Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mercher, 26ain Chwefror, 2020 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd G.A. Davies.

 

Aelod Cyfetholedig

T. Baxter

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 236 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r Cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 15 Ionawr 2020 pdf icon PDF 193 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020, yn cynnwys:-

 

Eitem 5 – Dalen Weithredu – 4 Rhagfyr 2019

 

Rhaglen Gwella Ysgolion – Cododd Aelod eto bryderon nad yw pob Aelod wedi derbyn yr ohebiaeth gan yr Aelod Gweithredol Addysg yng nghyswllt cyfarfod mewn ysgol ym Mlaenau Gwent. Cadarnhaodd y Cadeirydd iddo siarad gyda Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd a eglurodd pam y cafodd y Cam Gweithredu ei gwblhau, a bod yr Aelod Gweithredol wedi anfon llythyr at Arweinydd y Gr?p Llafur ar y mater hwn.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Gr?p Llafur iddo dderbyn llythyr gan yr Aelod Gweithredol Addysg yn trin pryderon y Gr?p Llafur, fodd bynnag teimlai nad oedd yn briodol rhannu gohebiaeth breifat gyda’r Pwyllgor.

 

Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau y byddai’n holi os y gellid rhannu’r ohebiaeth gan yr Aelod Gweithredol i Arweinydd y Gr?p Llafur gyda holl Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Eitem 7 – Gwahardd Disgyblion

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg fod rhai gwaharddiadau yn parhau o gyfnod allweddol 3 trwodd i gyfnod allweddol 4 ac y gallent o bosibl fod yr un disgybl.

 

Blaenraglen Gwaith – 26 Chwefror 2020

 

Cyfeiriodd Aelod at y Flaenraglen Gwaith ar gyfer 26 Chwefror 2020 a’r cais i EAS baratoi diweddariad chwe mis ar yr canlyniadau a ragwelir ar gyfer pob ysgol fel y gallai Aelodau gael gwybodaeth lawn a holodd am amserlen.

 

Dywedodd cynrychiolydd EAS fod gosod targedau cyfnod allweddol 4 wedi newid yn sylweddol ers lefel 1. Nid yw’n rhaid i ysgolion uwchradd mwyach osod targedau a ragnodir, gallent fod yn bwrpasol i garfannau penodol. Byddai Cynghorwyr Her yn monitro hyn, fodd bynnag byddai’n anodd iawn crynhoi hyn mewn ffordd ystyrlon, rydym mewn cyfnod o newid ac mae’n amhosibl rhagweld amserlen.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at y pwyntiau categoreiddio a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o newidiadau i addysg dros yr 8 mlynedd diwethaf a bod angen i Aelodau gael gwybodaeth lawn. Ymatebodd cynrychiolydd EAS drwy ddweud y gellid trefnu gweithdy Aelodau gan y bu cyfnod hir o newid. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y byddai mesurau interim yn eu lle am y tair blynedd nesaf a bod y Gyfarwyddiaeth yn cefnogi athrawon gystal ag y medrent drwy gyfleu negeseuon am newidiadau cwricwlwm a diwygiadau cysylltiedig.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am i sesiwn wybodaeth i Aelodau gael ei threfnu gyda EAS.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Cynllun Busnes EAS ac Atodiad Awdurdodau Lleol 2020-2021 pdf icon PDF 937 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i Aelodau ystyried cynnwys llawn drafft Gynllun Busnes 2020-2021 EAS ac Atodiad Awdurdodau Lleol 2020-2021, fel rhan o’r broses ymgynghori ranbarthol.

 

Cyflwynodd cynrychiolydd EAS yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo, yn cynnwys y gellid rhoi mwy o sylw mewn sesiwn wybodaeth i Aelodau am y prif bwyntiau a gynhwysir ynddo, yn cynnwys Llinyn Gwella 3 EAS – Dulliau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn i gefnogi system hunan-wella.

