Agenda item

Cyfarwyddiaeth Addysg – Ymateb i COVID-19

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i sefyllfa COVID-19, yn neilltuol yn cefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a rhoi sylw i’r diweddariadau llafar am ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i Covid-19 a roddwyd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor i sicrhau bod Aelodau’n cael eu hysbysu am y datblygiadau diweddaraf. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i’r gweithgaredd yn nhymor yr hydref a thymor y gwanwyn ac yn cynnwys yr wybodaeth gyfredol fwyaf perthnasol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant mai profiad penaethiaid ysgol a chydweithwyr oedd eu bod yn teimlo fod Blaenau Gwent wedi bod yn gefnogol iawn iddynt a’u cynnwys yn yr holl drafodaethau yn nhermau ailagor ysgolion ac yna’r cyfnod clo pellach, a hefyd sut y byddent yn cael pobl ifanc yn ôl i’r ysgol yn ddiogel.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog am ei sylwadau a nododd fod y Pwyllgor yn croesawu’r adborth o safbwynt penaethiaid ysgol.

 

Cododd Aelod gwestiwn am ddisgyblion yn mynd ag offer technoleg gwybodaeth a gyflenwyd gan yr Awdurdod gartref gyda nhw a disgyblion yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol, a holodd sut y byddai’r Cyngor yn sicrhau fod y disgyblion yn defnyddio eu hoffer eu hunan yn ddigonol, a gyda dysgu wyneb i wyneb yn dychwelyd, a fyddai’r plant yn parhau i gael offer technoleg gwybodaeth gan yr awdurdod lleol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gallai o bosibl fod elfennau o ddysgu cyfunol am y dyfodol rhagweladwy, yn neilltuol mae’n hanfodol fod dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu mewn gosodiadau ysgol i wneud hynny’n llwyddiant. Yng nghyswllt Dod â’ch Dyfeisiau eich Hun, mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio’n agos gyda SRS i sicrhau fod unrhyw ddysgwr sy’n defnyddio offer yn ddiogel ac nad yw’n creu unrhyw risgiau posibl iddynt, mae hyn yn rhan o’r prosiect ehangach ar seilwaith a chysylltedd. Cafodd tua 1,600 o ddyfeisiau eu dosbarthu i ddysgwyr ac mae nifer ohonynt wedi manteisio o ddysgu cyfunol. Teimlai fod elfennau cryf o ddysgu oedd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf y gellid adeiladu arno yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y bu’r tîm yn gweithio’n agos gydag ysgolion yn edrych ar anghenion dysgwyr sydd dan anfantais digidol. Y cynllun presennol yw i’r dysgwyr gadw’r dyfeisiau a ddosbarthwyd gan dymor yr haf, byddai hyn yn cynnwys gliniaduron ac unedau mi-fi sy’n galluogi cysylltedd. Adolygir hyn yn y dyfodol ond mae’r Awdurdod yn ymroddedig i ddarparu cymorth am weddill y flwyddyn academaidd. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn gweithio gydag ysgolion, EAS a SRS i ddatblygu strategaeth TGCh yn edrych ar y ffordd orau i alluogi dysgwyr i gael mynediad yn gyffredinol yn eu cartrefi a hefyd yn yr ysgol. Mae tua 1 dyfais ar gyfer pob dysgwr ledled y stad ysgolion a’r nod yw cadw ac efallai gynyddu hyn lle bynnag sy’n bosibl. Gyda chynllun Hwb Ed-Tech a chyllid Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig gyda hynny, byddai hyn yn galluogi’r tîm i edrych am adnewyddu tua 25% o ddyfeisiau diwedd oes ledled y stad ysgolion. Edrychir ar hyn fel rhan o gynllunio cynaliadwyedd yn unol â’r Strategaeth TGCh.

 

Cododd Aelod gwestiwn am ddyfeisiau ar fenthyg ac os yw’r Cyngor yn dal i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw y dyfeisiau hynny.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod ar hyn o bryd yn bendant iawn yn dal i fod yn eiddo’r Awdurdod Lleol a bod yr Awdurdod Lleol yn eu cynnal a chadw. Os oes unrhyw broblemau gyda’r dyfeisiau hynny, yna byddai’r Awdurdod yn ymateb ar unwaith. Mae’r ysgolion a’r SRS yn gweithio gyda’r Awdurdod Addysg Lleol i ymateb i unrhyw broblemau, byddai adolygiad o ofynion a datblygir cynllun yn ystod tymor yr haf. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar eu cynlluniau o amgylch cyllido a hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion i edrych ar eu cynlluniau am ddarpariaeth. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynllun ffurfiol, fodd bynnag sefydlir cynllun yn ystod tymor yr haf a fyddai’n dod i rym o ddechrau tymor yr hydref a fyddai’n galluogi dysgwyr i gadw cynhwysiant llawn adref a hefyd yn yr ysgol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y trefniant swigen dosbarth y mae ysgolion yn gweithredu o‘i fewn a gobeithiai na fyddai’r trefniant hwn yn cael ei lacio’n rhy gyflym a bod ysgolion yn gwaethygu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg na chafodd hyn ei lacio gan fod canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn cadw’r un fath o arferion am greu swigod dosbarth. Teimlai ei fod yn dal i fod yn sefyllfa beryglus ac y byddai llacio swigod dosbarth yn rhy gynnar yn cael effaith niweidiol ar achosion yn gyffredinol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes eu bod yn ofalus iawn am lacio rheolau a rheoli risgiau. Roedd swigod wedi gweithio’n dda hyd yma ac roeddent wedi gobeithio cadw’r trefniadau hynny am weddill yr haf gyda golwg ar gynnal adolygiad llawn am y trefniadau gweithredu ar gyfer mis Medi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am adnewyddu dyfeisiau, atebodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y cafodd cryn dipyn o waith ei wneud i adeiladu ac ailbwrpasu’r dyfeisiau fel y gellid eu dosbarthu. Gwnaed hynny mewn camau dros y sesiwn academaidd ddiwethaf yn unol â dysgwyr newydd ac arfaethedig dan anfantais digidol. Ar y cam hwn, mae’r gliniaduron a’r feddalwedd ar y dyfeisiau yn addas i’r diben. Mae gweithdrefnau monitro ar waith lle gellid dychwelyd y ddyfais os oes unrhyw broblemau. Maent yn gweithio gyda SRS i edrych os oes angen gwneud mwy o waith ar y dyfeisiau hynny ac os felly byddent yn rhagweithiol wrth sicrhau eu bod yn cael eu casglu a’u hailddosbarthu yn brydlon. Roedd y Gyfarwyddiaeth yn ymwybodol o risgiau posibl am gynnydd pellach yn nifer achosion ond byddai’n dal ati i ddosbarthu’r dyfeisiau am y dyfodol rhagweladwy.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.

 

Dogfennau ategol: