Agenda item

Dalen Weithredu – 23 Tachwedd 2020

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020, yn cynnwys:

 

Eitem 8 Monitro’r Gyllideb Gyfalaf 2020/21

Chwarter 1 – Dyraniad Cyllid Splash Pad/Offer Chwarae

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, esboniodd Aelod yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod blaenorol y dywedwyd y cafodd y penderfyniad i ailddyrannu cyllid y splash pad ei gymryd gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol dan bwerau dirprwyedig mewn ymgynghoriad gydag Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod iddo ofyn am yr wybodaeth ar y gwariant ar feysydd chwarae plant yn cynnwys materion a godwyd yng nghyswllt y cyllid splash pad, a’r ffaith y teimlai rhai Aelodau fod diffyg tryloywder yn y camau a gymerwyd ers i’r splash pad gael ei glustnodi i ddechrau ar gyfer Parc Bryn Bach.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at y dadansoddiad cyllid a roddwyd (atodir gyda’r Ddalen Weithredu) a mynegodd bryder am degwch cyllido ar draws y Fwrdeistref gan fod y rhan fwyaf o’r prosiectau yn y cwm dwyreiniol.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd y gwariant o £185k ym Mharc Bryn Bach ei gyllido drwy gynllun Parciau Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru ac y cafodd ei gynnwys gyda’r nodyn gwybodaeth i roi’r cyfanswm gwariant a buddsoddiad mewn ardaloedd chwarae ar draws y Fwrdeistref.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd y cafodd cyllid ar gyfer chwarae teg ei wasgaru’n deg ar draws y Fwrdeistref.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr holl wybodaeth yn y nodyn gwybodaeth a atodir i’r Ddalen Weithredu, a chadarnhaodd y cafodd cyllid ei ddyrannu yn unol â’r blaenoriaethau a ddynodwyd yn y strategaeth a gytunodd y Cyngor ar ardaloedd chwarae.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y rhestr o brosiectau a dywedodd y cafodd y gwaith ei wneud ym Mharc Dyffryn ac nid y Parc Canolog fel y dywedwyd. Mynegodd bryder hefyd nad oedd aelodau lleol wedi cael eu diweddaru ar y gwaith ac na ofynnwyd iddynt am eu mewnbwn.

 

Yn nhermau’r camau gweithredu a gymerwyd yng nghyswllt y splash pad, dywedodd Aelod mai ei atgof oedd bod yr Ymddiriedolaeth Hamdden wedi dweud nad oeddent mewn sefyllfa i gyflawni’r prosiect oherwydd y costau rhedeg cyfredol fyddai eu hangen. Dywedodd y cafodd yr Aelodau eu hysbysu am hyn ynghyd ag esboniad pam y bwriedir symud y prosiect i safle Gardd yr ?yl h.y. er mwyn gwario’r cyllid yn hytrach na’i ddychwelyd i Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb, dywedodd Aelod na fedrai dderbyn y ffaith fod y Cyngor wedi cyflwyno cais am gyllid ar gyfer parc splash heb wybod y byddai angen gwaith ychwanegol. Dywedodd fod hyn yn siom fawr i breswylwyr Tredegar a theimlai y gallai’r holl sefyllfa fod wedi cael ei thrin mewn ffordd fwy democrataidd.

Monitro’r Gyllideb Refeniw – Chwarter 2 2020/21 (Ymddiriedolaeth Hamdden)

 

Cyfeiriodd Aelod at y wariant ar lyfrau yn 2019/20, cyfanswm o £51,681, a dywedodd er bod hynny’n swm sylweddol o arian, roedd tua £82k wedi ei neilltuo ar gyfer y gronfa lyfrau. Gofynnodd lle gwariwyd gweddill yr arian neu os daeth yn ôl i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau, er bod yr arian wedi ei neilltuo ar gyfer llyfrau, iddo gael ei dalu fel rhan o ffi rheoli’r Cyngor i’r Ymddiriedolaeth Hamdden ac iddo gael ei gadw gan yr Ymddiriedolaeth Hamdden ar gyfer gwariant yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Craffu y caiff adroddiad WPLS 2019/20 ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar 9 Mawrth 2021. Gwahoddwyd yr Ymddiriedolaeth Hamdden i’r cyfarfod a byddai Aelodau yn cael cyfle i godi’r mater mater yn y cyfarfod hwnnw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn seiliedig ar ffurflen WPLS a bod bwlch yn dal i fod yn y gwariant ar lyfrau o gymharu â’r gronfa lyfrau. Fodd bynnag, roedd ymrwymiad yn y dyfodol ar gyfer cynyddu gwariant ar lyfrau o tua 20% o wariant ychwanegol i dalu am y bwlch cyllid a ddynodwyd. Cadarnhaodd y byddai Aelodau yn cael cyfle i drafod hyn gyda’r Ymddiriedolaeth Hamdden yn y cyfarfod Craffu ar 9 Mawrth.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan gadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, ar ôl i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ystyried yr adroddiad WPLS, y deuir â nodyn gwybodaeth yn ôl i’r Cyd-bwyllgor Craffu yn amlinellu’r gwariant ar y gronfa lyfrau a chynigion ar gyfer y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu..

 

Dogfennau ategol: