Lleoliad: via Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live via Microsoft Teams please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: |
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Eu cael.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Cyllideb Refeniw 2025/2026 Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol a’r Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifyddiaeth.
Cynigiodd un o’r Aelodau fod adrannau 3.1.1 i 3.1.5 o Opsiwn 1 yn cael eu derbyn a bod argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor bod adrannau 3.1.6 i 3.1.7 o Opsiwn 1 yn cael eu gohirio nes iddynt gael eu hystyried ymhellach yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor a oedd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau 20 Chwefror 2025. Eiliwyd y cynnig hwn.
Gyda hynny fe GYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad gan gytuno ar Opsiwn 1 fel a ganlyn:-
· Bod yr Aelodau wedi ystyried yr adroddiad a’r cynigion.
· Y tybiaethau a ddefnyddiwyd i ddatblygu Amcangyfrifon Drafft 2025/2026 (paragraffau 5.1.4 i 5.1.10).
· Y pwysau o ran costau a nodwyd ym mharagraffau 5.1.11 i 5.1.17 ac a ddangoswyd yn nhabl 2 yn 5.1.8 mewn perthynas â’r canlynol: - y Cyngor - £2.3m - Ysgolion - £2.4m - Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin - £0.4m
· Bod y grantiau sy’n trosglwyddo i mewn i’r Setliad ar gyfer 2025/2026 yn cael eu pasbortio i’r gwasanaethau perthnasol fel a nodwyd ym mharagraff 2.8 ac a gynhwyswyd yn nhabl 2 yn 5.1.16.
· Y penderfyniad yngl?n â thoriadau/arbedion effeithlonrwydd y gyllideb Pontio’r Bwlch ym mharagraffau 5.1.18 i 5.1.23.
· Bod penderfyniad yngl?n âr cynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/2026 yn cael ei ohirio i gael ei ystyried yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor ar 20 Chwefror 2025.
· Bod penderfyniad yngl?n â’r SATC wedi’i diweddaru ar gyfer 2025/2026 i 2029/2030 a oedd wedi’i hatodi yn Atodiad 2 yn cael ei ohirio i gael ei ystyried yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor ar 20 Chwefror 2025.
|
|
Ffioedd a Thaliadau yn ôl Disgresiwn 2025/26 Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad gan gytuno ar Opsiwn 1, fel a ganlyn:-
1. Bod yr Aelodau wedi ystyried ac yn argymell wrth y Cabinet a’r Cyngor bod y gofrestr Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2025/2026 a oedd wedi’i hatodi yn Atodiad 1 yn cael ei chymeradwyo ac ar gyfer ffioedd a thaliadau yn ôl disgresiwn bod cynnydd yn y ffi o 3% yn cael ei gymeradwyo yn unol â’r dybiaeth ar gyfer chwyddiant o fewn y SATC, y ffi amgen a gynigiwyd fel a nodwyd ym mharagraffau 5.1.5 i 5.1.14.
2. Bod yr Aelodau wedi ystyried ac argymell wrth y Cabinet a’r Cyngor bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddirprwyo p?er a chyfrifoldeb i Gyfarwyddwr Interim y Gwasanaethau Cymdeithasol i bennu’r ffioedd a thaliadau ar gyfer 2025/2026 mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol allanol a Chwrt Mytton fel a nodwyd ym mharagraff 5.1.7.
3. Bod Aelodau wedi ystyried a’u bod yn argymell wrth y Cabinet a’r Cyngor bod y codiadau prisiau craidd mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a oedd wedi’u hatodi yn Atodiad 2 yn cael eu cymeradwyo.
|