Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
|
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
Cofnodion: Cafwyd yr ymddiheuriadau canlynol am absenoldeb:-
Cyd-Brif Weithredwr Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim y Gwasanaethau Cymdeithasol Pennaeth Datblygu Sefydliadol
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Eu cael.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau o gywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Adolygiad o Strategaeth y Gweithlu a Chynllun Gweithredu Blwyddyn 4 Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cynigiwyd ac eiliwyd fod y Strategaeth yn ymchwilio i wythnos waith 4 diwrnod ar gyfer yr Awdurdod.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a’r Cynllun Cyflawni ar gyfer 2025/26 (Opsiwn 2). Argymhellodd y Pwyllgor Craffu fod wythnos 4 diwrnod ar gyfer y gweithlu’n cael ei hystyried fel rhan o ddatblygu Strategaeth newydd y Gweithlu.
|
|
Rheoli Trysorlys – Chwarter 3 2024/2025 Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.
Cyfeiriodd un o’r Aelodau at y tabl cryno ar gyfer Dangosyddion Trysorlys a Darbodus 2024/25 a oedd yn Atodiad 2 ac fe nododd mai £214,299 oedd y ddyled allanol grynswth, mai £10,000 oedd buddsoddiadau a bod y lefel fenthyca net yn £203,614. Gofynnodd yr Aelod sut y cyfrifwyd y ffigyrau hyn gan ei fod yn credu mai’r ddyled allanol grynswth namyn unrhyw fuddsoddiadau a wnaed oedd y lefel fenthyca net.
Cadarnhawyd fod yr Aelod yn gywir, bod y ffigwr ar gyfer benthyciadau net yn anghywir ac mai £204,299 ddylai’r lefek fenthyca net fod. Cytunwyd y byddai Atodiad 2 yn cael ei ddiwygio’n unol â hynny.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod yr Aelodau wedi craffu ar y gweithgarwch rheoli trysorlys a gyflawnwyd yn ystod naw mis cyntaf 2024/25 a’i fod yn argymell, wrth y Cyngor, bod y strategaethau a dangosyddion perfformiad Trysorlys a gytunwyd yn flaenorol yn cael eu diwygio fel a nodwyd (opsiwn 2).
|
|
Blaenraglen Waith – 20 Mawrth 2025 Ystyried adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac fe gytunodd ar y Flaenraglen Waith ar gyfer cyfarfod 20 Mawrth 2025, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).
|