Agenda item

Cyllideb Refeniw 2021/2022

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Cofnodion:

CYLLIDEB REFENIW 2021/2022

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg manwl o’r adroddiad a gyflwynwyd i roi diweddariad ar setliad darpariaethol cadarnhaol llywodraeth leol ar gyfer 2021/22 a’i effaith ar gyllideb y Cyngor. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gyllideb refeniw fanwl a gynigir ar gyfer 2021/22 a’r lefel a gynigir ar gyfer cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad ac amlinellu’r sefyllfa genedlaethol, sefyllfa Blaenau Gwent, y pwysau cost a’r eitemau twf ynghyd â rhaglen Pontio’r Bwlch. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at y pwysau cost a ragwelwyd gyda Covid-19 a dywedodd fod tybiaeth y byddai’r pwysau cost hyn yn parhau i gael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir y cadarnheir cyllid Covid fel rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau ymhellach at yr ymgynghoriad ar y gyllideb sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a dywedodd y bu 170 ymateb hyd yma a gytunodd mai Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Amgylchedd ddylai fod yn ffocws y gyllideb ym Mlaenau Gwent. Cytunodd mwyafrif yr ymatebwyr gyda’r incwm a gynigir mewn cyllidebau ysgol, fodd bynnag mae pryder am y cynnydd a gynigir o 4% yn y Dreth Gyngor. Mae cyfnod yr ymgynghoriad yn dal ar agor a rhoddir adborth i’r Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.

 

Soniodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a gafodd ei ystyried yn faith gan y Cydbwyllgor Craffu a chytunwyd ar y rhan fwyaf o’r argymhellion. Fodd bynnag, cynigiodd y Cyd-bwyllgor Craffu y dylai’r Cyngor ystyried lefel is o gynnydd yn y Dreth Gyngor a’r effaith gysylltiedig ar gyllideb y Cyngor.

 

Dymunai’r Arweinydd ddiolch i’r Tîm Adnoddau a deiliaid cyllideb ar ran y Pwyllgor Gweithredol an y gwaith enfawr a wnaed ar y gyllideb. Mae’n rhoi’r Awdurdod mewn sefyllfa o gefnogi nodau, uchelgeisiau a dyheadau a fyddai’n trosi i gymunedau ym Mlaenau Gwent. Teimlai’r Awdurdod nad oedd gosod y gyllideb yn dasg rwydd ac y byddid yn gwneud y gyllideb hon a chyllidebau’r dyfodol mewn ffordd wahanol i’r hyn a ragwelid yn draddodiadol, fodd bynnag yn y dyfodol mae’r ffordd hon yn effeithlon wrth osod cyllideb y Cyngor.

 

Mae’r ffordd y caiff y chyllideb ei gosod yn awr yn galluogi meddwl ymlaen llaw ar yr hyn y gallai’r Awdurdod ei wynebu a sut y byddai’r Awdurdod yn ateb yr heriau hynny. Mae’r gyllideb hon yn arddangosiad da o’r gwaith hwnnw ac yn dangos yr angen i’r swyddogion sy’n gyfrifol am wahanol feysydd cynlluniau Blaenau Gwent na ddylid bychanu pwyslais y gwaith hwn yn mynd ymlaen i 2022/23 a thu hwnt.

 

Roedd yr Arweinydd wedi gobeithio y gallai’r Awdurdod ddod allan o’r pandemig yn edrych ar rannau newydd prosiect Pontio’r Bwlch sy’n rhoi trefniadau eraill a fyddai’n cynorthwyo’r Awdurdod ar sut y caiff cyllidebau eu llunio yn y dyfodol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch i weld lefel yr adborth cyhoeddus a’r blaenoriaethau a nodwyd yw blaenoriaethau’r weinyddiaeth hon. Mae’r pandemig wedi rhoi’r Awdurdod gam yn ôl o ran ymgynghoriad. Mewn amgylchiadau arferol, byddai’r Pwyllgor Gweithredol a’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol wedi mynd allan i gymunedau i ymgynghori wyneb yn wyneb mewn canol trefi, archfarchnadoedd a chanolfannau cymunedol. Nododd yr Arweinydd iddo golli’r cyfleoedd hyn gan ei fod wedi galluogi’r Cyngor i roi rhesymau am y ffordd yr oedd angen gwneud rhai pethau, fodd bynnag roedd yn gobeithio y gellid gwneud hyn cyn diwedd y flwyddyn.

 

Yng nghyswllt y cynnydd arfaethedig o 4% yn y Dreth Gyngor, dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn farciwr a nodwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol gan na fedrid cyflawni’r ffigur blaenorol a bod angen i’r Awdurdod bob amser fynd yn uwch na’r targed blaenorol. Mae’r targed hwn yn rhoi llinell sylfaen i osod cyllideb gytbwys ac roedd wedi ei gytuno gan y Cyngor. Roedd yr Arweinydd yn deall yn llawn rai o’r safbwyntiau a godwyd yn y Cydbwyllgor Craffu a chytunodd y dylai cynnydd y Dreth Gyngor fod yn is na’r 4% a gynigir. Nodwyd y byddai’r cynnydd arfaethedig yn cael ei drafod yn y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef

 

a)    bod y Pwyllgor Gweithredol yn argymell cyllideb refeniw 2021/2022 i’r Cyngor fel y manylir yn yr adroddiad;

 

b)    bod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi sylwadau ar y deilliannau o fewn y setliad RSG darpariaethol ac yn nodi’r potensial am newid pellach yn y setliad RSG terfynol;

 

c)    bod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi sylwadau ar y deilliannau o fewn setliad RSG darpariaethol CBSBG a’i effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol;

 

d)    bod y Pwyllgor Gweithredol yn ystyried ac yn argymell i’r Cyngor y pwysau cost a’r eitemau twf (cyfanswm o £2.074m) a ddynodwyd yn Atodiad 3 i’w gynnwys yng nghyllideb y Cyngor;

 

e)    bod y Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried ac yn argymell i’r Cyngor ymchwydd o £1.472m sy’n gyfartal a chynnydd o 3.3% i Gronfa Ysgolion Unigol. Mae hyn yn adlewyrchu ymchwydd crynswth o 3.6% (sy’n ymgorffori grant cyflog athrawon yn trosglwyddo i’r setliad o £84,000) wedi’i addasu ar gyfer gostyngiad o £150,000 mewn demograffeg;

 

f)     bod y Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried ac yn argymell i’r Cyngor y dylai unrhyw beth a gyflawnir yng nghynigion Pontio’r Bwlch sy’n uwch na’r gofyniad cyllideb yn y flwyddyn gael ei drosglwyddo i gronfa a glustnodwyd i gefnogi cynllunio ariannol tymor canol, yn benodol ar gyfer blynyddoedd diweddaraf y Strategaeth Ariannol Tymor Canol; a

 

g)    bod y Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried sylwadau gan y Cydbwyllgor Craffu ac yn argymell y dylai cynnydd Treth Gyngor islaw’r 4% arfaethedig ar gyfer 2021/11 gael ei drafod a’i gymeradwyo yn y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ategol: