Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2023 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau..

 

Cofnodion:

           Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr  K. Chaplin, M. Day, J. Hill, J. Holt, J. Morgan, Y.H., J. Wilkins, a’r Prif Swyddog Adnoddau.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:

    

Eitem Rhif 22: Cynnig y Cyngor – Lles Anifeiliaid

 

-        Cynghorydd W. Hodgins

 

Ar ôl derbyn cyngor y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro, arhosodd yr Aelod yn y cyfarfod tra cafodd yr eitem o fusnes ei hystyried ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Cydymdeimlad

 

Mynegwyd cydymdeimlad gyda’r:

 

-        Cynghorydd Lisa Winnett ar farwolaeth drist ei thad.

-        Cynghorydd Malcolm Cross ar farwolaeth drist ei chwaer.

 

Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda un munud o dawelwch.

 

Anfonwyd llythyrau cydymdeimlad at y teuluoedd.

 

Cynghorydd Carl Bainton – Ymddiswyddiad

 

Gwnaeth Arweinydd y Cyngor y datganiad dilynol:

 

Gyda gofid yr oedd yn rhaid iddo gyhoeddi ymddiswyddiad Carl Bainton a wasanaethodd Ward De Glyn Ebwy ers cael ei ethol ym Mai 2022. Datblygodd y sefyllfa oherwydd y gofynnwyd I’r Cyngor, ar gais Llywodraeth Cymru, i drosglwyddo staff Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) a gyflogir ar y Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy I’r Cyngor er mwyn bod yr un fath â’r model a fabwysiadwyd gan y 21 awdurdod lleol arall ar draws Cymru. Fel canlyniad mae Carl wedi trosglwyddo i’r Cyngor dan reoliadau TUPE ac roedd yn rhaid iddo felly ymddiswyddo fel Aelod o’r Cyngor. Roedd hon yn sefyllfa unigryw, fodd bynnag roedd darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 yn weithredol ac ysywaeth ni fedrai Carl aros fel Cynghorydd a hefyd fel cyflogai.  Roedd Carl wedi gofyn am gyngor ac eglurder ar hyd proses trosglwyddo TUPE ac er  ei bod yn sefyllfa ddigynsail, cafwyd cadarnhad fod y Ddeddf yn weithredol yn ystod y sefyllfa yma.

 

Yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd roedd Carl wedi dangos ymroddiad di-ildio i wella cymuned a dinasyddion Blaenau Gwent drwy weithio’n ddiflino i drin anghenion a phryderon preswylwyr. Cafodd ei waith mewn meysydd tebyg i’w rôl fel Pencampwr Costau Byw effaith barhaus, yn gymaint felly fel bod yr Arweinydd yn ddiweddar wedi trafod ei wneud yn Gadeirydd y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gostau Byw, cymaint ei ymroddiad a’i ymrwymiad i’r gwaith.

 

Daeth yr Arweinydd i ben drwy ddweud ein bod i gyd yn ddiolchgar am wasanaeth ac ymroddiad rhagorol Carl ac yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol. Yn anochel, byddai’r ymddiswyddiad hwn yn sbardun i is-etholiad yn Ward Glynebwy yn y Flwyddyn Newydd.

 

Yna darllenodd yr Arweinydd lythyr a gafwyd gan Carl:

 

“Annwyl Gyd Aelodau Etholedig

 

Bydd llawer ohonoch yn gwybod pan ddechreuais fy nghyfnod fel Cynghorydd ym Mlaenau Gwent fy mod yn cael fy nghyflogi gan GAVO yn y Tîm Cymunedau am Waith a Mwy. Ar gais Llywodraeth Cymru, fe wnaeth GAVO yn ddiweddar drosglwyddo’r tîm yn fy nghynnwys i i’r Cyngor dan reoliadau TUPE. Credais i ddechrau bod yn yr amgylchiadau unigryw hwn y gallwn wneud rôl ddeuol. Yn anffodus, ers hynny eglurwyd nad yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu  i mi barhau yn y ddwy swydd. Felly nid oes gennyf unrhyw ddewis heblaw datgymhwyso fy hun o fod yn Gynghorydd yn weithredol ar unwaith.

 

Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i bob Cynghorydd am eu cyfeillgarwch a chefnogaeth a ddangos yn ystod fy nghyfnod yn fy swydd ac i staff diwyd y Cyngor y mae eu hymdrechion weithiau yn mynd heb ei nodi a diolch diffuant enfawr i fy holl etholwyr yn Ne Glyn Ebwy a wnaeth fy nghefnogi hyd yr eithaf mewn cyfnodau da a chyfnodau heriol  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Llyfr Penderfyniad – Mawrth-Tachwedd 2023

Cofnodion:

Cafodd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Mawrth-Tachwedd 2023 ei gyflwyno i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penderfyniadau a chadarnhau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 117 KB

Ystyried ac os credir yn addas, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 102 KB

Ystyried ac os credir yn addas, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

 

8.

Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 70 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 25 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Craffu Cynllunio pdf icon PDF 77 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 70 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Craffu Cynllunio pdf icon PDF 72 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynlluio a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Cabinet pdf icon PDF 109 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau pdf icon PDF 70 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaeth a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 74 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad pdf icon PDF 74 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 78 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 86 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Pwyllgor Moeseg a Safonau pdf icon PDF 72 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Moeseg a Safonau a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 92 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau Arbennig pdf icon PDF 75 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

21.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

 

22.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

23.

Cynnig – Lles Anifeiliaid pdf icon PDF 67 KB

Ystyried y Cynnig a atodir.

 

Cofnodion:

Datganodd Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod tra roedd yn cael ei ystyried ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Cynnig a gyflwynwyd yn ymwneud â Lles Anifeiliaid.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gefnogi’r Cynnig a chytunodd y Cyngor i:

 

(i)               Gwahardd yn llwyr roi anifeiliaid byw fel gwobrau, mewn unrhyw ddull, ar dir Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

(ii)             Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gan annog gwaharddiad llwyr ar roi anifeiliaid byw fel gwobrau ar dir cyhoeddus a thir preifat yng Nghymru.

 

24.

Pleidlais Drosglwyddadwy Sengl pdf icon PDF 130 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cofnodion:

Ymunodd y Cynghorydd Jules Gardner â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, cynigiodd Aelod gymeradwyo Opsiwn 1 h.y. sef cadw pleidleisio Cyntaf Heibio’r Postyn ar gyfer etholiadau lleol. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Cynigiwyd Opsiwn 2 gan Aelod arall, sef cynnal ymgynghoriad cyn dod ag adroddiad yn ôl i’r Cyngor i’w ystyried newid y system bleidleisio a fyddai angen mwyafrif o ddau-draean o’r Cyngor cyn newid y system bleidleisio. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Wedyn gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi ar gyfer y record gyhoeddus.

 

O blaid Opsiwn 1 – Cynghorwyr D. Bevan, M. Cross, D. Davies, W. Hodgins, G. Humphreys, J. C. Morgan, J. P. Morgan, L. Parsons, D. Rowberry, C. Smith, T. Smith, G. Thomas, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, L. Winnett, D. Woods.

 

O blaid Opsiwn 2– Cynghorwyr P. Baldwin, S. Behr, H. Cunningham, G. A. Davies, S. Edmunds, J. Gardner, R. Leadbeater, E. Jones, J. Thomas.

 

Felly cafodd y bleidlais ar Opsiwn 1 ei gario.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cadw system bleidleisio bresennol Cyntaf Heibio’r Postyn ar gyfer etholiadau lleol.  

25.

Diwygiad Arfaethedig i’r Cyfansoddiad pdf icon PDF 135 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r gwelliant a nodir isod a’i gynnwys yn y Cyfansoddiad presennol:

 

11.10.3 Penodi Prif Weithredwr

“Bydd y Cyngor Llawn yn cyfweld ac yn penodi’r Prif Weithredwr. Bydd y Pwyllgor neu Is-bwyllgor o’r Cyngor yn llunio rhestr fer ac mae’n rhaid i’r Pwyllgor neu Is-bwyllgor gynnwys o leiaf un Aelod o’r Cabinet. Bydd wedyn broses addas i asesu ymgeiswyr i benderfynu ar yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld gan y Cyngor Llawn.”

 

26.

Ymrwymo i’r Cyfamod Lluoedd Arfog pdf icon PDF 142 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn ymrwymo i’r Cyfamod Lluoedd Arfog a fyddai’n cael ei lofnodi gan y Cynghorydd Derrick Bevan, Pencampwr Lluoedd Arfog.

 

27.

Cynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent ac Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2022/2023 pdf icon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd aelodau adroddiad y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r cyd-ymrwymiadau rhanbarthol a amlinellir yn y Cynllun Ardal ac Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys cynnydd ar yr amcanion.

 

28.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 96 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

panel Ymgynghori Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol

 

Gwnaeth y Panel ar 15 Tachwedd 2023 yr argymhellion dilynol i benodi mewn egwyddor:

Ysgol Gynradd Beaufort Hill – Belinda Tolman

Ysgol Gynradd Georgetown  Jacqueline Thomas

Ysgol Gynradd Bryn Bach – Nyree Davies-Jones

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.

 

PENODI AELOD LLEYG PWYLLGOR LLYWODRAETHIANT AC ARCHWILIO

 

PENDERFYNWYD penodi Mrs Cheryl Hucker yn Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

                                                                                       

PENODI CYNGHORYDD TREF I’R PWYLLGOR MOESEG A SAFONAU

 

Rhoddwyd adroddiad llafar am yr apwyntiad dilynol:

 

PENDERFYNWYD nodi penodi’r  Cynghorydd Joshua Rawcliffe o Gyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd i’r lle gwag ar gyfer Cynghorydd Tref ar y Pwyllgor Moeseg a Safonau.