Agenda item

Adroddiad Cynnydd – Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu a Chynllun Cyllid Ad-daladwy Canol Trefi

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol gyda’r Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu (TRI) a Chynllun Cyllid Ad-daladwy Canol Trefi , ac yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Adfywio ar 5 Mawrth 2020. Sefydlwyd y rhaglen TRI yn 2018 a bwriedid iddi’n wreiddiol fod yn rhaglen tair blynedd (2018-2021). Am gyfnod tair blynedd gyntaf rhaglen TRI roedd cyllideb gyfalaf o £100 miliwn ar gael yng Nghymru, gyda dyraniadau cyllid yn dibynnu ar ansawdd y prosiectau, arwyddocâd rhanbarthol a chymeradwyaeth y Panel Cenedlaethol. Ni fyddai cyllid TRI yn cael ei ddyrannu’n gyfartal yn awtomatig ar gyfer pob un o ddyraniad y deg awdurdod lleol. Roedd y dyraniad ar gyfer rhanbarth De Ddwyrain Cymru yn £44 miliwn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm fod yr adroddiad a gyflwynwyd ar 5 Mawrth 2020 yn dweud y bu cynnig am £5 miliwn o gyllid cyfalaf gan Dasglu’r Cymoedd i ymestyn Prosiect Thematig TRI Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ardaloedd Tasglu’r Cymoedd yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dywedwyd ers hynny na fyddai’r cyllid hwn ar gael mwyach gan Dasglu’r Cymoedd ond y byddai cwmpas i gynnwys prosiectau a gyflwynwyd ar gyfer y cyllid hwn o fewn rhaglen thematig bresennol TRI.

 

Aeth y Swyddog wedyn drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod 91 Datganiad Diddordeb wedi dod i law fel ar 7 Rhagfyr 2020 ac aethpwyd ymlaen â 4 cais i’r cam cyflenwi ar gyfanswm cost o £44,731. Yn nhermau nifer isel yr ymholiadau a aeth ymlaen i gael eu cyflenwi, roedd nifer o resymau am hyn sef:

 

·         Ni fedrir defnyddio’r cyllid i dalu am waith oedd eisoes wedi ei gwblhau cyn i’r grant fod ar gael neu i gymeradwyaeth cyllid fod yn ei le

·         Dim ond ar gyfer busnesau yn un o’r canol trefi (Glynebwy, Tredegar, Brynmawr, Abertyleri a Blaenau) y gellid defnyddio’r cyllid; a

·         Dim ond ar gyfer mesurau allanol i gefnogi adferiad busnes (seddi awyr agored, canopïau) y gellir defnyddio’r cyllid.

 

Dywedodd y Swyddog hefyd y sicrhawyd cyllid i ddatblygu cynllun Creu Lle ar gyfer Tredegar. Fodd bynnag, bydd caffaeliad ar hyn ym mis Rhagfyr gyda’r comisiwn yn dechrau ym mis Ionawr 2021. Caiff y cynllun ei gyflawni’n defnyddio’r un dull â Chynllun Chreu Lle Glynebwy.

 

Gofynnodd Aelod os oedd ad-daliadau benthyciadau’n cael eu derbyn yn gyson a pha gamau y gellid eu cymryd os oedd taliadau’n cael eu colli.

 

Dywedodd y Swyddog, os oedd yr ymgeisydd wedi dewis taliad misol drwy ddebyd uniongyrchol ac y collid taliad, y byddent yn cysylltu â nhw ar unwaith a rhoi cyfle iddynt dalu. Fodd bynnag, os yw taliadau’n parhau i gael eu colli byddai ein gweithdrefnau arferol ar gyfer casglu dyledion yn dechrau. Esboniodd y Swyddog hefyd mai un o amodau’r cytundeb benthyciad dechreuol oedd pridiant cyfreithiol ar yr eiddo i’w hatal rhag gwerthu heb ganiatâd/cytundeb yr Awdurdod a byddai hyn yn ein galluogi i fynd drwy’r sianeli cyfreithiol priodol i adhawlio’r cyllid. Dywedodd y Swyddog fod hon yn broses hirfaith ond yn ffodus ni fu ei hangen hyd yma.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn falch gyda’r adroddiad a dywedodd pan ddyfarnwyd cyllid o fewn Canol Tref Tredegar y sefydlwyd gr?p ymgynghori yn cynnwys masnachwyr, Aelodau ward, Cyngor y Dref ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo. Dywedodd y bu’r dull hwn yn llwyddiannus iawn a bod perthynas waith ardderchog o fewn canol y dref a byddai’n hapus i drafod hyn gyda Swyddogion.

 

Dywedodd y Swyddog y gwyddai am y gwaith rhagorol a gafodd ei wneud a dywedodd y gallai fod yn fanteisiol i’r Aelod fynychu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Tredegar i drafod y dull gweithredu a gymerwyd yn Nhredegar.

 

Gofynnodd Aelod arall os byddai’n bosibl cael rhestr o brosiectau a dderbyniodd arian, ac atebodd y Swyddog y byddai’n cylchredeg yr wybodaeth yma i Aelodau.

 

Wedyn cyfeiriodd Aelod at adran 2.3 yr adroddiad sy’n amlinellu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer adeiladau masnachol a gwelliannau preswyl yng nghanol trefi, a mynegodd bryder y gall hyn arwain at golli safleoedd masnachol.

 

Esboniodd y Swyddog, er fod y rhain yn ddau grant ar wahân, fod rhai cynlluniau fydd â gwelliannau masnachol ar y llawr daear, ynghyd â gwelliannau preswyl ar y lloriau uchaf. Fodd bynnag, caiff cadw’r llawr daear ar gyfer dibenion masnachol ei annog gymaint ag sy’n bosibl, yn arbennig yng nghanol trefi.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod darpariaeth tai o fewn canol trefi yn dod o fewn ein cynlluniau datblygu sy’n amlinellu’r gofynion yn nhermau sicrhau tai digonol i annog nifer y bobl yng nghanol y trefi, ond hefyd yn rhoi digon o ofod masnachol i barhau’n ganol tref. Caiff pob cais ei ystyried ar ei haeddiant; fodd bynnag mae’n debyg y byddai’n cael ei wrthod pe derbynnid cais am drawsnewid safle masnachol yng nghanol y dref.

 

Cyfeiriodd Aelod wedyn at adran 2.23 yr adroddiad a gofynnodd sut y byddai Parc Eugene Cross yn dod o fewn y cynllun gan ei fod yn destun Trosglwyddiad Ased Gymunedol.

 

Dywedodd y Swyddog na fyddai’n gwanhau’r Trosglwyddiad Ased Gymunedol ond y byddai’n edrych ar y darlun cyffredinol yn nhermau’r nifer o bobl yng nghanol y dref ac yn creu gwell cysylltiadau o Barc Eugene Cross i ganol y dref i annog pobl i fynychu pan fyddant yn ymweld â gemau ac yn y blaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cynlluniau creu lle a gynigiwyd ar gyfer Glynebwy a Thredegar a mynegodd bryder y cafodd ymgynghorwyr eu penodi dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu gwahanol gynlluniau nad oedd erioed wedi dod i ffrwyth.

 

Esboniodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod angen llawer o waith er mwyn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau’r dyfodol a bod angen cael ymgynghorwyr i sicrhau’r prosiectau hyn gan eu bod yn rhoi arbenigedd ac adnodd ychwanegol i’r Tîm Adfywio. Dywedodd fod y Tîm yn gyfyngedig ac mae’r ffaith fod adfywio yn dal i fynd rhagddo o fewn Blaenau Gwent gydag adeiladau’n dod yn ôl i ddefnydd yn yr hinsawdd bresennol yn dystiolaeth o’u gwaith rhagorol.

 

Yng nghyswllt sylw’r Aelod, esboniodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio fod y cynllun gweithredu yn nodi’r prosiectau allweddol a sut y cânt eu cyflawni, a chadarnhaodd y byddai Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd y prosiectau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y safleoedd strategol allweddol a fanylir yn adran 2.23 yr adroddiad a gofynnodd beth oedd y bwriad ar gyfer gorsaf reilffordd Glynebwy. Hefyd yn nhermau mynediad o safle’r Gweithfeydd i ganol y dref, dywedodd fod angen gwella rheolaeth y rheilffordd halio ac y dylai fod yn gweithio ar benwythnosau.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr ystyrir datblygiad pellach ar Orsaf Reilffordd Glynebwy fel rhan o’r cynllun o ran ei gwneud yn ganolbwynt ar gyfer yr ardal, a hefyd wella cysylltiadau i gerddwyr o safle’r Gweithfeydd i ganol y dref. Yng nghyswllt y rheilffordd halio yn gweithredu ar benwythnosau, dywedodd y Swyddog fod y gyllideb yn gyfyngedig ond os gellid ysgogi mwy o alw drwy wella cysylltiadau a datblygiadau yn y dyfodol ar safle’r Gweithfeydd, yna y gellid ystyried oriau agor hirach yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Dogfennau ategol: