Agenda item

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiynau dilynol gan y Cynghorydd H. Trollope ac atebwyd gan Arweinydd y Cyngor.

 

Cwestiwn:

 

Dechreuodd y Cynghorydd Trollope drwy ddweud nad oedd hwn yn gwestiwn ‘gwleidyddol’. Roedd yn ei ofyn oherwydd y sefyllfa y bu ynddi yn ddiweddar o golli cyfaill da iawn a hefyd oherwydd fod y pandemig wedi effeithio ar bawb ym Mlaenau Gwent.

 

“Gan fod Blaenau Gwent, ysywaeth, wedi cael nifer mor uchel o achosion o Covid-19, mae consyrn ymhlith rhai o’r cyhoedd am sylwadau y Cynghorydd Mark Holland ar y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnwyd y cwestiwn pam, ar ôl i’r Cyng Holland adael y Gr?p Annibynnol ar ei ddewis ei hun, i chi ofyn i’r Cynghorydd Holland ailystyried a dychwelyd i’r Gr?p Annibynnol. Roedd adroddiadau am hyn yn y wasg leol.

 

A fedrwch esbonio, gyda synnwyr trannoeth, os y credwch y dylai eich arweinyddiaeth fod wedi mod yn fwy rhagweithiol wrth ei ddiarddel; a ph’un ai a ydych yn ystyried fod y Cynghorydd Holland wedi torri’r cod ymddygiad?’

 

Ymateb:

 

Dechreuodd yr Arweinydd drwy ddweud ei fod yn ymwybodol o amgylchiadau personol anffodus y Cynghorydd Trollope ac nad oedd yn ystyried hyn yn gwestiwn gwleidyddol. Aeth ymlaen drwy ddweud ei fod wedi ystyried y mater hwn yn ofalus iawn a phan ddaeth i’w sylw gyntaf ei ymateb uniongyrchol oedd cael sgwrs gyda’r Swyddog Monitro a hefyd y Rheolwr Gyfarwyddwr am sylwadau’r Cynghorydd Holland yn neilltuol yng nghyswllt unrhyw wrthdaro posibl yn nhermau’r cod ymddygiad. Pe byddai’r sgyrsiau hynny wedi gadael unrhyw amheuaeth fawr yn ei feddwl,  byddai ei ddull gweithredu a’i benderfyniadau wedi bod yn wahanol iawn fel y dangosodd yn glir yn y gorffennol ac yn arbennig yn 2017.

Yng ngoleuni’r sgyrsiau hynny yr ysgrifennodd at y Cynghorydd Holland a gofyn iddo ystyried a byddai o bosib wedi gobeithio cael sgwrs gydag ef ar sail un i un. I roi’r gair ‘ystyried’ yn ei gyd-destun – roedd gofyn i unigolyn ystyried yn ffurf o gysondeb roedd wedi tueddu i’w ddefnyddio mewn materion megis hyn fel y gallai cydweithwyr eraill oedd wedi sôn am adael y Gr?p Annibynnol gadarnhau. Byddai bob amser yn parchu dewis unigolyn oherwydd nad oedd unrhyw gontract neu oblygiadau ysgrifenedig ar gynghorwyr annibynnol, ond beth bynnag yr amgylchiadau byddai bob amser yn gwerthfawrogi sgwrs gydag unrhyw unigolyn oherwydd mai dyna ei arddull.

 

Fodd bynnag yn yr achos hwn a sylwadau dilynol Cynghorydd Holland a’r rhesymau clir iawn a roddodd yn ysgrifenedig i’r Arweinydd am adael, roedd sefyllfa wedi ei chreu lle na fedrai ac mae’n debyg na fyddai eisiau cael ei ail-dderbyn i’r Gr?p Annibynnol.

 

Yng nghysywllt y sylwadau am synnwyr trannoeth a bod yn rhagweithiol yn ei weithredoedd, gan ystyried cynnwys ei ymateb hyd yma gyda’i arddull arweinyddiaeth, dywedodd yr Arweinydd iddo drin y sefyllfa fel yr ystyriai’n addas bryd hynny ac yn dal ei ystyried yn addas. Yng nghyswllt unrhyw dorri ar y safon ymddygiad, mater i’r Pwyllgor Safonau yw hynny ac yn fwy sylweddol yr Ombwdsmon sydd yn y pen draw yn penderfynu ar unrhyw doriad. I gloi, dywedodd yr Arweinydd ei fod ar hyn o bryd yn fodlon gyda’r llwybr gweithredu a ddilynodd.

 

Cwestiwn Atodol:

 

Cyfeiriwyd at bortffolio’r Arweinydd fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gofynnwyd iddo beth oedd cydweithwyr yng Nghaerdydd yn feddwl am Flaenau Gwent ac a yw enw da’r Cyngor mewn perygl wrth i’r Arweinydd arwain ar y portffolio neilltuol yma?

 

Ymateb:

 

Dechreuodd yr Arweinydd drwy egluro nad oedd ei bortffolio fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymwneud â 5G, roedd yn rhannu cyfrifoldeb portffolio arall gydag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr. Dywedodd nad oedd y mater wedi ei drafod ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd na Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (tra’n dymuno peidio bod yn amharchus tuag at drallod y Cynghorydd a’i deulu am yr hyn yr oeddent wedi bod drwyddo’n ddiweddar), dywedodd fod cydweithwyr yn fwy pryderus am ganolbwyntio a chanolbwyntio adnoddau i drin yr argyfwng presennol.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud nad oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu ag ef gydag unrhyw feirniadaeth nac yn gresynu at y Cynghorydd Holland nac wedi gofyn unrhyw gwestiynau pam ei fod wedi ysgrifennu at y Cyngor a gofyn iddo ddod yn ôl i’r Gr?p – nid oedd neb wedi sôn am y mater. Ar hyn o bryd, mae pawb yn ceisio canolbwyntio ar yr hyn sy’n rhaid ei wneud ac yn gweithio tuag at frechlyn.