Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol - Dydd Gwener, 11eg Rhagfyr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorydd G. Collier

Cynghorydd M. Cross

Cynghorydd C. Meredith

Cynghorydd L. Parsons

Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 236 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys – 1 Ebrill 2020 i 30 Medi 2020 pdf icon PDF 590 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi cyfle i Aelodau graffu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod dan bwerau a ddirprwywyd i’r Prif Swyddog Adnoddau yn ystod y cyfnod 1 Ebrill i 30 Medi 2020 yn unol â Chod Ymarfer Rheoli Trysorlys CIPFA. Er yr hinsawdd ariannol yng nghyswllt y pandemig, dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod wedi perfformio’n dda yn nhermau gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ac amlinellodd y gwaith a wnaethpwyd fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd taliadau llog eu gostwng cyn belled ag sy’n bosibl gyda chyfradd log gyfartalog o 0.67% yn is na’r gyfradd meincnod sy’n dangos perfformiad da. Nid oedd y Cyngor ychwaith wedi bod yn agored i unrhyw golledion ariannol fel canlyniad i’r hinsawdd economaidd anodd presennol.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau/sylwadau gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod os yw’r Awdurdod yn dal i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil a chadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau nad oedd unrhyw fuddsoddiadau uniongyrchol gyda chwmnïau tanwydd ffosil. Nododd y Prif Swyddog drafodaethau blaenorol a dywedodd fod y gronfa pensiwn wedi newid y strategaeth i symud ymaith o fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil ac mae strategaeth buddsoddiadau’r Cyngor yn cael ei hadolygu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2. Craffodd aelodau ar y gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2020/201 ac ni roddwyd unrhyw sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

 

6.

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch 01/04/2019 - 31/03/2020 pdf icon PDF 478 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu a herio gwybodaeth ac argymhellion i liniaru pryderon a risgiau ar berfformiad yr Awdurdod ar iechyd a diogelwch a diogelwch tân yn y gwaith.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y byddai’r adroddiad fel arfer yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfnod mis Gorffennaf i fis Medi, fodd bynnag cafodd ei ohirio oherwydd yr ymateb argyfwng i’r pandemig. Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor graffu a herio argymhellion a wnaed i liniaru pryderon a risgiau ar berfformiad yr Awdurdod ar iechyd a diogelwch a diogelwch tân yn y gwaith ar gyfer 2019/20. Ychwanegodd y Swyddog fod y perfformiad drwyddo draw yn dda ac y rhoddir manylion y canfyddiadau hyn yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Mae’r Atodiad yn amlinellu perfformiad da ynghyd â meysydd o gonsyrn a chamau i gael eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion hyn. Ychwanegwyd nad yw’r adroddiad yn cynnwys unrhyw ymateb iechyd a diogelwch i’r ymateb argyfwng i bandemig Covid-19. Byddai’r wybodaeth hon yn rhan o’r adroddiad yn adolygu 2020/2021.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol at yr adroddiad a chywiriad o’r ffigurau ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol – bu 50 damwain, gostyngiad ar y flwyddyn flaenorol.

 

Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth yn unol â hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1. Cefnogodd aelodau’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yr adroddiad manwl a’r camau a argymhellwyd i liniaru meysydd o gonsyrn.

 

7.

Paratoadau ar gyfer Trosiant o’r Undeb Ewropeaidd pdf icon PDF 499 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau a’r Swyddog Polisi a gyflwynwyd i roi diweddariad i Aelodau ar y gwaith paratoi a wnaethpwyd yn ystod cyfnod trosiant yr Undeb Ewropeaidd.

 

Siaradodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau am yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y gwaith paratoi a wnaethpwyd yn ystod cyfnod trosiant yr Undeb Ewropeaidd. Nododd y Swyddog fod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020 a dechrau ar gyfnod trosiant tan 31 Rhagfyr 2020. Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod lefel o ansicrwydd yn parhau i fod ar y goblygiadau llawn y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael ar awdurdodau lleol. Roedd y Gr?p Cynllunio Swyddogion Craudd wedi parhau i gwrdd yn ystod y pandemig i hwyluso paratoadau trosiant o’r Undeb Ewropeaidd a derbyniwyd gwybodaeth reolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru yng nghyswllt y darlun cenedlaethol cyffredinol. Ychwanegodd y Swyddog fod gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref ar gynllun preswylio sefydlog yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn dod i law ac y caiff yr Awdurdod Lleol ei gynrychioli ar rwydwaith Cydlynu Brexit Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod y gr?p cynllunio swyddogion craidd wedi datblygu asesiad effaith a risg i ddynodi ac ymateb i’r risgiau a chyfleoedd lleol yn gysylltiedig gyda gadael yr Undeb Ewropeaidd. Sefydlwyd cynllun gweithredu ar gyfer Blaenau Gwent sydd wedi’i gysylltu gyda’r Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad ymhellach a rhoddodd drosolwg manwl o’r gweithgareddau allweddol, deilliannau cyhoeddus disgwyliedig a blaengynllunio fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y goblygiadau ariannol, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y cynlluniwyd ar gyfer y senario achos gwaethaf gan nad yw’r Awdurdod yn gwybod am y cytundeb y byddid yn ei gael. Ychwanegodd y Swyddog fod y senarios wedi ei seilio ar dystiolaeth hysbys a gwybodaeth a gasglwyd. Rhagwelir y caiff canlyniad y cytundeb ei deimlo mewn camau.

