Agenda item

Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2021/2022

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd T. Smith y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Datganodd y Cynghorydd P. Edwards fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei thrafod.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg yn fanwl am yr adroddiad sy’n cynnig y ffioedd a chostau i’w gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, yn cynnwys y ffioedd a thaliadau creiddiol a weithredir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Nodwyd fod rhaglen Pontio’r Bwlch yn cynnwys adolygiad busnes strategol ar ffioedd a thaliadau i sicrhau fod y Cyngor yn uchafu ei incwm drwy sicrhau fod ffioedd a thaliadau yn cael eu gosod ar lefel sy’n talu am gostau darparu’r nwyddau a gwasanaethau y mae’n eu darparu lle’n briodol.

 

Cafodd pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar y ffioedd a chostau a gasglwyd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol oherwydd e.e. cau gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i liniaru colled incwm ar gyfer 2020/2021 a rhagwelid y byddai’r cyllid yn parhau i 2021/2022 wrth i’r Cyngor barhau i ymateb i’r pandemig.

                                                                                  

Aeth y Rheolwr Gwasanaeth ymlaen drwy amlinellu’r ffioedd a chostau y byddai cynnydd o 2% arnynt fel yr amlinellir ym mharagraff 5.1.2 ynghyd â rhestr o’r gwasanaethau lle na chynigir cynnydd ffioedd.

 

Roedd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin wedi cyflwyno rhestr o ffioedd a thaliadau a gynigir ar gyfer 2021/2022 ar gyfer gwasanaethau creiddiol, i’w chymeradwyo gan y Cyngor yn unol â’r cytundeb Cyllid a Rheoli. Mae’r cynnydd a gynigir yn amrywio o ddim cynnydd ffioedd i 3.2%.

 

Nodwyd fod ffioedd a thaliadau yn cynhyrchu tua £14.8m y flwyddyn mewn incwm ac yn cyfrannu tuag at gyllido cost darparu gwasanaethau’r Cyngor.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur, yng ngoleuni’r bleidlais a gymerwyd i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 3.3% ar gyfer 2021/22 ac er mwyn rhoi peth cymorth i breswylwyr, gofynnodd os byddai’n bosibl gostwng rhai o’r cynnydd o 2% mewn ffioedd a chostau.

 

Dechreuodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud fod nifer o’r cynnydd a 2% o gynigid eisoes wedi eu dileu (roedd hyn yn cynnwys mynwentydd, pryd ar glud, marchnadoedd a gwastraff masnach) a byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth ofalus am yr effaith y byddai dileu unrhyw gynnydd pellach yn ei gael ar gyllidebau rhai adrannau, tebyg i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Er y credai y cafodd dileu’r ymgodiadau ei ostwng cyn belled ag oedd yn bosibl, cynhelir trafodaethau pellach gyda deiliaid cyllideb perthnasol ac fel canlyniad i’r trafodaethau hyn roedd angen adolygu unrhyw rai o’r ffioedd a chostau, byddid yn cyflwyno adroddiad pellach i gyfarfod o’r Cyngor eu hystyried yn y dyfodol.

 

Ar ran masnachwyr y fwrdeistref mynegodd Aelod ei werthfawrogiad na chynigiwyd unrhyw gynnydd ar gyfer marchnadoedd a gwasanaethau gwastraff masnach, a dywedodd fod hyn yn ymagwedd synhwyrol.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r gofrestr o Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2021/2022 ynghyd â’r cynnydd prisiau creiddiol yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Dogfennau ategol: