Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Summers ac L. Winnett.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Penodi Cadeirydd 2021/22 Derbyn enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar gyfer y flwyddyn 2021/22.
Cofnodion: Gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2021/2022.
Cynigiodd Aelod bod Mr. Terry Edwards yn cael ei benodi i’r swydd, ac eiliwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD penodi Mr. Terry Edwards yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2021/2022.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol To consider. Cofnodion: Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD parhau i gynnal cyfarfodydd am 9.30 a.m.
|
|
Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 5 y cofnodion, sef y drafodaeth am nifer y Swyddogion sy’n gadael yr Awdurdod, a dywedodd i’r Rheolwr Archwilio a Risg nodi y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr asesiad risg ac y byddid yn nodi’r sylwadau a wnaed gan Aelodau.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 27 Ebrill 2021 Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021.
|
|
Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Flaenraglen Gwaith y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2021-22, a roddir yn Atodiad 1.
Gofynnodd Aelod y dylai’r risg i’r Awdurdod yng nghyswllt nifer y Swyddogion sy’n gadael a salwch staff gael eu hychwanegu at y Flaenraglen. Gofynnodd hefyd am sicrwydd y cynhelir cyfweliadau gadael.
Dywedodd y Rheolwr Archwilio a Risg fod y Flaenraglen yn rhestru’r adroddiadau a gyflwynir i’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, byddai’r materion a godwyd gan yr Aelod yn dal o fewn cylch gorchwyl y Cynllun Archwilio a gyflwynir i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Cyfeiriodd Aelod at oblygiadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i’r Pwyllgor a gofynnodd os yr adroddiad Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor cyn mis Mai 2022.
Mewn ymateb esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y Flaenraglen yn seiliedig ar flynyddoedd flaenorol, fodd bynnag gall newid a symud drwy gydol y flwyddyn i roi ystyriaeth i eitemau ychwanegol ac yn y blaen.
Gofynnodd Aelod arall am sicrwydd y byddai’r Swyddogion perthnasol yn bresennol pan ddeuir ag adroddiad Archwilio Cymru ar Silent Valley i’r Pwyllgor i’w ystyried.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na fedrai roi sylw ar pryd y gellid disgwyl yr adroddiad ond rhoddodd sicrwydd y byddai’r Swyddogion perthnasol yn bresennol pan gyflwynir yr adroddiad.
Dywedodd Swyddog Archwilio Cymru na fedrai roi data ar gyfer cyflwyno adroddiad Silent Valley ond cadarnhaodd y cafodd yr adroddiad yn awr ei gylchredeg i’r unigolion a nodir yn yr adroddid ar gyfer sylwadau. Cadarnhaodd hefyd y caiff Cynllun Archwilio Archwilio Cymru ei gyflwyno i gyfarfod arbennig y Pwyllgor ar 27 Gorffennaf 2021.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiadau uchod, i dderbyn yr adroddiad a chytuno ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio (Opsiwn 2).
|
|
Cod Llywodraethiant PDF 494 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio a Risg y Cod Llywodraethiant diwygiedig i gael ei gymeradwyo (Atodiad 1). Caiff y Cod Llywodraethiant ei ddiweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau ei fod yn adlewyrchu trefniadau llywodraethiant presennol yr Awdurdod, a’i fod yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer cynhyrchu’r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol. Cadarnhaodd y Swyddog y rhoddir adroddiad ar y drafft Ddatganiad Llywodraethiant Blynyddol i gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf.
Tynnodd y Swyddog sylw at y tri phrif faes o newid o fewn y Cod Llywodraethiant fel sy’n dilyn:
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog fod y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol wedi ystyried y Cod Llywodraethiant diwygiedig i sicrhau ei fod yn adlewyrchu fframwaith llywodraethiant yr Awdurdod; fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd mae’r Pwyllgor sy’n gyfrifol am gymeradwyo’r Cod Llywodraethiant.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Cod Llywodraethiant diwygiedig (Opsiwn 1).
|
|
Polisi Pryderon a Chwynion Diweddaredig PDF 413 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
Cyflwynodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol yr adroddiad sy’n amlinellu’r polisi a ddiweddarwyd ar Bryderon a Chwynon.
