Agenda item

Prydau Cymunedol

Ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi gwybodaeth ar y symud o’r gwasanaeth Prydau Cymunedol a’r cynnydd a wnaed ers symud o’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod am eglurdeb ar union nifer y gyrwyr a’r faniau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod dau yrrwr yn mynd mas yr un pryd mewn un fan ac yn ddilynol cafodd y swydd cyfnod sefydlog ei gostwng a chaniatawyd i dri gyrrwr orffen. Drwy adleoli, defnyddiwyd gyrrwr ychwanegol i gefnogi’r gwasanaeth o hyn ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod, gyda chynnydd galw sylweddol o 36% ar gyfer y gwasanaeth, a oedd capasiti yn y gwasanaeth i fynd ag ef ymlaen i ble mae’r Gyfarwyddiaeth angen iddo fod i wrthbwyso unrhyw bwysau cyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r weledigaeth yw datblygu model i wneud iddo weithio o fewn yr gwasanaeth Opsiynau Cymunedol, lle byddai pobl gydag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl yn mynd mas gyda’r gyrwyr a dysgu sgiliau newydd yn nhermau dosbarthu’r prydau. Er mwyn parhau i ddatblygu’r model a’r gwasanaeth mae angen deall cost sylfaenol darparu’r gwasanaeth i edrych ar gyflogi staff ychwanegol os yw’r galw am y gwasanaeth yn cynyddu ymhellach. Cyflwynir adroddiad cyllideb llawn i’r Pwyllgor Craffu pan ddaw’r wybodaeth ar gael.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am brydau twym a phrydau wedi rhewi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth yn darparu prydau twym a hefyd brydau wedi’u rhewi, yn aml brydau twym yn ystod yr wythnos a phrydau wedi rhewi ar benwythnosau. Efallai y gellid cyflwyno gwasanaeth ychwanegol tebyg i frechdanau yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod os cysylltwyd ag ysbytai i hyrwyddo’r gwasanaeth i gleifion sy’n cael eu rhyddhau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth yn cael ei ailfrandio a’i farchnata ar hyn o bryd, fodd bynnag mae’r pandemig wedi arafu’r broses hon ond mae gweithwyr cymdeithasol yn hyrwyddo darpariaeth gwasanaeth mewnol. Pan gaiff cleifion eu rhyddhau o ysbyty maent yn cael cynnig prydau cymunedol yn hytrach na chael prydau o’r sector preifat.

 

Teimlai Aelod fod ailfrandio yn syniad da i’w wneud yn fwy masnachol a gallai annog y bobl hynny a allai fforddio talu i ddefnyddio’r gwasanaeth a chodi refeniw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen bod yn gystadleuol gyda’r sector preifat ond mai ar hyn o bryd y ffocws yw dynodi’r costau llawn i redeg y gwasanaeth ac edrych ar gyfleoedd i ddatblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol a bod yn llawer mwy masnachol o’r farchnad i fod yn llwyddiannus.

 

Yng nghyswllt monitro cadarn ar y gyllideb, holodd Aelod os yr ymchwiliwyd defnydd cerbydau trydan gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y cynhaliwyd trafodaethau ac y byddent yn cael eu hymchwilio ymhellach pan mae cyfle yn codi i newid y cerbydau, ond byddai hyn yn dibynnu ar gostau gan fod y gwasanaeth mewn diffyg.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda gweld cynnydd yn y gwasanaeth a chyfeiriodd at gapasiti i ddosbarthu prydau ar amser rhesymol ac ar lefel uwch i gael cyllideb gytbwys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, unwaith fod cyllideb gytbwys, y gallent wedyn edrych i gynyddu ymhellach y nifer o brydau a gaiff eu dosbarthu ac efallai gyflogi staff ychwanegol a chynyddu nifer y cerbydau dosbarthu fel y gallai prydau gael eu dosbarthu ar amser rhesymol. Y nod yn gyntaf yw cael cyllideb gytbwys ac yna geisio cynyddu’r galw am y prydau eto i gael gwarged. Gyda phosibilrwydd y byddai nifer y prydau yn gostwng ar ôl Covid, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y gwasanaeth ar hyn o bryd yn ymdopi gyda’r staff a’r llwyth gwaith presennol. Byddid yn monitro gostyngiadau gymharol a’u cynllunio i’r gyllideb i barhau i redeg y gwasanaeth ac os yn bosibl i ehangu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at safleoedd cartref gofal o amgylch y fwrdeistref a gofynnodd os y gellid cysylltu gyda phreswylwyr y safleoedd i annog grwpiau o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth gan y medrid dosbarthu nifer o brydau i un lleoliad canolog. Gellid hefyd ystyried disgownt ar nifer y prydau a archebir. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod opsiynau tebyg i wasanaeth brechdanau y gall pobl fod ei eisiau yn ychwanegol at y pryd a dderbyniant yn cael eu hystyried ar gyfer datblygu’r gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am weithredu’r gwasanaeth fel busnes ynddo’i hun, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y rhoddwyd ystyriaeth i symud y gwasanaeth i fodel cwmni cymdeithasol rywbryd yn y dyfodol ond mae’r gwasanaeth mewn rhedeg fel diffyg ar hyn o bryd ac felly gallai fod yn flwyddyn neu ddwy cyn y byddai’r gwasanaeth mewn sefyllfa gysurus i fynd lawr y llwybr hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at y rhagolwg llif arian a holodd am y ffigur costau canolog. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn anodd dod yn sefydliad masnachol gyda’r costau canolog hyn sy’n cynnwys gwasanaethau cyfreithiol, cyfrifeg, ariannol a gwasanaethau datblygu sefydliadol. Gallai symud at fath gwahanol o fodel tebyg i’r model cymdeithasol neu gael corff trydydd sector i’w redeg fel busnes roi’r cyfle i ostwng y costau canolog hyn yn neilltuol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau’n craffu yr adroddiad ac yn gwerthuso’r argymhellion ar gyfer blaengynllunio hirdymor ar y gwasanaeth (adran 6.4).

 

Dogfennau ategol: