Lleoliad: Dros Microsoft Teams (os ydych yn bwriadu gweld y cyfarfod hwn cysylltwch รข michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Cyswllt: Michelle Hicks
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Peter Farley, GAVO. a’r Cynghorydd D.H. Williams, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Cael unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent Ystyried penderfyniadau Pwyllgor Craffu BGC Gwent a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024.
Hysbyswyd fod ymddiheuriadau’r Cynghorydd T. Smith wedi cael eu hepgor o’r penderfyniadau.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gofnodi’r penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Y Dechrau Gorau mewn Bywyd: Diweddariad ar Gynnydd y BGC Ystyried adroddiad Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd a Meddyg Ymgynghorol yn Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Tîm Iechyd y Cyhoedd Gwent.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac fe drafododd y diweddariad ar gynnydd mewn perthynas â Maes Ffocws Y Dechrau Gorau mewn Bywyd a’r Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd ar gyfer Y Dechrau Gorau mewn Bywyd. Fe wnaeth y Pwyllgor gymeradwyo’r camau nesaf arfaethedig ar gyfer y Gr?p Rheoli Rhanbarthol ar gyfer Y Dechrau Gorau mewn Bywyd hefyd.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Strategaeth, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Strategaeth, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac
i Fe nododd gynnwys yr adroddiad hwn; ii Fe adolygodd y cylch gorchwyl a ddarparwyd; ac iii Fe ddarparodd sylwadau perthnasol i’r BGC eu hystyried.
|
|
Blaenraglen Waith 2024/25 Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Partneriaethau Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweinydd Proffesiynol – Partneriaethau Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
CYTUNODD y Pwyllgor ar yr adroddiad ac fe gymeradwyodd Flaenraglen Waith Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent 2024/2025.
|