 

Gofynnodd Aelod am ddadansoddiad o nifer y cynghorwyr her ar gyfer ysgolion cynradd a hefyd ysgolion uwchradd a holodd am amserlenni ar gyfer staff gyda materion galluedd i ddangos gwelliant mewn canlyniadau. Dywedodd cynrychiolydd EAS y caiff dadansoddiad o’r Cynghorwyr Her ei ddarparu. Nid yr EAS yw unig ddarparydd cymorth i ysgolion, ond mae eu pwyslais ar ansawdd y cymorth hwnnw a threfnu’r cymorth cywir i gyfateb â’r ysgol. Yn y pen draw mater i’r Corff Llywodraethu yw materion galluedd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwyr gweithredu hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod gweithdrefnau galluedd yn eu lle a’u bod wedi eu seilio ar achosion unigol gyda dull gweithredu cefnogol addas i aelodau staff barhau i wella. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth yn unol â pholisi a gweithdrefnau Datblygu Sefydliadol. Teimlai Aelod y dylai amserlen ar gyfer gwella fod ar waith gyda EAS a chyrff llywodraethu yn cymryd rhan i sicrhau gwelliannau.

 

Dywedodd Aelod fod ysgolion uwchradd angen Cynghorwyr Her arbenigol. Bu’r newidiadau eleni yn bwysig ac yn canolbwyntio ar y Cynllun Datblygu Ysgol a symud tuag at wella targedau. Mae angen i waith ysgol i ysgol fod yn effeithlon i helpu gyrru newidiadau cwricwlwm ymlaen a holodd os yw pob ysgol yn cymryd rhan mewn gweithio ysgol i ysgol. Dywedodd y Cynghorydd Her y bu newid diwylliannol am weithio ysgol i ysgol, lle mae ysgol gyfan yn lapio o amgylch ysgol arall fel model gyda chefnogaeth Cynghorwyr Her. Bu gwelliant sylweddol lle mae ysgolion wedi cyflwyno eu hunain i gymryd rhan fel ysgolion Rhwydwaith Dysgu ac i annog ysgolion eraill i ymgysylltu.

 

Gadawodd y Cynghorydd Wayne Hodgins y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Mewn ymateb i bryder Aelod yng nghyswllt cynllunio olyniaeth o fewn y tîm arweinyddiaeth ehangach, rhoddodd cynrychiolydd EAS sicrwydd i Aelodau mai sylw cyffredinol oedd hwn ac nad oedd wedi ei anelu at Flaenau Gwent. Mae perthynas waith gref gyda’r awdurdod lleol ac mae Blaenau Gwent yn rhagweithiol yn ei ymyriad gydag ysgolion.

 

Cyfeiriodd Aelod at gyfarfod rhwydwaith a dywedodd fod llywodraethwyr angen mwy o ddealltwriaeth o faterion. Dywedodd cynrychiolydd EAS y bu cyfarfodydd ychwanegol gyda ffocws ar fodel newydd a ddisgwylir y flwyddyn nesaf. Mae ysgolion wedi mynegi diddordeb yn y model clwstwr a byddai’r EAS yn darparu’r modelau hyfforddiant. Roedd dau glwstwr o Flaenau Gwent wedi gwneud cais am y model hwn a chânt eu hysbysu maes o law os buont yn llwyddiannus. Dywedodd Aelod nad oedd clwstwr Tredegar yn gwybod am hyn. Dywedodd cynrychiolydd EAS yr anfonwyd gwybodaeth at gadeiryddion llywodraethwyr a phenaethiaid  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Drafft Ganfyddiadau Hunanarfarnu Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent pdf icon PDF 526 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ganfyddiadau prosesau hunan-arfarnu parhaus i graffu ar ganfyddiadau’r prosesau hunan-arfarnu parhaus a gynhaliwyd yn y Gyfarwyddiaeth Addysg, gyda phartneriaid ac ar draws y Cyngor.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelodau at Atodiad 1 a’r sleid ar lesiant disgyblion a gofynnodd os oedd unrhyw arfarniad ar effaith i gefnogi’r datganiadau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod llawer o wybodaeth wedi ei chasglu ynghyd ag astudiaethau achos dienw yn cyfeirio at wasanaethau cwnsela ysgolion. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau fod llesiant wedi gwella ac y caiff yr wybodaeth ei rhoi mewn adroddiadau blynyddol i Lywodraeth Cymru ac yn FADES, fodd bynnag ni ellir dangos data gwaharddiadau gan ei bod yn gyfrinachol. Fe wnaeth gwasanaethau cwnsela gysylltu gyda dros 7,000 o ddisgyblion ac mae’r nifer yn cynyddu, mae’r ffeithiau a ffigurau a adroddwyd yn dangos sut y caiff cymorth ei deilwra a’i addasu fel sydd angen. Roedd Aelodau’n deall y cyfoeth o wybodaeth tu ôl i’r ffigurau ond teimlent fod angen troednodiadau ar wybodaeth gefndir. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid y gellid rhannu data’r Gwasanaeth Cwnsela gydag Aelodau.

