Eich Cynghorwyr

Caiff Cynghorwyr lleol eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai’r Cyngor gyflawni ei amryw weithgareddau. Maent yn cynrychioli budd y cyhoedd yn ogystal ag unigolion sy’n byw yn y ward y mae ef neu hi wedi’i (h)ethol i’w gwasanaethu dros gyfnod yn y swydd.

Gallant gael cyswllt rheolaidd â’r cyhoedd trwy gyfarfodydd y Cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd. Mae cymorthfeydd yn rhoi cyfle i unrhyw breswylydd mewn ward fynd i siarad gyda’u cynghorydd wyneb yn wyneb ac mae’r rhain yn digwydd yn rheolaidd.

Ni thelir cyflog i Gynghorwyr am wneud eu gwaith, ond maent yn cael lwfansau. Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i holl aelodau’r Cyngor gwblhau ffurflen datgan buddiannau, y cyhoeddir eu manylion yn flynyddol..

I ganfod eich cynghorydd defnyddiwch y dolenni isod: