Cyswllt: Michelle Hicks
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: |
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
Cofnodion: Cafwyd yr ymddiheuriadau canlynol am absenoldeb:-
Cyd-Brif Weithredwr Prif Swyddog Cwsmeriaid a Masnachol Pennaeth Datblygu Sefydliadol
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Eu cael.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
PENDERFYNIAD Y CABINET – ADOLYGIAD A CHYNLLUN GWEITHREDU BLWYDDYN 4 STRATEGAETH Y GWEITHLU Ymateb i unrhyw gwestiynau a godir gan y Pwyllgor yn dilyn penderfyniad y Cabinet ynghylch yr Adolygiad o Strategaeth y Gweithlu a’r adroddiad ar Gynllun Gweithredu Blwyddyn 4.
Cofnodion: Fe wnaeth yr Aelod Cabinet – Corfforaethol a Pherfformiad ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor yn dilyn penderfyniad y Cabinet ynghylch yr adroddiad ar Adolygiad a Chynllun Gweithredu Blwyddyn 4 Strategaeth y Gweithlu.
Fe wnaeth y Cynghorydd S. Thomas adael y cyfarfod ar yr adeg hon.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025.
(D.S. Cyflwynir y Penderfyniadau ar gyfer pwyntiau o gywirdeb yn unig)
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r Cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Arbennig a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2025.
(D.S. Cyflwynir y Penderfyniadau ar gyfer pwyntiau o gywirdeb yn unig)
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r Cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2025.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Ei chael
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
Cynigiodd un o’r Aelodau fod yr argymhelliad ynghylch wythnos 4 diwrnod yn dal i fod yn ystyriaeth wrth ddatblygu Strategaeth newydd y Gweithlu, a bod Aelodau o’r Pwyllgor yn ystyried sefydlu Gweithgor Aelodau i’w gynnwys yn y Flaenraglen fel rhan o waith parhaus yn erbyn adroddiad Adolygiad a Chynllun Gweithredu Blwyddyn 4 Strategaeth y Gweithlu ar gyfer cylch 2025/26.
Cafodd y cynnig hwn ei gefnogi a’i dderbyn i gael ei gynnwys ar y Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad ac fe nododd yr wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys ynddo.
|
|
Strategaeth Gyfalaf 2025/2026 Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac argymhellodd fod y Cyngor yn cymeradwyo mabwysiadu’r canlynol (Opsiwn 1):-
· Y Strategaeth Gyfalaf a oedd wedi ei hatodi yn Atodiad 1. · Y Ddogfen Polisi a Gweithdrefn Lesoedd a oedd wedi ei hatodi yn Atodiad A. · Gostyngiad yn y terfyn de minimis ar gyfer gwariant cyfalaf o £50,000 i £10,000 a gymhwysir yn ôl-weithredol o 1 Ebrill 2023.
|
|
Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Polisi a Phartneriaethau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac fe gefnogodd yr Adroddiad Blynyddol drafft ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024/25 cyn ei gyhoeddi (1 Ebrill 2025) (Opsiwn 1).
|
|
Rheoli Trysorlys – Datganiad ar y Strategaeth Trysorlys, Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a bod Aelodau wedi ystyried y Datganiad Blynyddol ar y Strategaeth Trysorlys a’r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol a’r Datganiad Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026 a’r Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a oedd wedi’u cynnwys ynddynt (Atodiad A) ac nad ydynt yn ystyried bod angen gwneud unrhyw newidiadau, cyn eu cyflwyno i’r Cyngor i gael eu cymeradwyo’n ffurfiol (Opsiwn 2).
|