Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 15fed Ebrill, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd G. Thomas

Cynghorydd D. Wilkshire

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiad buddiant dilynol:-

Cynghorydd J. Hill

Eitem 4 – Adroddiad Cynllunio - C/2020/0301

Uned 19, Stad Ddiwydiannol Rasa, Rasa, Glynebwy

Codi 1 Tyrbin Gwynt a

Seilwaith Cysylltiedig.

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-

 

C/2020/0301

Uned 19, Stad Ddiwydiannol Rasa, Rasa, Glynebwy

Codi 1 Tyrbin Gwynt a

Seilwaith Cysylltiedig

 

Gan ddefnyddio cymhorthion gweledol, rhoddodd Arweinydd y Tîm Rheoli Datblygu drosolwg o’r ardal lle codid y tyrbin gwynt.

 

Dywedodd y Swyddog wrth Aelodau y rhoddwyd caniatâd i gais yn 2019 i godi un tyrbin gwynt yn Uned 18, fodd bynnag erbyn hyn nid yw yn cael ei adeiladu gan y rhoddwyd caniatâd ar gyfer codi cyfarpar cyddwysydd cydamserol ar yr un safle ac mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. Felly mae’r datblygwr yn awr yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer un tyrbin gwynt yn Uned 19, Stad Ddiwydiannol Rasa.

 

Mae’r safle yng nghanol Stad Ddiwydiannol Rasa. Mae cefn gwlad agored i’r gogledd/gogledd orllewin sy’n ffurfio clustog rhwng yr ardal drefol a ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae ardal breswyl Rasa tu hwnt i’r dwyrain, de-ddwyrain a de-orllewin ar bellter o tua 400m. Caiff lefel isaf y stad ei gwahanu gan yr A465 a ailgyfluniwyd yn ddiweddar a gwregys o goed. Mae Garnlydan tua 1km i ffwrdd i ddwyrain y Stad Ddiwydiannol, sydd o uchder tebyg i’r tyrbin a gynigir.

 

Dywedodd y Swyddog fod eisoes ddau dyrbin gwynt, un 74m o uchder tua 550 metr i ffwrdd yn y de-orllewin a’r llall yn 77m mewn uchder tua 650m i ffwrdd i’r gogledd-ddwyrain a chaiff y rhain eu dangos ar y cymhorthion gweledol a gyflwynwyd. Cadarnhaodd y Datganiad Cynllunio y cynhelid dau neu fwy o ymweliadau cynnal a chadw rheolaidd bob blwyddyn ar y tyrbin. Mae’r meintiau a gynigir yr un fath â’r rhai a gymeradwywyd yn flaenorol yn Uned 18. Mae’r cynnig yn cynnwys adeilad bach i gynnwys newidydd, offer switsio cysylltiedig ac offer gwarchod trydanol a bydd yn agos at waelod t?r y tyrbin ac wedi’i gysylltu gyda’r man cysylltu grid drwy gebl dan-ddaear. Byddai’r tyrbin a gynigir yn cyflenwi p?er yn uniongyrchol i safle gweithgynhyrchu cyfagos Yuassa Battery (UK) Cyf. Ychwanegodd y Swyddog na roddwyd unrhyw fanylion yng nghyswllt yr adeilad bach gyda’r cais hwn, fodd bynnag byddai angen rhoi’r gweddlun/dyluniad i’r Adran Cynllunio cyn datblygu.

 

Amlinellodd y Swyddog yr ymatebion i’r ymgynghoriad mewnol ac allanol fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedwyd y cafodd y cwestiwn technegol a godwyd ei drin gan yr Asiant a bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cyflwyno gwrthwynebiad yng nghyswllt yr effaith gronnus ar nodweddion arbennig ardal y Parc Cenedlaethol. Nodwyd hefyd y derbyniwyd un gwrthwynebiad gan aelod o’r cyhoedd yng nghyswllt s?n.

 

Rhoddwyd trosolwg manwl o’r Asesiad Cynllunio a nododd y Swyddog y prif bwyntiau allweddol yng nghyswllt y dilynol:

 

·         Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynhyrchu ynni adnewyddadwy

·         Polisi 18 – Ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer ynni gwynt

·         Polisi 17 – Ynni adnewyddadwy a charbon isel a seilwaith cysylltiedig

·         Egwyddor os yw’r datblygiad ar safle cyflogaeth sylfaenol

·         Effaith ar y tirlun ac effaith gweledol

·         Effaith gweledol lleol uniongyrchol

·         S?n a dirgryniad

·         Fflachiad cysgod

·         Traffig a thrafnidiaeth

·         Effaith ar ddefnyddwyr yng nghyffiniau’r tyrbin ac iechyd a diogelwch  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Maes y Dderwen, Stryd Charles , Tredegar pdf icon PDF 391 KB

YYstyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a SStadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau at ohebiaeth hwyr a gafwyd yn gysylltiedig â’r cais a rhoddodd grynodeb o’r wybodaeth a dderbyniwyd ers ysgrifennu’r adroddiad. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth yr ymateb i’r ohebiaeth a dywedodd ar ôl gweld y fideo fod  gyrrwr y lori wedi cydymffurfio gyda Rheolau’r Ffordd Fawr. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd e-bost a anfonodd Shaws at holl Aelodau’r Pwyllgor a bod copi o’r ohebiaeth gan Asbri ynghlwm â’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod cyfarfod Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror wedi ystyried adroddiad ar gyfer datblygu safle preswyl newydd yn Maes y Dderwen. Byddai’r datblygiad yn rhoi uned byw â chymorth newydd 5 ystafell wely a dywedwyd mai argymhelliad y swyddog oedd rhoi caniatâd cynllunio gydag amodau. Roedd hyn yn seiliedig ar y ffaith fod y cynnig ar gyfer defnydd preswyl mewn ardal breswyl gan bennaf, nad oedd unrhyw faterion sylweddol a godwyd gan ymgyngoreion na fedrid eu trin drwy amod cynllunio ac y byddai’r cyfleuster yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwallu anghenion gr?p cleientiaid neilltuol. Fodd bynnag, yn dilyn ystyriaeth a thrafodaeth faith, penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio wrthod caniatâd cynllunio.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol i gael eu hystyried wrth benderfynu’r rhesymau dros wrthod. Atgoffwyd Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio fod y Cyngor wedi wynebu costau mewn cyfnodau diweddar am wrthod caniatâd cynllunio pan na fedrodd y Pwyllgor Cynllunio amddiffyn y penderfyniad a wnaed. Mae’r costau sylweddol hyn ar gyfer apeliadau wedi cynyddu ac nid oes cyllideb ar gyfer y gwariant ychwanegol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodau at y rhesymau dros wrthod a’u gwahodd i’w cymeradwyo, ychwanegu/diwygio neu ddileu’r rhesymau dros wrthod fel sy’n berthnasol.

 

Amlinellwyd y rhesymau dros wrthod a godwyd yn y cyfarfod diwethaf yn ogystal â sylwadau’r swyddog fel sy’n dilyn:-

 

Rheswm 1 dros Wrthod

Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi consyrn sylweddol ar y briffordd gan y byddai’n cynhyrchu galw ychwanegol am ofodau parcio heb ddigon o gapasiti o fewn y safle a’r ardal o amgylch. Byddai hyn yn arwain at barcio ar y stryd yn gysylltiedig gyda’r datblygiad er afles i ddiogelwch priffordd.

 

Sylwadau’r Swyddog

Mae materion priffordd yn ystyriaeth cynllunio sylweddol. Fodd bynnag, yn yr achos hwn mae’r Awdurdod Priffordd wedi cadarnhau pe codid 3 gofod newydd cyn defnyddio’r adeilad na fyddai ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun. Mae’r datblygiad yn cydymffurfio gyda’n canllawiau parcio.

 

Felly nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu na fedrid darparu ar gyfer agweddau cynhyrchu ceir y cynnig o fewn y safle.

 

Rheswm 2 dros Wrthod

Nid yw’r safle yn addas ar gyfer cartref ar gyfer cleientiaid bregus gydag anghenion cymorth gan fod y safle yn agos at d? tafarn.

 

Sylwadau’r Swyddog

Gofynnwyd am dystiolaeth i esbonio pam fod y trefniant hwn o ddefnyddiau yn annerbyniol. Dylai Aelodau gofio fod rheoleiddwyr eraill yn gyfrifol am reoli’r safle.

 

Rheswm 3 dros Wrthod

Byddai’r datblygiad arfaethedig yn arwain at or-ddatblygiad o’r safle.

 

Sylwadau’r Swyddog

Mae’r Rheolwr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Ebrill 2021 pdf icon PDF 403 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Diweddariad Apêl Cynllunio: 51 Tynewydd Nantybwch Tredegar Cyf: C/2020/0202 pdf icon PDF 397 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2020/0202 fel y’i amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

8.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 19 Chwefror 2021 a 19 Mawrth 2021 pdf icon PDF 332 KB

Ystyried adroddiad Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

9.

Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 24 Chwefror 2021 i 26 Mawrth 2021

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at unigolyn penodol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.