Lleoliad: Dros Microsoft Teams (os ydych yn bwriadu gweld y cyfarfod hwn cysylltwch รข michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
Cofnodion:
Cafwyd yr ymddiheuriadau canlynol am absenoldeb:-
Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Rheolwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Eu cael.
Cofnodion: Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Lleoedd Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau o gywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod cywir o’r trafodion.
|
|
Ei chael.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.
|
|
Y Flaenraglen Waith: 11 Mawrth 2025 Ei chael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac fe wnaeth newidiadau i’r pynciau a oedd wedi’u hamserlennu ar gyfer y cyfarfod ar 11 Mawrth 2025; awgrymodd unrhyw wahoddedigion ychwanegol y mae eu hangen ar y pwyllgor i ystyried yr adroddiadau’n llawn; a gofynnodd am gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r pynciau i’w trafod (Opsiwn 2).
|
|
Caffaeliad Arfaethedig Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.
Cofnodion: Cael ac ystyried yr adroddiad canlynol a oedd, ym marn y swyddog priodol, yn eitem esempt gan ystyried prawf budd y cyhoedd ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (roedd y rheswm dros y penderfyniad ar gyfer yr esemptiadau ar gael ar atodlen a gynhelir gan y swyddog priodol).
Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch prawf budd y cyhoedd sef, at ei gilydd, bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.
PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod a oedd yn meddu ar yr wybodaeth honno) a chymeradwyo Opsiwn 3.
|