Agenda and minutes

Pwyllgor Archwilio - Dydd Mawrth, 19eg Tachwedd, 2019 9.30 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, ac mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y cyd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr H. Trollope a L. Winnett.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:

 

Cynghorydd L. Parsons - Eitem Rhif 8 – Swyddfa Archwilio Cymru – Darparu gyda Llai - Gwasanaethau Hamdden

 

4.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 452 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Medi 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Medi er pwyntiau cywirdeb.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion.

 

5.

Datganiad Llywodraethiant Blynyddol pdf icon PDF 495 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol terfynol ar gyfer 2018/19, sy'n rhoi asesiad o effeithlonrwydd trefniadau llywodraethiant yr Awdurdod. Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog y caiff unrhyw argymhellion ar gyfer datblygu eu gwneud yn y datganiad ac y cânt eu gweithredu drwy gydol y flwyddyn ac y caiff cynnydd ar argymhellion ei gynnwys yn Natganiad Llywodraethiant Blynyddol 2019/20.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo a mabwysiadu'r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/19 pdf icon PDF 415 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cyflwynodd y Cyfreithiwr yr adroddiad sy'n hysbysu'r Pwyllgor Archwilio am berfformiad y Cyngor yng nghyswllt cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Siaradodd am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo a dywedodd ei fod yn falch i ddweud mai Cyngor Blaenau Gwent sydd â'r nifer isaf o gwynion gwasanaeth a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, esboniodd y Swyddog fod y Cyngor wedi mabwysiadu Polisi Datrysiad Lleol lle byddai Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol yn ceisio datrys unrhyw broblemau cyn iddynt gynyddu i weithdrefnau ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Archwilio yn cydnabod fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth perfformiad a roddwyd yn adlewyrchu'r arferion hynny.

 

 

7.

Adroddiad Cynnydd Cynllun Archwilio - Gorffennaf 2019 i Medi 2019 pdf icon PDF 575 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio yr adroddiad sy'n diweddaru'r Pwyllgor Archwilio ar y cynnydd ar y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf i 30 Medi 2019. Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf i 30 Medi 2019.

 

8.

Swyddfa Archwilio Cymru - Darparu gyda Llai - Gwasanaethau Hamdden pdf icon PDF 569 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol yr adroddiad sy'n amlinellu canfyddiadau adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Darparu gyda Llai - Gwasanaethau Cyhoeddus a adroddwyd ym mis Mai 2018.

 

Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cadarnhaodd y cafodd y cynigion ar gyfer gwella eu derbyn a'u cynnwys yn ail gyfnod yr adolygiad sy'n mynd rhagddo ar y gwasanaethau Hamdden a Diwylliant.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 95 adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a ddywedodd nad oedd yr adolygiad yn cynnwys craffu amserol ac ystyriol gan Aelodau ac yn gofyn sut y bwriedir gwella'r broses yn y dyfodol.

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog ers cyfnod cyntaf yr adolygiad, bod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol wedi sefydlu Gweithgor Aelodau ac y rhoddwyd adroddiad i'r Pwyllgor ar ganlyniadau'r gwaith hwnnw. Mae adroddiadau ar y cyfnod cyfredol yn parhau i gael eu hadrodd drwy'r broses ddemocrataidd.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol pan ystyriwyd dau ddarn sylweddol o waith, sef y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu a'r Achos Busnes Strategol ar gyfer datblygu ail Ganolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu (HWRC). Dywedodd fod y ddau yn faterion dadleuol sy'n effeithio ar y Fwrdeistref Sirol a mynegodd bryder mai dim ond nifer fach o Aelodau a gafodd gyfle i graffu a gwneud penderfyniad ar y materion strategol hyn. Dywedodd fod Arweinydd y Cyngor ym mis Mai 2017 wedi rhoi sicrwydd y byddid yn galw Cydbwyllgorau i ystyried eitemau o'r fath sy'n effeithio ar y Cyngor, tebyg i'r Adolygiad o'r Gwasanaethau Hamdden a mynegodd bryder nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd, gan olygu mai dim ond tua 48% o Aelodau sydd â mewnbwn mewn materion pwysig.

 

Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau mai'r unig gydbwyllgorau a ffurfiwyd gan Gyfansoddiad y Cyngor oedd Diogelu a Monitro'r Gyllideb. Dywedodd fod angen cydbwysedd am gylch gorchwyl Pwyllgorau Craffu a'r rhesymeg dros 'agor' materion neilltuol i bob Aelod. Fodd bynnag, dywedodd pe byddai Pwyllgor Craffu yn cael ei 'agor lan' i bob Aelod, na fyddai yn Gyd-bwyllgor gyda chyfansoddiad yn yr un ffordd â Diogelu a Monitro'r Gyllideb, ac mai dim ond Aelodau'r Pwyllgor cynnal  fyddai â hawliau pleidleisio.

 

Dywedodd yr Aelod ei fod yn deall y broses ond lle mae galw sylweddol gyda darnau mawr o waith yn effeithio ar y Cyngor, dylid cynnull pob Pwyllgor Craffu i Aelodau, yn unol ag ymrwymiad yr Arweinydd ym Mai 2017.

 

Dywedodd Aelod arall fod y Swyddog wedi awgrymu y byddid yn rhoi adroddiad ar ail gam yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Hamdden i'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol i Aelodau ei ystyried.

 

Ychwanegodd Aelod arall fod angen dull gweithredu mwy 'cydlynol' ac y dylid sefydlu Gweithgor Trawsbleidiol ynghyd â Swyddogion i gwrdd gyda Bwrdd yr Ymddiriedolaeth Hamdden.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys adolygiad a chanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar Darparu gyda Llai - Gwasanaethau Hamdden a chymeradwyo'r Ymateb Rheolaeth, gan ei fod yn rhoi sicrwydd y byddai'r cynigion ar gyfer gwella yn cael eu cymeradwyo'n  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/19 pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau yr adroddiad sy'n amlinellu canfyddiadau adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth: Ymgysylltu â'r Gymuned a adroddwyd ym Mai 2019. Rhoddir Ymateb Rheolaeth y Cyngor yn Atodiad 2 a chafodd yr adroddiad hefyd dderbyniad cadarnhaol gan y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi cynnwys adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a'r canfyddiadau ar Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth: Ymgysylltu â'r Gymuned ac Ymateb Rheolaeth y Cyngor.