Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Jones, J. Thomas, D. Wilkshire, D. Woods, Prif Weithredwr Interim a’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw gyhoeddiadau yn y cyfarfod hwn.
|
|
Llyfr Penderfyniadau – Mehefin-Medi 2023 2023 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Mehefin – Medi 2023 i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo a chadarnhau’r penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 136 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 85 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gymhaliwyd ar 7 Medi 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 69 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 62 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 60 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu a Chorfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 82 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 101 KB Cadarnhau penderfyniadau y Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Cyffredin y Cyngor – Dalen Weithredu PDF 84 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r wybodaeth a gynhwysir yn y Ddalen Weithredu
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Diwygiadau i'r Cyfansoddiad PDF 144 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro). Ar hynny:
Paragraff 4.2/Tud. 31 – Y Fframwaith Polisi – Strategaeth Tai
Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol er y cynigiwyd yn wreiddiol i ddileu’r cyfeiriad yn y Cyfansoddiad at y Strategaeth Tai, yn dilyn ystyriaeth bellach ac ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet, cytunwyd y byddai’r Strategaeth Tai yn parhau o fewn y Fframwaith Polisi yn unol â fersiwn 2022 y Cyfansoddiad.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar y diwygiad uchod i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y diwygiadau a awgrymir yn cael eu cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cyfansoddiad presennol.
|
|
Adroddiad Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 PDF 169 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaethpwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 a derbyn y cofnod perfformiad a chydymffurfiaeth a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn.
|
|
Diweddariad ar y Rhaglen Cyfalaf PDF 184 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Yn dilyn trafodaeth faith, cynigiwyd:
- Yng nghyswllt Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, fod cytuno ar opsiynau 2 a 3, yn amodol ar adroddiad pellach yn rhoi manylion dadansoddiad budd cost llawn, yr effaith ar y gyllideb a’r gymuned a rhai sy’n cael budd o’r Grantiau (tra’n sicrhau fod yr addasiadau ar gael ar gyfer y rhai nad oedd â’r modd i dalu) ynghyd â’r cyflymder y gellid ymateb i geisiadau.
- Cynnal trafodaeth drawsbleidiol bellach ar yr holl raglen cyfalaf.
PENDERFYNWYD ymhellach, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef dyrannu adnoddau cyfalaf i’r cynlluniau blaenoriaeth/prosiectau a ddynodwyd ac a fanylir yn yr adroddiad, h.y.
Gwaith Gwella Priffyrdd – Cymeradwyo Opsiwn 2 h.y dyrannu £500,000 ar gyfer 2023/2024.
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl – Cymeradwyo Opsiynau 2 a 3, h.y. cynyddu’r dyraniad cyfalaf i £400,000 y flwyddyn (ar gyfer 2023/24 a 2024/25) a rhoi ystyriaeth i ailosod yr elfen prawf modd ar gyfer y broses gais.
Trosglwyddo Asedau Cymunedol, Grantiau Cartrefi Gwag, Ysgol Glyncoed – Llinell Draeniad Storm, dymchwel Ysgol Pen-y-Cwm (hen safle) ac Ardaloedd Chwarae – Cymeradwyo Opsiwn 2 a dyrannu cyllid ar gyfer yr amcangyfrif symiau fel sy’n dilyn:
- Trosglwyddo Asedau Cymunedol - £140,000 - Grantiau Eiddo Gwag - £100,000 - Llinell Draeniad Storm Ysgol Glyncoed - £100,000 - Dymchwel Ysgol Pen-y-Cwm (hen safle) - £200,000 - Ardaloedd Chwarae - £50,000
Canolfan Ddinesig, Glynebwy – Dymchwel - £500,000 i gael ei dyrannu o’r adnoddau cyfredol.
|
|
Mabwysiadu Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2023-2028 PDF 154 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, h.y. cefnogi mabwysiadu Cynllun Cynnal a Chadw Asedau priffyrdd 2023-2028.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2022/23 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 136 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, h.y. cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2022/2023 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer ei gyhoeddi.
|
|
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y dilynol:
· yr adroddiad Gwrthwynebiadau, gyda thystiolaeth o’r Hysbysiad Statudol (Atodiad 1) a chymeradwyaeth grantiau i symud ymlaen i’r cam gweithredu a
· yr achos busnes llawn (Atodiad 2) yng nghyswllt gweithredu’r canolfannau adnoddau o fis Medi 2023 ymlaen.
|
|
Ystyried yr adroddiad a atodir. Cofnodion: Panel Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol
Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 13 Medi 2023 i benodi mewn egwyddor:
Ysgol Gynradd Trehelyg – Sian Barrett Ysgol Gynradd Ystruth – Melanie Rogers Ysgol Gynradd Cwm – Natalie Marshall Ysgol Gynradd Coed-y-Garn – Joan Price Ysgol Sefydliadol Brynmawr – Gail Watkins PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.
Pwyllgor Cyswllt Cynghorau Tref/Cymuned
PENDERFYNWYD sefydlu Pwyllgor Cyswllt Cynghorau Tref/Cymuned gyda’r aelodaeth ddilynol:
Arweinydd/Aelod Cabinet – Trosolwg Corfforaethol a Pherfformiad (Cadeirydd) Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet – Lle ac Amgylchedd
Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd
Aelod Cabinet – Pobl ac Addysg
Aelod Cabinet – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol
|