Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cynllunio - Dydd Iau, 6ed Mawrth, 2025 2.00 pm

Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  E-bost: leeann.turner@blaenau-gwent.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cael unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y canlynol:-

 

Y Cynghorwyr M. Day a J. Morgan

 

Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau

Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu

Arweinydd Tîm yr Amgylchedd Adeiledig

 

3.

Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau

Cael unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.

 

4.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Briffio a Hyfforddiant Aelodau

Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau briffio a hyfforddiant aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw feysydd ar gyfer Hyfforddiant/Sesiynau Briffio Aelodau.

 

5.

Diweddariad ar Apeliadau, Ymgyngoriadau a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol Chwefror 2025 pdf icon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys ynddo.

 

6.

ADRODDIAD AR YR EFFAITH LEOL pdf icon PDF 888 KB

Ystyried yr Adroddiad ar yr Effaith Leol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar yr Effaith Leol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys ynddo.

 

7.

Diweddariad ar Apêl Gynllunio: 7 Cwm Cottage Road, Abertyleri pdf icon PDF 243 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys ynddo.

 

8.

Rhestr o geisiadau y penderfynwyd arnynt rhwng 24 Ionawr 2025 a 20 Chwefror 2025 pdf icon PDF 170 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys ynddo.

 

9.

Achosion gorfodi a gaewyd rhwng 16 Ionawr 2025 a 20 Chwefror 2025

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch prawf budd y cyhoedd sef, at ei gilydd, bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.

 

PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am berson penodol a nodi’r wybodaeth a oedd wedi cael chynnwys ynddo.