 

Yng nghyswllt lefelau uwch o gaffael iaith mewn plant ifanc iawn yn y Blynyddoedd Cynnar, dywedodd Aelod y byddai’n hoffi gweld tystiolaeth fod y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael y ‘dechrau gorau mewn bywyd’ o gymharu â phlant heb fod mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. Dywedodd y Cyfarwyddwr mai dim ond traean o blant sy’n medru cael mynediad i leoliad Dechrau’n Deg ond bod pryderon am y plant hynny rhwng 3-5 oed nad ydynt yn mynychu safle Dechrau’n Deg a heb gael unrhyw baratoi ar gyfer yr ysgol neu gaffael iaith.

 

Holodd Aelod am y gwelliant mewn lefelau mynychu ysgol ac effaith teuluoedd yn mynd â disgyblion ar wyliau yn ystod y tymor ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod mynychu’r ysgol yn un o’r dolenni allweddol i gyflawniad ond y caiff rhoi caniatâd am absenoldeb disgybl ei adael i ddisgresiwn pennaeth yr ysgol, fodd bynnag byddai’r Awdurdod Lleol yn gwrthannog absenoldeb yn ystod y tymor. Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg a’r Awdurdod Lleol yn gwybod pa ysgolion unigol sydd angen cymorth ychwanegol yn y maes hwn ac yn gweithio i fynd i’r afael â’r mater.

 

Holodd y Cadeirydd os oedd canlyniadau absenoldeb disgyblion yn ystod y tymor yn cael ei gynnwys yn y cylchlythyr staff ac os y rhoddwyd unrhyw ddirwyon. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod graffiau yn y cylchlythyr yn dangos y cysylltiad rhwng y gostyngiad mewn mynychiad â chyflawniad a’i fod hefyd yn rhan o brosiect Callio a gellir adfywio hyn. Cadarnhaodd y cafodd rhai hysbysiadau cosb sefydlog eu cyhoeddi a byddai’n hysbysu’r Aelodau am nifer y dirwyon.

 

Gadawodd y Cynghorydd Derrick Bevan y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at gyfraddau uchel Addysg Ddewisol yn y Cartref. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod cynllun gweithredu yn ei le ar gyfer y disgyblion unigol sydd angen cymorth ychwanegol.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Categoreiddio Ysgolion pdf icon PDF 540 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau’r Pwyllgor Craffu am broffil categoreiddio ysgolion Blaenau Gwent ar gyfer 2020.

 

Siaradodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Ar gais y Cadeirydd rhoddodd cynrychiolydd EAS esboniad byr o Gamau 1, 2 a 3.

 

Cam 1 – Segur / dim yn cael ei ddefnyddio bellach

Cam 2 – Arweinyddiaeth

Cam 3 – Ysgolion sydd angen cefnogaeth gyda hyfforddiant ac arweinyddiaeth

 

Dywedodd Aelod fod angen atgoffa rhieni nad ysgol sy’n methu yw ysgol categori coch ond un sydd angen cefnogaeth yng nghyswllt newidiadau mewn arweinyddiaeth ac yn y blaen. Esboniodd cynrychiolydd EAS fod llywodraethwyr ysgolion yn hysbysu’r gymuned am lefel y gefnogaeth mae ysgol ei hangen.

