Lleoliad: Dros Microsoft Teams (os ydych yn bwriadu gweld y cyfarfod hwn cysylltwch รข michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk/deb.jones@blaenau-gwent.gov.uk)
Cyswllt: Michelle Hicks/Deb Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: |
|
Ymddiheuriadau Cael unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd yr ymddiheuriadau canlynol am absenoldeb oddi wrth:-
Y Cynghorydd S. Thomas, Arweinydd y Cyngor Y Cyd-Brif Weithredwr
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Cael unrhyw ddatganiadau o fuddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Ystyried penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2025.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau Cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2025.
PENDERFYNWYD derbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet Ystyried penderfyniadau’r Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2025.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau Cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2025.
PENDERFYNWYD derbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Cynadleddau, Cyrsiau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau Ystyried yr adroddiad.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad i enwebu cynrychiolydd i fod yn bresennol yn un o’r Garddwestau Brenhinol, a fydd yn cael eu cynnal yn Llundain ar 7 Mai 2025 a 20 Mai 2025.
PENDERFYNWYD enwebu’r Cyn-Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Keith Pritchard i fod yn bresennol ar 20 Mai 2025.
|
|
Strategaeth y Gweithlu 2021-2026 Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol,
Fe wnaeth y Dirprwy Arweinydd wahodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad i ddarparu trosolwg o drafodaethau yn y Pwyllgor Craffu. Yn dilyn trafodaethau
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet wedi adolygu’r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Cyflawni ar gyfer 2024/25 ac wedi cytuno ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer 2025/26 1).
Fe wnaeth y Cynghorydd J. Wilkins adael y cyfarfod ar yr adeg hon.
|
|
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod yr Aelodau Cabinet wedi ystyried y canlyniadau ariannol yn yr adroddiad a’u herio’n briodol; ac
· wedi nodi’r defnydd o gronfeydd wrth gefn; · wedi ystyried a herio’r Cynllun Gweithredu a oedd wedi ei atodi yn Atodiad 2; · wedi cymeradwyo’r argymhelliad ynghylch cyllid grant penodol ar gyfer Dyfarniad Cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol a dyrannu £0.7m i ysgolion i ariannu cost y dyfarniad cyflog yn llawn.
|
|
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod yr Aelodau Cabinet wedi herio’r canlyniadau ariannol yn yr adroddiad yn briodol; eu bod yn parhau i gefnogi gweithdrefnau rheolaeth ariannol priodol y cytunwyd arnynt gan y Cyngor; ac wedi nodi’r gweithdrefnau rheolaeth gyllidebol a monitro cyllidebol sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod (Opsiwn 1).
|
|
Rhyddhad Ardrethi Busnes – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025-26 Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet, yn amodol ar gael y cynnig grant ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, yn mabwysiadu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2025/26 ar ran y Cyngor, i ategu cynllun rhyddhad ardrethi dewisol y Cyngor (Opsiwn 2).
|
|
Deilliannau Cyfnod Allweddol 4 2024 Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys ynddo. (Opsiwn 1).
|