Agenda item

Cyllideb Refeniw 2021/22

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar setliad darpariaethol llywodraeth leol ar gyfer 2021/22 ac effaith hynny ar gyllideb y Cyngor. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig y gyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2021/22 ac yn cynnig lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Mae’r Setliad Darpariaethol yn cynnwys manylion y cyllid refeniw y gallai Awdurdodau Cymru ddisgwyl eu derbyn yn 2021/22 er mwyn caniatáu iddynt osod eu cyllidebau a phenderfynu ar lefelau’r Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn honno. Mae hefyd yn rhoi manylion y cyllid cyfalaf y gallai Awdurdodau ddisgwyl ei dderbyn y gyllido eu rhaglenni cyfalaf. Ni chafodd ffigurau dangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 a thu hwnt eu darparu ar y cam hwn. Caiff y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ei gynnwys yn Atodiad 1.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y setliad darpariaethol cadarnhaol, ynghyd â’r cyfleoedd a ddynodir yn rhaglen Pontio’r Bwlch, yn golygu y gall y Cyngor fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, osgoi toriadau i wasanaethau a gwella ei gadernid ariannol.

 

Dywedodd y Swyddog, ac eithrio’r GIG a’r rhai ar y cyflogau isaf, bod penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i oedi cynnydd cyflog yn y sector cyhoeddus yn golygu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllid ychwanegol i ddarparu ar gyfer y dyfarniadau cyflog i’r sector cyhoeddus yn ehangach. Fel canlyniad, byddai felly angen i unrhyw effaith ariannol yn deillio o’r cynnydd mewn cyflogau gael ei ddarparu o fewn y setliad cyllid cyffredinol.

 

Yna aeth y Prif Swyddog drwy’r adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo. Y prif gynnydd ar gyfer CBSBG ar ôl caniatáu ar gyfer y trosglwyddo oedd 3.6% (£4.2m), o gymharu gyda chynnydd Cymru gyfan o 3.8%. Mae’r setliad cadarnhaol ynghyd â’r cyfleoedd a ddynodir yn rhaglen Pontio’r Bwlch yn golygu, yn amodol ar gytuno argymhellion yr adroddiad, y gallai’r Cyngor gytuno ar gyllideb ar gyfer 2021/2022.

 

Dywedodd Aelod na fedrai gynyddu’r cynnydd o 4% a gynigir yn y Dreth Gyngor a dywedodd yn ystod y cyfnod o lymder pan oedd y Cyngor yn wynebu toriadau o £12m a phwysau cost o £32m, bod y weinyddiaeth flaenorol wedi llwyddo i gadw cynnydd y Dreth Gyngor ar 2.6%, 3.6% a 3.4%. Dywedodd y cafodd pandemig Covid effaith drychinebus ar y gymuned gyda llawer o breswylwyr ar gyfnod ffyrlo, colledion swyddi a’r ffaith na fyddai llaewr o fusnesau byth yn medru cael adferiad. Ar sail setliad mor gadarnhaol, dywedodd na fedrai gefnogi cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor.

 

Cytunodd Aelod arall fod cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor yn annerbyniol. Dywedodd y bu cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau lles anifeiliaid yn ystod y pandemig Covid a gofynnodd faint fyddai’r gost i’r Cyngor i ddod â’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol, gan fod y trefniant presennol yn annigonol.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd Aelod mai hwn oedd yr unig gyfle a gafodd Aelodau i graffu ar y gyllideb a chodi problemau. Yn flaenorol, byddai Aelodau wedi gweld y ‘rhestr hir’ oedd yn fuddiol i Aelodau yn ystod y broses o osod y gyllideb ac awgrymodd y dylid adfer hynny ar gyfer blynyddoedd y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai costau dod â’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol yn dibynnu ar lefel y gwasanaeth pe byddai’r Cyngor yn gwneud y penderfyniad hwnnw.

 

Cytunodd nifer o Aelodau fod anifeiliaid strae yn broblem ar draws y Fwrdeistref, ac y dylai unrhyw arian dros ben gael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau ychwanegol er budd preswylwyr.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cydweithio blaenorol a ddaeth i ben y llynedd gyda CBS Torfaen ar gyfer gwasanaethau diogelu’r cyhoedd a safonau masnach, a gofynnodd pa arbedion a sicrhawyd o ddod â’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol, o ran unrhyw gydnabyddiaeth ariannol a delir y staff.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y dynodwyd pwysau cost pan ddaeth y trefniant cydweithio i ben y llynedd ac y bwriedid cynnal adolygiad o’r gwasanaeth er mwyn dynodi arbedion i fynd i’r afael â’r pwysau cost. Yn anffodus, oherwydd y pandemig, cafodd y gwaith hwnnw ei oedi ac er bod gwaith yn awr wedi dechrau ar yr ailstrwythuro, ni chafodd dim ei gynnwys yn y gyllideb bresennol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ar gostau cyfleustod Cwmcrachen ar Atodiad 3, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod hyn yn cyfeirio at gostau trydan yn y safle. Dywedodd y byddai Aelodau yn cofio y tynnwyd sylw at hyn yn flaenorol fel gorwariant sylweddol ac y cynhaliodd yr Adran ymchwiliadau yn y safle. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y cafodd mesuryddion unigol yn awr eu gosod ond mae cryn dipyn o ddefnydd trydan yn y safle na fedrir ei adennill gan y tenantiaid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am y posibilrwydd o golli incwm rhent yn y Swyddfeydd Cyffredinol, dywedodd y Swyddog fod hyn mae’n debyg yn seiliedig ar y cynnig i symud yr hyb democrataidd i’r Swyddfeydd Cyffredinol o’r Ganolfan Ddinesig. Os yw ystafelloedd yn y Swyddfeydd Cyffredinol yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd Cyngor, byddai cyfnodau pan na fyddai’r ystafelloedd hynny ar gael i’r cyhoedd eu rhentu. Dywedodd y byddai peth arbedion fel canlyniad o beidio gweithredu’r Ganolfan Ddinesig, ond ei bod yn debyg y byddai costau ychwanegol wrth i’r Cyngor symud tuag at drefniadau gweithio newydd hyblyg. Rhoddir adroddiad ar y trefniadau gweithredu a gweithio newydd, yn cynnwys costau ac arbedion posibl, i’r Cyngor ym mis Mawrth 2021.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod y strategaeth fasnachol y cytunodd y Cyngor arni yn cynnwys agweddau allweddol o’r gwaith yn nhermau edrych ar incwm a gweithgaredd masnachol newydd posibl, yn ogystal â’r Cyngor yn bod yn ddarbodus yn y ffordd yr ydym yn gwario a rheoli ein contractau.

 

Cyfeiriodd Aelod wedyn at y pwysau cost o £133k o fewn y portffolio unedau diwydiannol a gofynnodd am ddiweddariad ar yr adolygiad o’r unedau diwydiannol.

 

Cyfeiriodd hefyd at y strategaeth twf a nodir yn Atodiad 4 a dywedodd y credai fod y ffigur o adeiladu 500+ o dai newydd dros y 5 mlynedd nesaf yn llawer rhy uchelgeisiol. Dywedodd fod datblygiadau tai newydd hefyd yn arwain at gynnydd yn y boblogaeth ysgolion, a gofynnodd os oedd y rhoddwyd ystyriaeth i’r gwariant ychwanegol sydd ei angen ar gyfer cynyddu darpariaeth chwarae ysgolion a meysydd chwarae ac yn y blaen, yn neilltuol pan oedd yr Cytundeb Adran 106 wedi ei dynnu o ddatblygiad yn y Coridor Gogleddol.

 

Yng nghyswllt y portffolio unedau diwydiannol, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd yr amcangyfrif gwreiddiol ar gyfer 2021/22 ei ddiwygio i lawr i sero oherwydd effaith y pandemig Covid ar fusnesau yn yr ardal. Fodd bynnag, cadarnhaodd fod y portffolio yn parhau i gael ei adolygu’n gyson.

 

Yn nhermau’r strategaeth twf, cytunodd y Swyddog fod y ffigur yn darged uchelgeisiol ond mae angen i’r Cyngor fod yn uchelgeisiol. Roedd nifer y tai wedi cynyddu gan dros 200 rhwng 2019/20 a 2020/21 ac mae hefyd nifer o ddatblygiadau tai sylweddol yn mynd rhagddynt ym Mlaenau Gwent. Deallai fod y farchnad tai o fewn y Fwrdeistref yn brysur ac y byddai’n parhau felly, ond caiff ei adolygu ar gyfer blynyddoedd y dyfodol. Yng nghyswllt sylwadau’r Aelod am gynnydd yn y boblogaeth ysgolion a chostau cysylltiedig, dywedodd y Swyddog fod lleoedd gwag yn y rhan fwyaf o’n hysgolion felly ni ragwelid cynnydd sylweddol mewn costau yng nghyswllt cynnydd yn nifer preswylwyr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu’r Cyngor yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid drwy gytundebau Adran 106 yn ddiweddar ac y cyflwynir adroddiad ar Gytundebau Adran 106 maes o law i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu. Dywedodd y gobeithir y byddai datblygiadau newydd yn golygu cynnydd yn y boblogaeth disgyblion ac mae elfen o leoedd gwag o fwy o 10% a fyddai’n parhau i gael ei fonitro.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am wariant trydydd parti, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y Cyngor ar draws pob cyllideb, refeniw, a chyfalaf yn gwario tua £80m ar daliadau i gyflenwyr am nwyddau a gwasanaethau neu daliadau e.e. Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor.

 

Dilynodd trafodaeth faith am y cynnydd a gynigid yn y Dreth Gyngor.

 

Yn dilyn cais gan Aelod, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai cynnydd o 1% ar lefel bresennol y Dreth Gyngor yn gyfwerth â tua £370k. Dywedodd fod yr adroddiad yn dynodi y byddai’r gwarged ar gyfer 2021/22 ychydig dros £1.3m pe cytunid ar gynnydd o 4%. Fodd bynnag, byddai’r gwarged yn is os cytunir ar gynnydd is yn y Dreth Gyngor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn cynnig cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor fel rhan o’r tybiaethau o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a gytunwyd gan Aelodau. Pe byddai Aelodau yn penderfynu ar lefel is o gynnydd Treth Gyngor ar gyfer 2021/22, er y byddai hynny’n annhebyg o effeithio ar lefelau cyllid ar gyfer 2021/22, dywedodd y byddai’n cynyddu’r bylchau cyllid ar gyfer blynyddoedd y dyfodol ac o bosibl effeithio ar ddarpariaeth gwasanaeth.

 

Mewn ymateb dywedodd Aelod arall y credai y byddai penderfyniadau’r Cyngor yn adlewyrchu ar fylchau cyllid yn y dyfodol. Dywedodd na fedrai gefnogi cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor ar adeg pan oedd preswylwyr yn dioddef effaith y pandemig Covid.

 

Wedyn cynigiodd yr Aelod ddiwygio argymhelliad 3.1.7 yr adroddiad fel sy’n dilyn:

 

‘Mae Aelodau’n argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y dylai’r cynnydd o 4% a gynigir yn y Dreth Gyngor gael ei ostwng yn sylweddol i dan 2%’.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

O blaid y diwygiad - Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, P. Edwards, L. Elias, K. Hayden, H. McCarthy, J. Millard, J. C. Morgan, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, B. Willis, L. Winnett.

 

Yn erbyn y diwygiad – Cynghorwyr S. Healy, M. Cook, G. A. Davies, G.L. Davies, M. Day, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, C. Meredith, M. Moore, L. Parsons, G. Paulsen, K. Rowson, B. Summers.

                                                                                         

Roedd gan y Cadeirydd bleidlais fwrw a ni chariwyd y diwygiad.

 

Cynigiodd Aelod arall ddiwygiad amgen i argymhelliad 3.17 fel sy’n dilyn:-

 

‘Bod Aelodau yn argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y dylid ailystyried y cynnydd o 4% a gynigir yn y Dreth Gyngor ynghyd â’r canlyniadau.’

 

Eiliwyd y diwygiad amgen a gynigiwyd.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

O blaid y diwygiad amgen – Cynghorwyr S. Healy, M. Cook, G. A. Davies, G.L. Davies, M. Day, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, C. Meredith, M. Moore, L. Parsons, G. Paulsen, K. Rowson, B. Summers.

 

Yn erbyn y diwygiad amgen – Cynghorwyr P. Baldwin, D. Bevan, M. Cross, P. Edwards, L. Elias, K. Hayden, H. McCarthy, J. Millard, J. C. Morgan, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, B. Willis, L. Winnett.

 

Roedd gan y Cadeirydd bleidlais fwrw a chafodd y diwygiad amgen ei gario.

 

Felly,

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chytuno ar Opsiwn 1 (yr Opsiwn a ffafrir), sef:-

 

      i.        Bod Aelodau yn argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y dylid derbyn cyllideb refeniw 2021/2022 fel y’i dangosir yn nhabl 2 ym mharagraff 5.1.14.

 

    ii.        Bod Aelodau’n nodi’r deilliannau o fewn setliad darpariaethol cyffredinol y Grant Cynnal Ardrethi a’r potensial ar gyfer newid pellach yn setliad terfynol y Grant Cynnal Ardrethi (paragraffau 2.7 – 2.18).

 

   iii.        Bod Aelodau’n nodi’r deiliannau o fewn setliad darpariaethol y Grant Cymorth Refeniw ar gyfer CBSBG a’i effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (paragraffau 2.19 – 2.25).

 

   iv.        Bod Aelodau’n argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y pwysau cost a’r eitemau twf (cyfanswm o £2.074m) a ddynodwyd yn Atodiad 3 (paragraffau 5.1.7 – 5.1.10) i’w gynnwys yng nghyllideb y Cyngor.

 

    v.        Bod Aelodau’n argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor ymgodiad o £1.472m sy’n gyfwerth â chynnydd net o 3.3% i’r Gyllideb Ysgolion Unigol. Mae hyn yn ymgodiad crynswth o 3.6% (sy’n cynnwys grant cyflogau Athrawon yn trosglwyddo i’r setliad o £84,000) a addaswyd ar gyfer gostyngiad o £150,000 mewn demograffeg (paragraffau 5.1.11 i 5.1.13).

 

    vi.            Bod Aelodau yn argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor bod unrhyw gyflawniad yn dilyn cyngion Pontio’r Bwlch sy’n fwy na’r gofyniad cyllideb yn y flwyddyn yn cael ei drosglwyddo i gronfa wedi ei chlustnodi i gefnogi cynllunio ariannol tymor canol, yn benodol ar gyfer blynyddoedd diweddarach Strategaeth Ariannol Tymor Canol (paragraff 5.1.21).

 

  vii.            Argymhellodd yr Aelodau i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor fod y cynnydd o dreth gyngor o 4% yn cael ei ailystyried ynghyd â’r canlyniadau.

 

Dogfennau ategol: