gwyliau haf ysgolion i ddal lan ar addysg disgyblion fel sy’n cael ei ystyried yn Lloegr. Cododd bryderon hefyd am godi ffioedd gwasanaethau Hamdden a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar iechyd a lles rhai plant. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg nad oes unrhyw gynigion i newid hyd cyfnod gwyliau haf ysgolion. Yng nghyswllt y cynnydd arfaethedig mewn costau gwasanaethau Hamdden, yn arbennig brisiau nofio, cadarnhaodd y cafodd y cynnydd arfaethedig mewn costau nofio eu gostwng yn dilyn trafodaeth gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac y caiff ei weithredu o 1 Ebrill 2022.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 78 yr adroddiad a dywedodd fod Partneriaid Gwella Ysgolion wedi cymryd lle Cynghorwyr Her EAS. Teimlai fod angen gwybodaeth yn yr adroddiad am bobl ifanc gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad, ac yng nghyswllt cynnydd academaidd holodd os cafodd cymwysterau lefel 1 eu tynnu o Ganolfan yr Afon. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y byddai’n sicrhau y caiff adroddiadau’r dyfodol eu diweddaru yng nghyswllt teitl partneriaid Gwella Ysgolion. Yng nghyswllt ieuenctid gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, cadarnhaodd y byddai dysgwyr yng Nghanolfan yr Afon ym mlwyddyn 11 yn cael cyfle i gael mynediad i gymwysterau priodol o lefel 1 hyd at TGAU ac y byddent hefyd yn cael cynnig cymwysterau cwricwlwm eraill.

 

Cyfeiriodd Aelod at gau Canolfan yr Afon dros dro yn ddiweddar am resymau iechyd a diogelwch. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd Canolfan yr Afon ei chau’n rhannol i flynyddoedd 9, 10 ac 11 am gyfnod byr ac esboniodd y bu digwyddiad mawr ac y gofynnwyd am gefnogaeth gan Heddlu Gwent a hefyd Wasanaeth Tân De Cymru. Fel canlyniad, cafodd pecyn ysgolion diogelach o gymorth ei roi ar waith sy’n cynnwys nifer o bartneriaid allweddol a gwasanaethau cymorth corfforaethol i sicrhau fod trefniadau yn y lleoliad yn hwyluso gwell arferion yn y dyfodol.

 

Ni wyddai’r Aelod am y mater hwn a holodd am broses hysbysu Aelodau am ddigwyddiadau o’r fath. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y caiff holl wasanaethau cymorth yr awdurdod lleol eu hysbysu pan gaiff ysgol ei chau, a dosbarthwyd gwybodaeth i Aelodau Ward ar ran yr ysgol a’r Gyfarwyddiaeth Addysg yn eu hysbysu am y sefyllfa ddiweddaraf. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth y cafodd cyfathrebiad ei gyhoeddi ond byddai’n sicrhau fod y tîm Cyfathrebu Corfforaethol yn gwybod am unrhyw broblemau yn ymwneud â dosbarthu i Aelodau.

 

Dywedodd Aelod y dylid cyflwyno adroddiad cynhwysfawr ar Ganolfan yr Afon ac ysgolion sy’n achosi consyrn i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol. Cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg y gellid darparu diweddariad cynhwysfawr ar Ganolfan yr Afon fel rhan o’r adroddiad Gwella Ysgolion.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cynllun Busnes 2022-2025 Gwasanaeth Cyflawni Addysg pdf icon PDF 448 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Rheolwr Gyfarwyddwr EAS a gyflwynwyd i Aelodau ystyried cynnwys llawn drafft Gynllun Busnes 2022-2025 EAS, fel rhan o’r broses ymgynghori ranbarthol. Drwy’r gweithgaredd hwn bydd Aelodau yn sicrhau fod y cynllun yn galluogi cymorth addas i ysgolion a lleoliadau ym Mlaenau Gwent.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS gyflwyniad ar y Cynllun Busnes yn cynnwys ystod eang o wasanaethau gwella ysgolion i bob ysgol. Mae’r cynllun yn cefnogi rôl yr Awdurdod Lleol mewn cyflawni eu swyddogaeth statudol, mynd i’r afael â’u blaenoriaethau gwella unigol a hyrwyddo gwell deilliannau disgyblion.

 

Holodd Aelod os yw pob ysgol yn awr yn cymryd rhan mewn gweithio ysgol i ysgol, dysgu proffesiynol a hunan-wella. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS fod data cryf am ymgysylltu ysgolion, a gaiff ei rannu gyda’r awdurdodau lleol a chodwyd pryderon os oes ymgysylltu annigonol gan ysgolion. Byddid yn cylchredeg cyflwyniad byr dau sleid PowerPoint ‘Ystadegau a Straeon’ yn canolbwyntio’n benodol ar lefelau ymgysylltu ysgolion Blaenau Gwent i Aelodau’r Pwyllgor Craffu i roi ciplun ar ymgysylltu ysgolion fel yr oedd yng Ngwanwyn 2022.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 5.1.5 a’r ansicrwydd ynghylch cyllid grant rhanbarthol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol EAS y bu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i symud i broffil grant tair blynedd sy’n dangos bwriad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a chadarnhaodd na wyddent am unrhyw ostyngiadau sylweddol ar gyfer y flwyddyn gyntaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am sut y byddai EAS yn mesur cynnydd disgyblion yn y dyfodol, rhoddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS ymateb manwl a dywedodd fod dialog yn dal i fynd rhagddi gydag ysgolion yn ymwneud â chynnydd ac asesiad ac y byddai’n parhau gydag awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgol i esblygu’r ddialog honno.

 

Holodd Aelod pa rwystrau a gwendidau y gall EAS eu profi wrth gyflawni’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS y caiff ystod eang o risgiau eu nodi ym mharagraff 5.2.1 a theimlai ei fod yn ymwneud â chydnabod fod bod yn rhan o system ehangach, partneriaeth gydag ysgolion, awdurdodau lleol, Estyn a Llywodraeth Cymru yn allweddol ac ar y cyd, gan weithio gyda phartneriaid, wybod pryd i ymyrryd a pheidio gadael yr ymyriad hwnnw yn rhy hwyr.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau yn derbyn yr adroddiad er gwybodaeth ac yn derbyn y Cynllun Busnes.

 

10.

Adroddiad Ysbrydoli i Gyflawni a Pherfformiad Gwaith Ionawr – Rhagfyr 2021 pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar brosiectau lleol Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae’r prosiectau hyn yn rhan o ymagwedd y Gwasanaeth Ieuenctid i ostwng nifer y bobl ifanc sy’n dod yn NEET (heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant).

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Pobl Ifanc a Phartneriaethau yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn rhagorol bod ffigurau NEET flwyddyn ar flwyddyn isel a theimlai ei bod yn bwysig sicrhau cyllid hirdymor i sicrhau fod y prosiectau hyn yn parhau yn y dyfodol.

 

Yng nghyswllt cyllid, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau y byddai’r rhaglen ranbarthol yn dod i ben ym mis Mai 2023 ac y byddai cyflenwi lleol yn dod i ben yn Ebrill 2023. Teimlai ei bod yn bwysig eu bod yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau ar gyfer unrhyw gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n dod drwy’r system. Fodd bynnag mae pryderon nad yw Llywodraeth y DU yn edrych ar gefnogi rhaglenni cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed. Mae hefyd risg y gallai ffigurau NEET gynyddu pe byddai staff yn gadael y gwasanaeth gan na fyddai eu contractau yn parhau tu hwnt i fis Mai y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd Aelod bod ffyniant y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol yn dibynnu ar addysg a swyddi ar gyfer pobl ifanc a theimlai y dylai fod yn flaenoriaeth i’r cyngor geisio cyllid hirdymor i sicrhau parhau’r prosiectau hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, pe byddai’r bwlch cyllid yn parhau ynghylch prosiectau Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio, yna fel rhan o broses gosod cyllideb y Cyngor gellid rhoi ystyriaeth i sicrhau elfennau neu ddarpariaeth ar gyfer y prosiectau wrth symud ymlaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod aelodau wedi craffu’r wybodaeth a fanylir o fewn yr adroddiad a derbyn yr adroddiad.

 

11.

Ffurflen Flynyddol 2020/21 Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 530 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau a gyflwynwyd i ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd i Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru yng nghyswllt pedwaredd flwyddyn y Fframwaith Chweched Asesiad ar gyfer ffurflen Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2020/21.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 5.1 yr adroddiad a chroesawodd y cynnydd mewn gwariant ar lyfrau ond teimlai fod angen mwy o gynnydd. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau y cafodd cytundeb pum-mlynedd newydd ei roi ar waith yn 2020 nad yw’n mesur gwasanaethau llyfrgell yn benodol am wariant ar lyfrau. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor a’r Ymddiriedolaeth Hamdden yn edrych ar ac yn craffu’r holl safonau mewn gwasanaethau llyfrgell i sicrhau fod yr holl wasanaeth llyfrgell yn datblygu’n dda ac yn gweithredu ar lefel dda. Mae hyn yn cynnwys y potensial am gynnydd pellach mewn adnoddau ar gyfer llyfrau a deunydd darllen arall.

 

Yng nghyswllt llyfrau a gaiff eu cyfrannu gan y cyhoedd, dywedodd Rheolwr Partneriaeth, Cyllid a Chontractau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin eu bod yn derbyn cyfraniadau sylweddol gan y cyhoedd, fodd bynnag nid oes unrhyw fesur yn y safonau ynghylch cyfraniadau gan y cyhoedd ac felly ni chânt eu cynnwys yn y ffigurau ar gyfer nifer yr eitemau sydd eu hangen.

 

Holodd Aelod os oes gan lyfrgelloedd staff digonol ar gyfer y dyfodol gan eu bod nawr hefyd yn hybiau cymunedol. Dywedodd Rheolwr Partneriaeth, Cyllid a Chontractau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin fod staff digonol mewn llyfrgelloedd ar hyn o bryd gan nad yw nifer yr ymwelwyr wedi dychwelyd eto i’r lefelau oedd cyn y pandemig. Wrth i’r hybiau cymunedol ehangu a llyfrgelloedd yn cymryd mwy o wasanaethau, yna gallai fod angen adolygu strwythurau staffio.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod aelodau wedi craffu ar yr wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad a derbyn yr adroddiad.

 

12.

Polisi Derbyn Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin ac Addysg Statudol 2023/24 pdf icon PDF 504 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes a gyflwynwyd i amlinellu canlyniad y broses ymgynghori flynyddol, yn unol gyda drafft diwygiedig Polisi Derbyn Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2023/24.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 1 paragraff 20 Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 – a chododd bryderon am fater ward yn ymwneud â gorlif plant ar gyfer derbyniad arfaethedig Blwyddyn 7 i Gymuned Ddysgu Abertyleri. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod y mater hwn yn cyfeirio’n benodol at y polisi cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl-16. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y nifer derbyn ar gyfer Cymuned Ddysgu Abertyleri yn 150 ac y dyrannwyd ceisiadau ‘mewn pryd’ iddynt hyd at y nifer derbyn. bu pedwar cais ‘hwyr’ ac maent yn gweithio gyda Chymuned Ddysgu Abertyleri i edrych ar ymestyn eu capasiti er mwyn darparu ar gyfer y dysgwyr ychwanegol hynny.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eto fod y mater hwn yn cyfeirio’n benodol at bolisi cludiant y Cyngor, ac er bod y polisi Derbyn ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2023/24 yn cyfeirio at y polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16, mater i’r Cyngor fel awdurdod derbyn yw gweithredu’r polisi Derbyn yn unol gyda chodau Derbyn i Ysgolion a Derbyn Apeliadau Llywodraeth Cymru.

 

Gadawodd y Cynghorydd Bob Summers y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dilynodd trafodaeth hir a manwl lle mynegodd Aelodau bryderon am y polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl-16 ac wedyn eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bwyntiau o bryder a godwyd gan Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Addysg a dysgu wedi ystyried a derbyn y ddogfen polisi.