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr Awdurdod yn ansicr am yr effaith ar fusnesau lleol na’r effaith ariannol, fodd bynnag byddai unrhyw oblygiadau yn y tymor canol a byddent yn cael eu monitro. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y gronfa rhannu ffyniant yn fater allweddol i’r Awdurdod. Caiff hyn ei rannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, felly mae’n bwysig sicrhau fod democratiaeth leol.

 

Nododd Aelod arall bwysigrwydd gorgyffwrdd prosiectau a gyllidwyd drwy Ewrop y byddai angen eu parhau.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y byddid yn rhoi’r holl wybodaeth hon fel y mae’n datblygu drwy adroddiadau i’r Pwyllgor hwn.

 

Gofynnodd Aelod os byddai grwpiau’n gweithio o fewn cymunedau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod grwpiau yn gweithio o fewn ein cymunedau. Mae’r Gr?p Cynllunio Swyddogion Craidd yn cefnogi unigolion i gymryd rhan yn y cynllun preswylio sefydlog drwy grwpiau cymunedol, gosodiadau addysg a hefyd gefnogaeth ddigidol drwy lyfrgelloedd.

 

Ychwanegodd y Swyddog Polisi fod 980 o  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Monitro Perfformiad Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol pdf icon PDF 424 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a gyflwynwyd i Aelodau ystyried perfformiad y Strategaeth Cyfathrebu gyda ffocws ar effaith y strategaeth yn ystod pandemig COVID-19 o fis Mawrth i fis Medi 2020.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad sy’n amlinellu perfformiad ac effaith y Strategaeth Cyfathrebu yn ystod pandemig COVID-19 ac amlinellodd y pwyntiau allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Nododd Aelod waith ardderchog y Tîm Cyfathrebu, fodd bynnag roedd wedi gweithio y byddai Arweinydd y Cyngor wedi bod yn fwy rhagweithiol.

 

Dywedodd yr Aelod y rhoddwyd sylw i arweinwyr awdurdodau cyfagos mewn adroddiadau newyddion yn ystod y pandemig, er na welwyd Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent yn y cyfnod digynsail yma. Ychwanegodd yr Aelod ei bod yn bwysig fod yr Arweinydd yn rhoi negeseuon allweddol i sicrhau fod gan ein cymunedau hyder yn y Cyngor ac yn medru rhoi enw ar yr wyneb.

 

Teimlai’r Cadeirydd na fu unrhyw reswm dros i Arweinydd y Cyngor gymryd rhan mewn adroddiadau newyddion. Cyfeiriodd yr Aelod at y nifer uchel o achosion COVID-19 ym Mlaenau Gwent a holodd os nad oedd hyn yn rheswm i Arweinydd y Cyngor annerch ein preswylwyr, fel y gwnaeth arweinwyr eraill ym Merthyr Tudful, Casnewydd, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.

 

Cytunodd Aelod arall gyda’r sylwadau a wnaed a dywedodd nad oedd yn ymwneud ag ymddangosiadau teledu yn unig ond hefyd am gyfweliadau radio ac erthyglau papur newydd. Credai’r Aelod fod hyder y cyhoedd yn hollbwysig yn y cyfnod ansicr hwn ac er bod gwaith y Tîm Cyfathrebu yn rhagorol, mae angen mewnbwn gwleidyddol. Mae’n well gan y cyhoedd weld sylwadau o safbwynt gwleidyddol ac nid llefarydd ar ran y Cyngor.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, nodi perfformiad y Strategaeth Cyfathrebu, yn neilltuol ar effaith y strategaeth yn ystod pandemig COVID-19. Y cyfnod dan sylw fydd mis Mawrth i fis Medi 2020.

 

9.

Monitro Perfformiad Strategaeth Fasnachol pdf icon PDF 433 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a gyflwynwyd i Aelodau ystyried perfformiad y Strategaeth Fasnachol a chanolbwyntio ar effaith y strategaeth ar y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Medi 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, a nodi perfformiad y Strategaeth Fasnachol yn ystod cyfnod mis Mawrth 2020 – mis Medi 2020.

 

10.

