Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Cael ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr: P. Baldwin, D. Rowberry. J. Gardner, G. Thomas a D. Woods.
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Cael unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
RHESTR O GEISIADAU AR GYFER TRWYDDEDAU CERBYD HACNI A HURIO PREIFAT Ystyried ceisiadau a gafwyd.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yngl?n â phrawf budd y cyhoedd, sef at ei gilydd bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.
PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Cais am Drwydded Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat Newydd
PENDEFYNWYD derbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag unigolyn penodol a CHANIATÁU’R cais.
|