Fel rhan o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, dywedodd y Swyddog y cafodd Awdurdod Safonau Cwynion newydd ei greu. Cyhoeddwyd polisi ac arweiniad dan y pwerau a gynhwysir o fewn Adran 36 y Ddeddf ac maent yn weithredol ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Awdurdod wedi llunio polisi enghreifftiol ar Bryderon a Chwynion ac mae disgwyliad y bydd awdurdodau cyhoeddus yn mabwysiadu’r polisi enghreifftiol o sicrhau y caiff cwynion eu trafod mewn modd cyson ledled Cymru. Daethpwyd â’r drafft bolisi i’r Pwyllgor cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf.
Esboniodd y Swyddog bod angen i’r Cyngor roi data am gwynion yn chwarterol i’r Awdurdod a rhoi adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar y nifer a’r mathau o gwynion a gafwyd, eu canlyniadau ac unrhyw gamau unioni a gymerwyd fel canlyniad. Mater i’r Cyngor yw penderfynu pa mor aml y dylai dderbyn adroddiadau o’r fath; fodd bynnag, dylai hyn fod o leiaf unwaith y flwyddyn.
Atebodd y Swyddog hefyd y byddai gan y Pwyllgor yn awr swyddogaethau ychwanegol i gynnwys trosolwg ar gyfer cwynion ac y byddai ganddo bwerau statudol i:
Dywedodd y Swyddog fod y Polisi yn cyfeirio at gwynion gwasanaeth ac nid cwynion yn ymwneud ag ymddygiad sydd wedi eu lleoli o fewn y Swyddog Monitro a’r Pwyllgor Safonau.
Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd y Swyddog y caiff cwynion am wasanaethau eu cyfeirio i’r Adran sy’n gyfrifol am y gwasanaeth, a gobeithir eu datrys ar gam cynnar. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl caiff ei uwchgyfeirio.
Cyfeiriodd Aelod at y ffaith fod gan ysgolion eu gweithdrefnau cwynion eu hunain ar waith a gofynnodd os y byddai’r rhain yn gydnaws gyda’r polisi newydd.
Cadarnhaodd y Swyddog fod Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd Addysg wedi mabwysiadu eu gweithdrefnau cwynion eu hunain. Byddai gwaith yn cael ei wneud yn y dyfodol i adolygu holl weithdrefnau cwynion y Cyngor i sicrhau cysondeb gyda safonau gofynnol yr Awdurdod Safonau Cwynion newydd, ac i adolygu’r dogfennau hynny yn barhaus.
Cyfeiriodd Aelod at y swyddogaeth ychwanegol i’r Pwyllgor dderbyn cwynion yn erbyn yr Awdurdod a gofynnodd os y byddai hyn yn cynnwys cwynion yng nghyswllt Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd y Swyddog y caiff cwynion yn y meysydd hynny eu hadrodd i’r Pwyllgor Craffu perthnasol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau trosolwg effeithlon ar yr holl weithdrefnau cwynion, bwriedir dod â nhw i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. Cadarnhaodd y Swyddog y caiff hyn ei drafod gyda’r Adrannau.
Dywedodd yr Aelod nad oes unrhyw sôn y gallai person enwebu llefarydd i weithredu ar eu rhan ac awgrymodd y dylid cynnwys hyn o fewn y polisi.
Nododd y Swyddog sylw’r Aelod.
PENDERFYNWYD, yn amodol ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Adroddiadau ac Argymhellion Archwilio Cymru PDF 362 KB Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Archwilio Cymru.
Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru lythyr a anfonwyd at yr holl Gynghorau yn eu hysbysu am fwriad Archwilio Cymru i adolygu’r trefniadau adrodd sydd ar waith ar hyn o bryd er mwyn cael dull gweithredu mwy cyson. Byddai Archwilio Cymru yn cysylltu gyda Chynghorau i sicrhau y caiff pob adroddiad eu cyflwyno i Bwyllgor ac y symudir ymlaen ag argymhellion.
Dywedodd Aelod y gall y trefniadau newydd effeithio ar yr amserlenni a nodir yn y Flaenraglen Gwaith.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Archwilio Cymru a chydnabod yr wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|