 

Cyfeiriodd Aelod at ysgolion lle bu newid arweinyddiaeth ond na welwyd gwelliannau hyd yma. Cadarnhaodd cynrychiolydd EAS y byddai hefyd angen i ysgolion gyda chategoreiddiad Estyn gael cefnogaeth  categoreiddiad lefel coch.

 

CYTUNODD y Pwyllgor argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd.

 

9.

Perfformiad Ysgol Terfynol Cyfnod Allweddol 4 2019 pdf icon PDF 644 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi diweddariad i Aelodau ar yr wybodaeth perfformiad derfynol yn unol â threfniadau adrodd a gytunwyd ar gyfer perfformiad Cyfnod Allweddol 4 ar lefel awdurdod lleol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at gyfraniad pynciau heb fod yn rhai TGAU. Dywedodd cynrychiolydd EAS fod penaethiaid ysgolion yn manteisio ar y cyfle i gael y pwyntiau gorau, roedd yn gydbwysedd o ddau; TGAU a dim TGAU.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd.

 

Gadawodd y Cynghorydd Steve Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

10.

Ysbrydoli i Gyflawni a Pherfformiad Gwaith - Ionawr-Rhagfyr 2019 pdf icon PDF 524 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar brosiectau lleol Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am bobl ifanc a gefnogir i gyflogaeth, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod y tîm yn dilyn lan y bobl ifanc a gefnogwyd i gyflogaeth ac mae’r bobl ifanc y sonnir amdanynt yn yr adroddiad yn dal i fod mewn cyflogaeth ar hyn o bryd.

 

Cododd Aelod bryderon fod yr Adran yn dibynnu’n helaeth ar gyllid grant a holodd am gyllid ar ddiwedd y rhaglen yn 2022. Ni fyddai cyllid Ewropeaidd ar gael wedyn a byddai angen edrych ar gyllideb y Cyngor gan na chaiff yr holl arian ei basportio i gyllidebau ysgolion. Gofynnodd yr Aelod i’r Pwyllgor Gweithredol ystyried y goblygiadau i’r gyllideb.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Dywedodd y Cadeirydd, gan fod cyllid i ddod i ben yn 2022, bod risg y byddai staff yn edrych am swyddi eraill. Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod staff yn ymrwymedig i’w swyddi ac wedi arfer gweithio mewn trefniadau cyllid grant, fodd bynnag gall hyn fod yn broblem ym mlwyddyn olaf y cyllid.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau yn craffu ar yr wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad ac yn cydrannu drwy wneud argymhellion priodol i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

11.

Polisi Derbyn Addysg Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin ac Addysg Statudol 2021/22 pdf icon PDF 429 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg, a gyflwynwyd i amlinellu canlyniad yr adolygiad blynyddol a’r broses ymgynghori yn gysylltiedig gyda Pholisi Derbyn Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin ac Addysg Statudol.

 

Siaradodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddalgylchoedd a chapasiti yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm, dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg nad oes unrhyw ddalgylchoedd penodol ar gyfer ysgolion arbennig ar hyn o bryd, fodd bynnag bwriedir llunio adroddiad ar y capasiti yn ysgol Pen-y-Cwm a byddai’n rhan o’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer gwanwyn/haf 2020.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd fod gweithredu’r Polisi Derbyn mewn modd cyson yn allweddol i ddarpariaeth lwyddiannus.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn y ddogfen polisi.

12.

Blaenraglen Gwaith - 29 Ebrill 2020 pdf icon PDF 483 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Cytunodd Aelodau y trefnir cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer dechrau mis Ebrill 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2: sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer y cyfarfod ar 29 Ebrill 2020.