Perfformiad Absenoldeb Salwch pdf icon PDF 1020 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu a herio perfformiad absenoldeb salwch ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod yr adroddiad yn rhoi cyfle i Aelodau graffu a herio perfformiad absenoldeb salwch ar gyfer 2019/20. Mae hefyd yn amlinellu’r camau gweithredu parhaus i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb ac yn cydnabod presenoldeb cadarnhaol mwyafrif y gweithlu.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol mai’r ffigur alldro cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer y Cyngor yw 13.91 diwrnod fesul gweithiwr cyflogedig cyfwerth ag amser llawn oedd yn 13.48 diwrnod ac eithrio salwch Covid-19. Roedd hyn yn gynnydd o all-dro y flwyddyn flaenorol o 12.66 diwrnod ac yn uwch na’r targed a osodwyd o 11 diwrnod. Rhoddir manylion pellach am yr wybodaeth yn yr atodiadau i’r adroddiad. Cyfeiriodd y Swyddog ymhellach at fesurau hanesyddol a gafodd eu gweithredu i wella presenoldeb a mesurau parhaus mewn ymgais i fynd i’r afael â phresenoldeb.

 

Cododd Aelod bryderon am y cynnydd parhaus mewn salwch o fewn yr Awdurdod a chyfeiriodd at waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen nad yw wedi gweld fawr o welliant yn y ffigurau. Fodd bynnag, er fod pandemig a fyddai’n effeithio ar lefelau salwch, teimlid fod lefelau salwch yn parhau’n uchel iawn ar draws y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y cafodd y polisi ei adolygu’n sylfaenol a daeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen i’r casgliad ei fod yn addas i’r diben. Mae system adnoddau dynol iTrent yn rhoi gwybodaeth fanwl i reolwyr i’w galluogi i reoli absenoldeb salwch.

Mewn ymateb i bryderon pellach am lefelau salwch a pherfformiad, dywedwyd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol bob chwarter ac yn rhan o’r adroddiad Perfformiad a Chyllid a gyflwynir i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol bob chwarter.

 

Codwyd cwestiwn pellach am fonitro lefelau salwch adrannau unigol. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y bydd pob Cyfarwyddiaeth yn adolygu’r 20 uchaf o achosion. Y llynedd cafodd adroddiadau eu hystyried yn y Pwyllgorau Craffu perthnasol gydag adroddiad cynhwysfawr i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Holodd Aelod os gallai Blaenau Gwent gydweithio gydag Awdurdod cyfagos i ganfod sut maent yn trin lefelau salwch. Cadarnhawyd y gwnaed y gwaith hwn fel rhan o’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Mewn ymateb i gais i ddod ag adroddiadau pellach drwy’r broses wleidyddol, nodwyd fod yr Awdurdod yn ymateb i Covid-19 ar hyn o bryd ac y byddai capasiti yn ystyriaeth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, bod y Pwyllgor Craffu wedi craffu’r wybodaeth perfformiad absenoldeb salwch a’r camau gweithredu cyfredol i gefnogi gwella presenoldeb o fewn y Cyngor i ddynodi unrhyw feysydd pellach ar gyfer gwelliant er mwyn sicrhau gwelliant perfformiad.

 

11.

Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2021/2022 - 2025/2026 pdf icon PDF 595 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i Aelodau i gael cymeradwyaeth i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a rhoi’r asesiad diweddaraf i Aelodau ar sefyllfa ariannol y Cyngor dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg manwl o’r pwyntiau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad a’r atodiadau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, fel sy’n dilyn:-

·        ystyried a chytuno ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol;

·        nodi’r bwlch cyllid a ragwelir am gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canol;

·        nodi’r pwysau cost a ddynodwyd yn Atodiad 1 y Strategaeth Ariannol Tymor Canol;

·       nodi’r diweddariad cynnydd o fewn yr Adolygiadau Busnes Strategol a roddir yn Atodiad 2 y Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

 

12.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 393 KB

Derbyn yr adroddiad..

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.

 

Gofynnodd Aelod am i adroddiad ar ffioedd ymgynghori gael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol. Dywedwyd fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi gofyn am hyn ac y cytunwyd iddo. Fodd bynnag, teimlai’r Aelod gan mai mater corfforaethol yw hwn y dylai’r adroddiad cynhwysfawr gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Corfforaethol. Gwyddai’r Aelod fod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi gofyn am adroddiad, felly awgrymwyd bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu perthnasol gydag adroddiad cynhwysfawr i’r Pwyllgor Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Cytunodd y Prif Swyddog Adnoddau gyda’r llwybr gweithredu hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at adroddiadau cynnydd CCTV a nodwyd na chafodd ei gynnwys yn y Flaenraglen Gwaith. Dywedodd y Prif Swyddog y caiff yr adroddiadau hyn eu cynllunio ar y Flaenraglen Gwaith, fodd bynnag caiff ei gyflwyno yn nes ymlaen yn y flwyddyn ac nid yn y cyfarfod ym mis Ionawr.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfarfod 22 Ionawr 2021, fel y’i cyflwynwyd.