Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Iau, 6ed Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  07870 998665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.

 

 

 

Cofnodion:

Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Eu cael.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y canlynol:

 

Y Cynghorwyr D. Bevan, M. Day, S. Edmunds, G. Thomas,  Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

3.

Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.

 

 

4.

Gofyniad Cyllideb Statudol 2025/2026 pdf icon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Gyda hynny, yn unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 1, sef:

 

-        Cymeradwyo’r Penderfyniad yngl?n â’r Dreth Gyngor, y manylir arno isod.

 

-        Cymeradwyo’r gofyniad cyllidebol statudol o £197,805,630.

 

5.1.2 Cytunodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2025 y byddai cynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026. O ganlyniad, byddai elfen Cyngor Blaenau Gwent o’r Dreth Gyngor lawn a godir fel a ganlyn:-

 

Bandiau Prisio (£)

A

B

C

D

E

F

G

H

I

1,343.27

1,567.14

1,791,02

2,014.90

2,462.66

2,910.41

3,358.17

4,029.80

4,701.43

 

 

5.1.3 Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2024 fe gytunodd y Cyngor y byddai sylfaen y Dreth Gyngor at ddibenion pennu’r dreth yn 21,197.98 ar gyfer 2025/26, sef cyfanswm yr anheddau trethadwy ym mhob ardal wedi ei addasu ar gyfer nifer o eitemau, e.e. disgowntiau sy’n daladwy, wedi ei luosi â’r gyfradd gasglu dybiedig o 95.5%.

 

5.1.4 Hefyd, yn unol â Rheoliad 6 yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) 1992, roedd swm ei sylfaen Treth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal y mae un neu fwy nag un eitem arbennig yn berthnasol iddynt fel a ganlyn:

 

4,680.72

Abertyleri a Llanhiledd

1,742.40

Brynmawr

 

2,737.59

Nant-y-glo a’r Blaenau

 

4,798.27

Tredegar

 

 

 

5.1.5  Mae’r uchod yn cynrychioli nifer yr anheddau trethadwy y byddai’r praesept Cynghorau Tref a Chymuned yn berthnasol iddynt.

 

 

 

5.1.7 Y dylai’r symiau canlynol gael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/2026 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac adrannau 47 a 49 Deddf Llywodraeth Leol 1988 (fel y’i diwygiwyd):

 

a

£197,805,630

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf namyn cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn adran 32 (3) (a) ac (c) y Ddeddf a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag adran 32(4) y Ddeddf, fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn.

b

£208,000

Sef y swm y mae’r Awdurdod yn ei amcangyfrif mewn perthynas ag Adrannau 47 a 49 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 1 Deddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997, ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig yn ôl disgresiwn.

c

£154,534,000

 

 

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddent yn daladwy am y flwyddyn i mewn i gronfa’r Cyngor mewn perthynas â grant cynnal refeniw, grant ychwanegol ac ardrethi annomestig wedi eu hailddosbarthu.

d

£2,051.12

Sef y swm yn (a) uchod a’r swm yn (b) uchod a namyn y swm yn (c) uchod, i gyd wedi eu rhannu â’r swm yn 5.1.3 uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn.

e

£767,820

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1)  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Siarter i Deuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth trwy Drychineb Cyhoeddus pdf icon PDF 178 KB

Ystyried adroddiad y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol a’r Rheolwr Argyfyngau Sifil.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a mabwysiadu’r Siarter i Deuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth trwy Drychineb Cyhoeddus (Siarter Hillsborough) a hyrwyddo amgylchedd tryloyw a chefnogol ar gyfer teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth trwy drychineb cyhoeddus fel a amlinellir yn y Siarter. Ymgorffori’r egwyddorion mewn adolygiadau o bolisi, gweithdrefnau, hyfforddiant a diwylliant y sefydliad.

 

6.

Cynnig – Cyflog Llywodraeth Leol: Codiad Cyflog Teg, a Gyllidir yn Llawn, i Weithwyr Cyngor ac Ysgolion pdf icon PDF 78 KB

Ystyried y Cynnig sydd wedi ei atodi.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Cynnig a enwir uchod.

 

Yn unfrydol,

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor:

 

A.       Yn cefnogi egwyddor yr hawliad cyflog a gyflwynwyd gan UNSAIN, GMB ac Uno ar ran gweithwyr cyngor ac ysgolion, gan gydnabod hefyd bod rhaid i unrhyw ddyfarniad cyflog gael ei gyllido’n llawn gan lywodraeth ganolog i osgoi gosod straen ariannol ychwanegol ar awdurdodau lleol.

 

B.       Yn galw ar y Gymdeithas Llywodraeth Leol i gyflwyno sylwadau brys i lywodraeth ganolog i gyllido hawliad cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn llawn.

 

C.      Yn ysgrifennu at y Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol i alw am godiad cyflog a gyllidir yn briodol ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol, gan sicrhau bod unrhyw ddyfarniad yn cael ei gyllido ag arian newydd gan lywodraeth ganolog.

 

D.      Yn cwrdd â chynrychiolwyr lleol undebau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol i gyfleu cefnogaeth i egwyddor cyflog teg a thrafod ffyrdd ymarferol y gallai’r Cyngor ddadlau dros gyllido dyfarniadau cyflog yn briodol.

 

E.       Yn annog yr holl weithwyr llywodraeth leol i ymuno ag undeb.

 

 

7.

Eitem Esempt

Cofnodion:

Cael ac ystyried yr adroddiad canlynol a oedd, ym marn y swyddog priodol, yn eitem esempt gan ystyried prawf budd y cyhoedd ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (roedd y rheswm dros y penderfyniad ar gyfer yr esemptiad ar gael ar atodlen a gynhelir gan y swyddog priodol).

 

 

8.

Y Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd - Cyllid 2024/25

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Fe ymunodd y Cynghorydd K. Chaplin a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg â’r cyfarfod ar yr adeg hon.

 

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch prawf budd y cyhoedd sef, at ei gilydd, bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.

 

PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

Fe ymunodd y Cynghorwyr J. Millard a J. Thomas â’r cyfarfod tra’r oedd yr eitem hon yn cael ei thrafod.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor fod Opsiwn 1 yn cael ei gymeradwyo ynghyd â’r argymhelliad ychwanegol canlynol:

 

-        Bod y Prif Weithredwr yn cael gorchwyl i sicrhau adolygiad annibynnol o’r arlwy ddiwylliannol a hamdden ledled Blaenau Gwent y byddir yn adrodd yn ôl wrth y Cyngor ar ei ganlyniadau. Byddai aelodau’n rhan o’r broses adolygu.

 

Yn unfrydol,

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson arbennig (gan gynnwys yr awdurdod sy’n meddu ar yr wybodaeth honno) a hefyd:

 

-        Cymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r cymorth ariannol ychwanegol i’r sefydliad gyda chynnydd mewn cyllid yn ystod y flwyddyn i’r Ffi Reoli hyd at £0.6m, a

 

-        Rhoi gorchwyl i’r Prif Weithredwr sicrhau adolygiad annibynnol o’r arlwy ddiwylliannol a hamdden ledled Blaenau Gwent y byddir yn adrodd yn ôl wrth y Cyngor ar ei ganlyniadau. Byddai aelodau’n rhan o’r broses adolygu.