Lleoliad: Dros Microsoft Teams (os ydych yn bwriadu gweld y cyfarfod hwn cysylltwch รข michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Cyswllt: Michelle Hicks
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: Hysbyswyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
|
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd J Gardner.
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Eu cael.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Lleoedd Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lleoedd a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2025.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2025.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Eu cael
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymdogaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymdogaeth.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y canlynol:-
Adolygiad o Daliadau am Fagiau Gwastraff Gwyrdd – Fe wnaeth y Pwyllgor fabwysiadu’r tâl ar drigolion am fagiau ailgylchu gwastraff gwyrdd yn barhaol. Byddai’r tâl o £2 yn cael ei gynnwys ar y gofrestr ffioedd a thaliadau ac yn cynyddu yn unol â pholisi’r Cyngor bob blwyddyn. Byddai’r tâl yn parhau i roi cymorth i weinyddu a darparu’r bagiau gwastraff gwyrdd i drigolion (Opsiwn1).
Diwrnodau Agor Gostyngol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref – Rhoddodd y Pwyllgor statws parhaol i’r penderfyniad a roddwyd ar waith ym mis Mehefin 2024 i dreialu cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref am ddiwrnod ychwanegol yn ystod yr wythnos (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Rheoli Cyrchfan.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Rheoli Cyrchfan.
CYTUNODD y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei dderbyn a darparodd yr Aelodau eu barn yngl?n â chyflwyno ardoll ymwelwyr ym Mlaenau Gwent, er mwyn i swyddogion werthuso’r gost a’r budd i’r awdurdod lleol pe bai’n cyflwyno ardoll ymwelwyr ym Mlaenau Gwent. Byddai hyn yn galluogi swyddogion i werthuso’r ymateb gan Aelodau Craffu a masnachwyr. Byddai canlyniadau hynny’n cael eu cyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor Craffu i gael eu hystyried ac yna eu cymeradwyo’n derfynol gan y Cabinet.
|
|
Strategaeth Eiddo Gwag Blaenau Gwent Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad, darparodd sylwadau ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ac fe gefnogodd y cynnig i fabwysiadu Strategaeth Eiddo Gwag Blaenau Gwent (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Waith: 29 Ebrill 2025 Ei chael
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac fe gytunodd ar y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfarfod ar 29 Ebrill 2025, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).
|