Agenda item

Polisi Trefniadaeth Ysgolion (2021/24)

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i gael barn y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yng nghyswllt yr adolygiad o’r Polisi Trefniadaeth Ysgolion (2021024), cyn cyflwyno’r polisi i Bwyllgor Gweithredol y Cyngor. Cynigir mabwysiadu a gweithredu’r polisi diwygiedig o ddechrau blwyddyn academaidd 2021/22.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod os y gallai’r polisi gynnwys agwedd o lesiant. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y polisi’n canolbwyntio ar flaenoriaethau trefniadaeth ysgolion tebyg i reoli a’r weledigaeth ar gyfer y stad ysgolion yn y dyfodol ac y byddai’r agwedd llesiant yn ffurfio rhan allweddol o’r cynllun adferiad. Gallai hyn o bosibl gynnwys hynny yn y polisi yn unol â chynlluniau adferiad addysg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am fodelau ffederal, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddent yn ystyried hyn fel un o’r opsiynau yn gysylltiedig gyda’r ysgol Gymraeg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod Blaenau Gwent yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gael ysgol ffederal, sef Ysgol Rhiw Briery, yn uno â Chymuned Ddysgu Ebwy Fawr. Teimlai fod penaethiaid ac arweinwyr ysgol effeithlon iawn ar draws y stad ysgolion sy’n rhoi’r Awdurdod mewn sefyllfa dda i ystyried modelau ffederal yn y dyfodol er mwyn cael arweinyddiaeth ansawdd uchel wedi’i lledaenu ar draws y stad ysgolion. Dywedodd y gellid symud ymlaen gyda modelau ffederasiwn mewn dwy ffordd: model ffederasiwn dan arweiniad yr awdurdod lleol neu gan gyrff llywodraethu. Mae cyfleoedd yn y dyfodol, yn neilltuol wrth gefnogi ysgolion gyda nifer isel o ddisgyblion. Yng nghyswllt chydweithio rhwng Chweched Dosbarth, dywedodd y Cyfarwyddwyr y bu nifer o modelau ffederal ar draws Cymru ar gyfer darpariaeth ôl-16 oherwydd y nifer cymharol fach o ysgolion y mae disgyblion yn darparu ar eu cyfer. Yng nghyd-destun Blaenau Gwent, fodd bynnag, sefydlwyd model trydyddol gyda Choleg Gwent yn y Fwrdeistref Sirol. Yng nghyswllt yr ysgol Gymraeg, yr opsiwn a ffafrir fyddai cydweithredu rhwng Bro Helyg a’r ysgol newydd unwaith y’i datblygir ond byddai hyn yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad.

 

Dywedodd Aelod nad yw ysgolion uwchradd yn llai na 600 disgybl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes eu bod yn y broses o sefydlu amcanestyniadau disgyblion ac wedi cynnal adolygiad blynyddol o gapasiti. Mae rhai ysgolion sy’n gymharol agos at y nifer hwn ond dim yn y categori ar hyn o bryd. Gyda’r adolygiad blynyddol o gapasiti a’r adolygiad blynyddol o amcanestyniadau, byddent yn gweithio’n agos gyda phenaethiaid ysgol uwchradd i fonitro hyn wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr o safbwynt strategol yn unol â pholisi trefniadaeth ysgolion eu bod wedi ad-drefnu ysgolion uwchradd yn sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac mae Blaenau Gwent yn bendant iawn yn  lleoliad pedair ysgol uwchradd, ac os nad oes newid syfrdanol nid oes dim o’r ysgolion uwchradd dan adolygiad sylweddol ar hyn o bryd. Teimlai fod hon yn lefel addas o ddarpariaeth y byddai’r stad ysgolion ei hangen yn y dyfodol. Dywedodd fod cael yr ysgol gywir o’r maint cywir yn y lle cywir yn rhan o’r polisi.

 

Holodd y Cadeirydd sut i sicrhau y caiff arfer gorau ei drosglwyddo i ysgolion eraill. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod llawer o rannu gwybodaeth da ar draws ysgolion, yn arbennig ar draws clystyrau ac y bu’r EAS yn ganolog wrth sefydlu’r trefniadau a’r partneriaethau hynny. Roedd yn awyddus i sicrhau fod y neges yn mynd ar led i bob ysgol yng nghyswllt y cynllun adfer ac adnewyddu a rhan o’r gwaith hwn yw datblygu gweithio partneriaeth rhwng ysgolion a rhannu arfer gorau a chaiff hynny ei gynnwys yn y cynlluniau hyn wrth symud ymlaen. Byddid yn sefydlu cysylltiadau pellach ar draws ysgolion uwchradd a Choleg Gwent a chynnal trafodaethau ar sut i ddatblygu gweithio partneriaeth a sut i gael darpariaeth ohonynt i ysgolion cynradd yn arbennig flwyddyn 6 a blwyddyn bontio 7.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Bolisi Trefniadaeth Ysgolion 2021 Blaenau Gwent.

 

Gan mai hwn oedd y cyfarfod olaf yn y cylch Pwyllgorau, diolchodd y Cadeirydd i’r Is-gadeirydd, yr Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth a’u cyfraniad mewn blwyddyn heriol iawn. Teimlai fod y Pwyllgor wedi mynd o nerth i nerth a gobeithiai y byddai hyn yn parhau yng nghylch nesaf y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg i’r Cadeirydd am ei sylwadau cadarnhaol a dywedodd fod Estyn wedi gwneud sylwadau adeiladol ar effeithlonrwydd Craffu ym Mlaenau Gwent.

 

 

Dogfennau ategol: