Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu yn fanwl am yr adroddiad, oedd â’r diben o geisio cymeradwyaeth am Gytundeb Cyflenwi Diwygiedig ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ynghyd ag Asesiad Covid-19.

 

Mae Adran 2 yr adroddiad yn nodi’r rheswm pam y bu angen diwygio’r Cytundeb Cyflenwi a chynnal Asesiad Covid-19. Nodwyd, er fod y gwaith o baratoi’r Cynllun hwn 3 mis ar ôl yr amserlen (roedd hyn o fewn y llithriad 3-mis y caniateir amdano gan y Cytundeb Cyflenwi), mae cynnydd da yn cael ei wneud. Mae’r Tîm Cynlluniau Datblygu yn paratoi i fynd allan ar gyfer ymgynghoriad ar yr 2il Alwad am Safleoedd Ymgeisiol a gwybodaeth bellach ar safleoedd presennol, pan darodd pandemig Covid-19.

 

Yn gynnar ym mis Mawrth, cafodd y Cyngor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru yn cynghori rhag symud ymlaen gyda’r cynllun gan fod hyn yn debygol o fod yn groes i’r gofynion cyfreithiol a nodir yng Nghytundeb Cyflenwi Cynllun Ymgyfraniad Cymunedau ac felly ni aeth yr 2il Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ymlaen a chafodd y cynllun ei oedi. Derbyniwyd llythyr pellach gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf yn cynghori symud ymlaen ond i wneud hynny roedd angen i’r Cyngor gyflwyno Cytundeb Cyflenwi diwygiedig i drin Covid-19, ymbellhau cymdeithasol a’r oedi ynghyd ag asesiad Covid-19.

 

Cafodd cwmpas yr adroddiad ei amlinellu ym mharagraff 2.12 a nodwyd y byddai angen hefyd cyflwyno’r ddwy ddogfen sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo cyn i’r gwaith ar y cynllun symud ymlaen.

 

Nodwyd y byddai’r amserlen Cytundeb Cyflenwi fel canlyniad i’r cyfnod clo yn cael ei ohirio gan 7 mis gyda 2 wythnos arall wedi eu hychwanegu ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynllun adnau a fyddai’n golygu’r cynllun yn awr yn cael ei fabwysiadu yn hydref 2022 yn hytrach nag ym mis Mawrth 2022 – y dyddiad diweddaraf oll ar gyfer y cynllun presennol byddai diwedd 2021, felly byddai’r Cyngor heb Gynllun Datblygu Lleol am gyfnod o 10 mis.

 

Rhoddir manylion dulliau i oresgyn problemau pellter cymdeithasol ym mharagraff 2.15 yr adroddiad ac mae mesurau o’r fath yn cynnwys cyfnodau ymgynghori hirach ac apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw.

 

Cafodd manylion dogfen asesiad Covid-19 eu hamlygu o fewn paragraffau 2.16-2.20 ac mae’r ddogfen yn rhoi trosolwg o asesiad y sylfaen tystiolaeth a daeth i’r casgliad fod y sylfaen tystiolaeth yn gyffredinol naill ai mor dda ag y gallai fod oherwydd diffyg data tueddiadau newydd neu gallai gael ei ddiweddaru a byddai’n cael ei ddefnyddio i lywio’r Cynllun Adnau. Mae strategaeth ac amcan y cynllun yn gydnaws gyda nodau Llywodraeth Cymru a amlinellir o fewn dogfen Adeiladu Lleoedd Gwell.

 

Nodwyd fod y polisïau strategol yn ddigon hyblyg i ddelio gyda’r hyn oedd yn gyfnod anhysbys a rhoi fframwaith monitro yn eu lle i adlewyrchu ansicrwydd cysylltiedig, byddai’r Cynllun yn ddigon cadarn tra’n gosod gweledigaeth glir a neilltuol o’r hyn roedd ei angen o fewn Blaenau Gwent. Daeth y Rheolwr Tîm i ben drwy gadarnhau fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi cefnogi Opsiwn 1.

 

Wedyn cafodd aelodau gyfle i godi cwestiynau/sylwadau yng nghyswllt y Cytundeb Cyflenwi Lleol diwygiedig.

 

Gofynnodd Aelod am gofnodi ei werthfawrogiad i’r Rheolwr Tîm a’i thîm ar gyfer y gwaith rhagorol a wnaed ar y Cynllun Datblygu Lleol dros y flwyddyn ddiwethaf a hyd yma. Cymeradwyodd Arweinydd y Cyngor y sylwadau a wnaed.

 

Dywedodd Aelododd Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y cafodd llawer iawn o waith ei wneud cyn a thrwy gydol pandemig Covid-19 ac mae’r tîm wedi gwneud gwaith gwych. Mae’r sefyllfa’n newid bob dydd ac mae’n rhaid i’r cynllun fod yn hyblyg ar gyfer y misoedd i ddod ac maent yn cynnwys newidiadau tebyg i’r effaith ar yr economi a newidiadau mewn trafnidiaeth – nodwyd fod llawer o elfennau a fedrai effeithio ar y cynllun.

 

Fodd bynnag, roedd dau brif faes o bwysigrwydd h.y. o bosibl y 10 mis y gallai’r Cyngor fod heb Gynllun Datblygu Gwaith a byddid yn cynnal gwaith gyda swyddogion a chynghorau eraill i liniaru hyn mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru. Yn ychwanegol, yng nghyswllt y costau uwch oherwydd Covid-19, gall fod gyfle am ad-daliad. Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy ddweud y byddai Aelodau’n cael eu diweddaru ac yn derbyn hysbysiadau cynnydd yn rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Cynllun Cyflenwi Diwygiedig ac Adroddiad Asesu Covid-19.

 

 

Dogfennau ategol: