Agenda item

Parodrwydd ar gyfer y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant a gyflwynwyd i roi diweddariad i’r Pwyllgor Craffu ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru (2018) a chynnydd y Gyfarwyddiaeth Addysg i baratoi am hynny.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y pwysau cost y cyfeirir ato yn yr adroddiad yng nghyswllt dyletswyddau statudol, fodd bynnag oherwydd ymdopi ag anawsterau rhedeg dwy system a’r capasiti ychwanegol sydd ei angen o fewn y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol, byddai’r pwysau cost yn nes at £100,000.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y tîm am yr holl waith caled a’r cydweithio a fu.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad a gofynnodd am ddiweddariad gyda dadansoddiad o blant â datganiad, plant ADY, plant dyslecsig ac yn y blaen. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant y gallai roi dadansoddiad o ddisgyblion sydd yn Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy sydd â datganiad a’u hanghenion sylfaenol ac yn cynnwys manylion am y sylfaen adnoddau er gwybodaeth Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Yng nghyswllt y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n dod i rym ym mis Medi, soniodd Aelod am y gwaith rhagorol a wnaed a llongyfarch y Rheolwr Gwasanaeth a’r tîm am arwain ar y mater hwn.

 

Gofynnodd Aelod i waith rhagorol y swyddog a’r tîm ar arwain y darn hwn o waith gael ei gydnabod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am drosglwyddo traws-ffin i ysgolion Cynradd ac Uwchradd a’r oedi gyda gwaith papur trosglwyddo ac os y byddai’r Ddeddf newydd yn helpu neu lesteirio hyn, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant y teimlai’n gadarnhaol y byddai’r newidiadau o fudd sylweddol yn y maes hwnnw. Bu problemau gyda’r system bresennol, oedi gyda gwaith papur trosglwyddo ac yn y blaen a’r pump awdurdod yn dehongli’r meini prawf ar gamau gwahanol mewn ffyrdd hollol wahanol. Mae’r system newydd yn llai biwrocrataidd a byddai cyflwyno Cynllun Datblygu Unigol yn cymryd lle datganiadau. Un cynllun fyddai felly p’un ai oes lefel isel o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion cymhleth sylweddol, yr un cynllun fyddai. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo yng nghyswllt cysondeb ar draws pob un o’r pump awdurdod lleol megis y math o lythyrau a anfonir at rieni ac yn y blaen. Gydag un cynllun yn ei le, ni fyddai mwyach ddehongliadau lluosog o’r gwahanol gamau a byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r gwaith papur a dderbynnir yng nghyswllt deall anghenion disgyblion wrth drosglwyddo o un awdurdod lleol i un arall. Teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth fod fframwaith Llywodraeth Cymru yn rhoi sylfaen dda i fynd i’r afael â’r problemau yn y system bresennol.

 

Cyfeiriodd Aelod at broblemau capasiti a holodd pa fuddsoddiad y byddai’rr Gyfarwyddiaeth neu’r Cyngor yn ei wneud i oresgyn y problemau capasiti hyn i gyflawni argymhellion Estyn ar gyfer gwella. Gyda mater mor bwysig, teimlai fod angen sicrhau fod y capasiti priodol ar gael i gyflawni holl ofynion y Ddeddf. Atebodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo strwythur newydd ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg a’i fod yn cydnabod yr angen am gapasiti yn nhermau gwella ysgolion a chynhwysiant. Fel rhan o broses gosod y gyllideb, gofynnwyd am eitem twf o £100,000 ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf a bydd hyn yn awr yn ffurfio rhan o’r trafodaethau am osod cyllideb y flwyddyn nesaf a chaiff ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth, ac os cytunir ar hynny bydd yn cyllido swydd statudol ychwanegol yn gysylltiedig â diwygio ADY. Mae’r mater yn flaenoriaeth a gwnaed cais hefyd i gefnogi’r capasiti ychwanegol sydd ei angen drwy’r cynnig twf.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar baragraff 2.9 yr adroddiad yng nghyswllt Cynlluniau Datblygu Unigol. Os oedd Cynllun Datblygu Unigol yn ei le, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant y byddai’r ysgol yn penderfynu os oedd yn gysurus i drin y disgybl gyda’r cyllid i gefnogi anghenion y disgybl. Gall fod trothwy sy’n dal i fod angen i Lywodraeth Cymru ei ddiffinio ac wedyn ei ddangos mewn ymarfer rhanbarthol a lleol i benderfynu ar ba bwynt y byddai cymhlethdod yr angen yn ddigon i’r awdurdod lleol wedyn gymryd cyfrifoldeb am y Cynllun hwnnw. Ar hyn o bryd awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am bob disgybl â datganiad a’r datganiad, fodd bynnag mae awdurdodau lleol yn dirprwyo’r cyfrifoldeb hwnnw i ysgolion yn nhermau trin yr adolygiad blynyddol a’r ddarpariaeth ac yn y blaen. Byddai’r system newydd yn dal i roi cyfle i ysgolion, os oes gan ddisgybl anghenion cymhleth sylweddol, i ofyn i’r disgybl gael Cynllun Datblygu Unigol gan yr awdurdod lleol. Mae’n dal i fod rhai problemau o amgylch y trothwy rhwng Cynllun Datblygu Unigol ysgol a Chynllun Datblygu Lleol awdurdod lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, unwaith y byddai’r Cod Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi ei gwblhau, ei fod yn awyddus i roi cyfle i Aelodau gael esboniad mwy manwl a thrafodaeth am rai o’r meysydd allweddol tebyg i: beth yw ymarfer sy’n canoli ar y person, beth yw Cynllun Datblygu Unigol, beth yw trosiant Anghenion Dysgu Unigol ôl-16 ac yn y blaen, rywbryd yn y dyfodol.

 

Cododd Aelod bryderon am yr ôl-groniad o ddisgyblion yn disgwyl i gael datganiad a holodd os byddai hyn yn effeithio ar yr adroddiad yn y dyfodol a chael ei weithredu ym mis Medi. Atebodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant fod angen i awdurdodau lleol gynnal asesiad statudol o fewn 26 wythnos. Mae ôl-groniad gan mai’r elfennau allweddol i asesiad statudol oedd: Seicolegydd Addysgol yn cynnal asesiad o anghenion disgybl, byddai angen gwneud hyn yn yr ysgol ac Iechyd yn paratoi adroddiad meddygol ar y disgybl sy’n golygu fod angen iddynt fynychu cyfarfod; ac oherwydd y cyfnod clo ni fu’n bosibl cyflawni a chwblhau asesiadau statudol. Fodd bynnag, o hyn ymlaen disgwyliad Llywodraeth Cymru oedd y byddai mwyafrif y Cynlluniau Datblygu Lleol yn seiliedig yn yr ysgol ac na fyddent angen mewnbwn yr awdurdod lleol. Byddai’n dal i fod yn ddogfen statudol gyda hawl cyfreithiol i apelio mewn tribiwnlys. Mae’r system newydd yn llai biwrocrataidd heb amserlenni maith. Os oes ysgol yn teimlo fod gan ddisgybl anghenion dysgu ychwanegol ac angen darpariaeth dysgu ychwanegol, maent mewn sefyllfa i sefydlu Cynllun Datblygu Unigol. Caiff y rhan fwyaf o’r Cynlluniau eu trin gan ysgolion heb fod angen mewnbwn gan awdurdodau lleol; byddai hyn yn cyflymu’r broses a lle teimlai ysgolion y dylai’r awdurdod lleol fabwysiadu’r Cynllun hwnnw, byddai hynny’n golygu cymryd perchnogaeth o’r Cynllun presennol. Mae’r Tîm yn mynd i’r afael â’r ôl-groniad cyn gynted ag y gallant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y risgiau o golli dyddiad mis Medi, teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth mai Covid-19 yw’r unig risg, nid oedd ganddo unrhyw bryderon am fod yn barod mewn pryd gan fod yr elfennau allweddol sylfaenol yn eu lle. Fodd bynnag, teimlai fel gyda phob system newydd, y gall fod rhai problemau cychwynnol ac y gall fod angen mireinio a gwella rhai elfennau o fis Medi ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi cynghori Cyfarwyddwyr Addysg ledled Cymru y bwriedir cynnal trafodaeth ar ddiwygio ADY yn y sesiwn ddiwethaf cyn i’r Senedd dorri lan. Gan fod sefyllfa argyfwng ar hyn o bryd, gallai fod ystyriaethau cenedlaethol yn ymwneud â Covid-19 a allai gael blaenoriaeth ac felly gallai fod oedi posibl yn sgyrsiau terfynol Llywodraeth Cymru a chymeradwyo diwygio ADY.

 

Cyfeiriodd Aelod at faterion capasiti a dywedodd bod hynny’n un o argymhellion Estyn ar gyfer gwella a chynigiodd y dylai papur ar strwythur newydd y gwasanaeth ADY a sut y caiff ei ariannu gael ei baratoi a’i gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn, sef:

 

·         Bod Aelodau yn cytuno y bydd Blaenau Gwent yn barod am ADY ym mis Medi 2021 pan ddaw’r Ddeddf ADY i rym a bod paratoadau addas ar y gweill; a

·         Bod papur yn cael ei baratoi ar strwythur newydd y gwasanaeth ADY, i gynnwys manylion cyllid, a’i gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: