Agenda item

Rheilffordd Cwm Ebwy

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fanylion y cynnig a fyddai’n cynorthwyo gyda gweithredu’r seilwaith sydd ei angen i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru a hefyd y Cyngor sef cynyddu amlder gwasanaethau. Nodwyd y byddai’r benthyciad di-log ac na fyddid yn ei gymryd nes y cynhaliwyd diwydrwydd dyladwy ac y cytunwyd i sefydlu trefniant cyd-fenter – os na chytunir ar hyn, byddai’r arian yn cael ei ad-dalu’n llawn.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau (crynodeb islaw), gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol/Prif Swyddog Adnoddau yn ymateb:

 

-       Dywedodd Aelod mai dim ond os y gwarentir dolen Casnewydd ac y gwneir y gwaith mewn partneriaeth gyda Chaerffiili a Chasnewydd a bod y baich ariannol yn cael ei rannu rhwng y tri awdurdod y byddai’n cefnogi’r cynnig.

 

Cydnabu’r Aelod gyfle gangen i Abertyleri ond dywedodd fod y pandemig wedi rhwygo canol tref Abertyleri gyda siopau wedi cau a gofynnodd os cynhelir asesiad effaith i asesu unrhyw effaith posibl y byddai hyn yn ei gael ar fusnesau presennol. Daeth i ben drwy ddweud y gallai cynyddu nifer y trenau i 4 yr awr fod yn ormod ac y gallai o bosibl wneud y llinell yn anhyfyw yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu trafodaeth sylweddol pan agorodd y rheilffordd gyntaf am ddefnydd gan deithwyr ac roedd y modelu wedi ei seilio ar lefelau defnydd hysbys – byddai Astudiaeth WelTAG yn penderfynu os yw nifer defnyddwyr yn realistig. Yng nghyswllt canol y dref, byddai hyn yn cael ei ailasesu i benderfynu sut y gellid newid y dref dros gyfnod i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd rhwng y dref a’r ddolen reilffyrdd. Nodwyd y cynhelir asesiad o’r effaith economaidd fel rhan o’r proseict.

 

Byddai’r gwaith yn nhermau dolen Casnewydd yn dibynnu ar drydydd parti a chaiff hyn ei gynnwys fel rhan o’r cytundeb Cydfenter a fyddai’n nodi’r prif ganlyniadau ar gyfer y prosiect. Yn nhermau gweithio partneriaeth gyda’r ddau awdurdod arall, nid oes unrhyw reswm pam na fedrai’r tri chyngor gydweithio i fanteisio i’r eithaf ar y buddion yn y dyfodol a dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gallai hyn ffurfio rhan o ymgysylltu yn y dyfodol.

 

Yn nhermau cwestiwn am risg yn nhermau cynnydd yn y MRP, cadarnhawyd pe derbyniwyd y benthyciad ac na chytunwyd ar y Gyd-fenter, gellid ad-dalu’r cyllid felly ni fyddai unrhyw oblygiadau risg i’r Cyngor. Fodd bynnag, pe gellid cyflawni’r ffrwd incwm, ni fyddai angen y ddarpariaeth MRP.

 

-       Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei bryder am gynnydd posibl yn y MRP gan y byddai eisoes gynnydd o £1.8m ar gyfer 2022/23. Er nad yw’n gwrthwynebu’r cynnig, dywedodd y byddai’n cynnig argymhelliad amgen ar yr adeg priodol.

 

-       Dywedwyd y byddai llai o bobl yn defnyddio trenau i fynd i’r gwaith pan maent yn gweithio gartref a mynegwyd pryder na fyddai’r awdurdod yn medru adennill yr arian ac y gallai hyn arwain at rwymedigaeth fawr i Flaenau Gwent, sy’n ardal amddifadus. Felly, dylai’r ymrwymiad cyllid gael ei rannu rhwng yr holl gynghorau a fyddai’n manteisio o’r cynnig. Teimlai’r Aelod y dylai’r sefyllfa gael ei hasesu ar hyn o bryd ac yn dilyn Covid a dywedodd nad dyma’r amser cywir i wneud y penderfyniad.

 

Gadawodd y Cynghorydd W. Hodgins y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod defnydd yn allweddol a bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal eu diwydrwydd dyladwy eu hunain ar y gwaith modelu a rhoddodd sicrwydd na fyddai unrhyw effaith ar y trethdalwyr ym Mlaenau Gwent ar gyfer unrhyw ad-dalu. Tanlinellodd na fedrid derbyn y benthyciad nes y sefydlwyd y cytundeb Cyd-fenter.

 

-       Dywedodd Aelod arall y dylid defnyddio’r cyllid i wella’r cysylltedd a’r seilwaith trafnidiaeth o fewn yr holl Fwrdeistref Sirol. Byddai hyn yn galluogi preswylwyr i deithio i gyfleoedd cyflogaeth o fewn y Fwrdeistref Sirol a dylid rhoi blaenoriaeth uwch iddo. Yn ychwanegol, gallai’r cynnig o bosibl roi baich ariannol ar y weinyddiaeth nesaf a theimlai’r Aelod nad dyma’r amser cywir i wneud y penderfyniad.

 

-       Cyfeiriwyd ar brosiectau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a bod prosiect cangen Abertyleri heb ei benderfynu a dywedodd fod angen mwy o eglurdeb ar y cynnig hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod cangen Abertyleri a’r Metro yn ffurfio rhan o brosiectau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – mae’r cynnig hwn yn brosiect ar wahân a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd prosiect cangen Abertyleri y Fargen-Ddinesig ei adael heb ei benderfynu ar hyn o bryd oherwydd ei fod yn ffurfio rhan o brosiect mwy. Tanlinellodd y byddai cyllid yn cael ei ddychwelyd yn y pen draw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pe bai’r Cyngor yn penderfynu peidio cymryd rhan yn y fenter – nodwyd y cafodd ceisiadau ar wahân eu gwneud eisoes i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid ar gyfer y prosiect hwn. Byddai’r cyfle yn rhoi gallu i ddarparu’r prosiect ar gyfer y dyfodol i’r flwyddyn ariannol nesaf yn amodol ar gytundeb Cydfenter. Gellid wedyn gydamseru hyn gyda chynnig prosiect y Fargen Ddinesig ar gyfer cangen Abertyleri.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y deallai y cafodd materion ariannol eu codi gan Aelodau a dywedodd y byddai cytundeb Cydfenter yn cael ei ddatblygu yn y 3 mis nesaf gyda phartïon eraill pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo fel y medrid sicrhau incwm digonol. Fodd bynnag, pe na fyddid yn dod i gytundeb byddai’r arian yn cael ei ad-dalu ar unwaith heb unrhyw effaith ar drethdalwyr cyngor.

 

-       Gofynnodd Aelod i’r Arweinydd agor dialog gydag arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Dinas Casnewydd parthed cytundeb i weithio mewn partneriaeth. Gofynnodd hefyd os yw’r Arweinydd yn rhannu ei bryder am yr effaith niweidiol bosibl y gallai hyn ei gael ar ganol tref Abertyleri.

 

Dywedodd yr Arweinydd pe cytunid ar yr adroddiad ac y byddai o fudd i’r prosiect a’r Cyngor byddai yn cydlynu ac yn agor dialog gydag Arweinwyr Casnewydd a Chaerffili fel y gofynnwyd. Cyfeiriodd at y pwyntiau a’r consyrn a godwyd a dywedodd ei fod hefyd wedi codi pwyntiau tebyg ac wedi gofyn am sicrwydd am y cynnig. Er bod angen penderfyniad ar y cynnig o gyllid, byddai’r Cyngor yn cymryd y penderfyniad mawr pan fyddai Aelodau yn ystyried y manylion a gynhwysir yn y cytundeb Cydfenter.

 

Aeth yr Arweinydd yn ei flaen drwy ddweud fod ganddo bryderon am bob canol tref ac mai ychydig iawn o reolaeth oedd gan y Cyngor – os oedd ganddo reolaeth o gwbl – am gau busnesau a dymunai weld Blaenau Gwent yn ffynnu. Dywedodd fod materion o bryder ym mhob rhan o’r rhanbarth a dywedodd fod cydweithwyr yng Nghasnewydd a Chaerdydd hefyd yn bryderus am yr effaith y byddai’r pandemig yn ei gael ar siopau canol dinas. Mae angen dull newydd o weithredu ar gyfer rhai o’r canol trefi ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn – cafodd Strategaeth Canol Tref ei mabwysiadu eisoes. Er mai ei flaenoriaeth bob amser fyddai ei waith Cynghorydd Ward Abertyleri, yn ei swydd fel Arweinydd y Cyngor ei brif flaenoriaeth oedd lles cyffredinol Blaenau Gwent yn ei chyfanrwydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai mesurau rheoli cyllideb yn ffurfio rhan o’r cytundeb Cyd-fenter. 

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd y byddai’r cytundeb Cyd-fenter yn cynnwys manylion am yr holl bryderon a’r pwyntiau a wnaed a dywedodd fod gwarchod y cyngor yn flaenoriaeth bennaf drwy’r broses. Cyfeiriodd at gyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog a dywedodd fod ffocws newydd ar gysylltedd a bod gwaith wedi dechrau ar hyn ac yn cynnwys buddsoddiad mewn rheilffyrdd eraill yn y cymoedd i wella gwasanaethau. Yn nhermau canol trefi, mae gwaith eisoes wedi dechrau edrych ar opsiynau newydd a gwahanol.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y dylai’r adroddiadau gael eu cyflwyno gan Aelodau Gweithredol yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, cynigiodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd gymeradwyo Opsiwn 1. Cafodd y cynnig ei eilio.

 

Dychwelodd y Cynghorydd W. Hodgins i’r cyfarfod hanner ffordd drwy’r drafodaeth ar y cynigion amgen.

 

Ar ran y Gr?p Llafur a’r Gr?p Annibynnol Lleiafrifol, cynigiodd Arweinydd y Gr?p Llafur yr argymhelliad amgen dilynol:

 

Cefnogi cynnwys Opsiwn Un gan ychwanegu’r amodau dilynol:

 

·         Bod Dolen Casnewydd yn ymrwymiad cadarn.

·         Na fyddai Blaenau Gwent yn cario’r baich ar gyfer y trefniant ar ei ben ei hun a bod trafodaethau’n agor ar unwaith gyda Chasnewydd a Chaerffili.

·         Sicrwydd manwl pellach ac amcanestyniadau yn dangos y byddai incwm o’r trenau ychwanegol yn ddigon am ad-daliadau benthyciad Blaenau Gwent yn cael ei gynhyrchu i Aelodau eu harchwilio a bod Aelodau’n cael mwy o amser, gydag adroddiadau, i graffu’r prosiect.

·         Dadansoddiad manwl i roi sicrwydd am yr ad-daliadau MRP a amlygir yn yr adroddiad.

 

Eiliwyd y cynnig amgen hwn.

 

Felly gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

O blaid y cynnig amgen – Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, P. Edwards, L. Elias, K. Hayden, H. McCarthy, J. Millard, M. Moore, J. C. Morgan, K. Pritchard, T. Sharrem, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, B. Willis, L. Winnett.

 

Yn erbyn y cynnig amgen – Cynghorwyr J. Collins, M. Cook, N. Daniels, D. Davies, G. A. Davies, G. L. Davies, M. Day, D. Hancock, M. Holland, S. Healy, J. Hill, J. Holt, J. Mason, C. Meredith, J. P. Morgan, L. Parsons, G. Paulsen, K. Rowson, B. Summers, G. Thomas, J. Wilkins.

 

Ymatal – Cynghorydd W. Hodgins

 

Ni chariwyd y bleidlais ar y cynnig amgen.

 

Gan na chafodd unrhyw fwriad ei leisio gan unrhyw Aelod oedd yn bresennol i wrthwynebu Opsiwn 1, roedd y llwybr gweithredu a gynigiwyd i beidio symud ymlaen i bleidlais unigol wedi’i chofnodi ar yr opsiwn a ffafrir yn dderbyniol.

 

Felly PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, bod yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) yn cael ei dderbyn a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

(i)            derbyn y cynnig o’r cyllid a nodir yn yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Prif Swyddog Adnoddau i negodi ar ran y Cyngor a gweithredu fel llofnodydd i’r cytundeb cyllid.

(ii)          bod y Cyngor yn ymgysylltu gyda phartïon perthnasol i ddatblygu trefniant Cydfenter i’w gytuno mewn cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol.

(iii)         bod y Cyngor yn cytuno i’r dangosyddion darbodus a ddiwygiwyd yng nghyswllt terfynau dyled allanol yr Awdurdod h.y. Terfyn Awdurdodedig a Ffin Weithredol (Atodiad 1).