Lleoliad: via Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live via Microsoft Teams please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Cyswllt: E-bost: deb.jones@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: |
|
Ymddiheuriadau Cael unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth Gyfarwyddwr Corfforaethol Interim y Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Cael unrhyw ddatganiadau o fuddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Cyllideb Refeniw 2025/2026 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol a’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifyddiaeth.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac argymell Opsiwn 1 wrth y Cyngor fel a ganlyn:-
· Y tybiaethau a ddefnyddiwyd i ddatblygu Amcangyfrifon Drafft 2025/2026 (paragraffau 5.1.4 i 5.1.10).
· Y pwysau o ran costau a nodwyd ym mharagraffau 5.1.11 i 5.1.17 ac a ddangoswyd yn nhabl 2 yn 5.1.8 mewn perthynas â’r canlynol:- - y Cyngor - £2.3m - Ysgolion - £2.4m - Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin - £0.4m
· Bod y grantiau sy’n trosglwyddo i mewn i’r Setliad ar gyfer 2025/2026 yn cael eu pasbortio i’r gwasanaethau perthnasol fel a nodwyd ym mharagraff 2.8 ac a gynhwyswyd yn nhabl 2 yn 5.1.16.
· Toriadau/arbedion effeithlonrwydd y gyllideb Pontio’r Bwlch ym mharagraffau 5.1.18 i 5.1.23.
· Cynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/2026.
· Y SATC wedi’i diweddaru ar gyfer 2025/2026 i 2029/2030 a oedd wedi’i hatodi yn Atodiad 2.
|
|
Ffioedd a Thaliadau yn ôl Disgresiwn 2025/26 Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar Opsiwn 1, fel a ganlyn:-
1. Bod y Cabinet yn argymell wrth y Cyngor bod y gofrestr Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2025/2026 a oedd wedi’i hatodi yn Atodiad 1 yn cael ei chymeradwyo ac ar gyfer ffioedd a thaliadau yn ôl disgresiwn bod cynnydd yn y ffi o 3% yn cael ei gymeradwyo yn unol â’r dybiaeth ar gyfer chwyddiant o fewn y SATC, y ffi amgen a gynigiwyd fel a nodwyd ym mharagraffau 5.1.5 i 5.1.14;
2. argymell wrth y Cyngor bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddirprwyo p?er a chyfrifoldeb i Gyfarwyddwr Interim y Gwasanaethau Cymdeithasol i bennu’r ffioedd a thaliadau ar gyfer 2025/2026 mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol allanol a Chwrt Mytton fel a nodwyd ym mharagraff 5.1.7; ac
3. argymell wrth y Cyngor bod y codiadau prisiau craidd mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a oedd wedi’u hatodi yn Atodiad 2 yn cael eu cymeradwyo.
|