Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cynllunio - Dydd Iau, 6ed Chwefror, 2025 2.00 pm

Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cael unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth:-

 

Y Cynghorwyr Wayne Hodgins a Jen Morgan

Y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau

 

3.

Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau

Cael unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.

 

4.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Briffio a Hyfforddiant Aelodau

Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau briffio a hyfforddiant aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw feysydd ar gyfer Sesiynau Briffio/Hyfforddiant Aelodau.

 

5.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 900 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu, ac ar hynny:-

 

Cais Rhif C/2023/0212

Fferm Penrhiwgwaith, Lôn Pen-Rhiw-Gwaith, Llwyncelyn, Y Coed Duon, NP12 0ST

Gosod tyrbin gwynt a seilwaith cysylltiedig gan gynnwys sylfaen tyrbin, llawr caled ar gyfer craen/ardal cadw offer, gwella trac mynediad presennol, cynhwysydd trawsnewidydd a cheblau cysylltiedig

 

Yn dilyn cynnal pleidlais, yr oedd ei chanlyniad yn unfrydol

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd Cynllunio gyda’r amodau a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad a rhoi pwerau dirprwyedig i Swyddogion Cynllunio ddiwygio geiriad yr amodau fel y bo angen.

 

6.

Diweddariad ar Apeliadau, Ymgyngoriadau a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol Chwefror 2025 pdf icon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.

 

7.

Gwybodaeth am Berfformiad Chwarterol pdf icon PDF 248 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.

 

8.

Rhestr o geisiadau y penderfynwyd arnynt rhwng 22 Tachwedd 2024 a 23 Ionawr 2025 pdf icon PDF 150 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.

 

9.

Penderfyniad Cynllunio a Gorfodi – Tir yn a’r tu ôl i Underhill, Hawthorn Road, Glyn Ebwy NP23 5HS pdf icon PDF 222 KB

Ystyried y penderfyniadau Apelio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar Benderfyniad Cynllunio a Gorfodi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniad yngl?n â’r Apêl a oedd wedi’i gynnwys ynddo.

 

10.

Achosion gorfodi a gaewyd rhwng 30 Medi 2024 ac 15 Ionawr 2025

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yngl?n â phrawf budd y cyhoedd, sef at ei gilydd bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.

 

PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu ac Ystadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag unigolyn penodol a nodi’r wybodaeth ynddo.