Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Iau, 20fed Chwefror, 2025 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.

 

 

 

Cofnodion:

Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Eu cael.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr J. Morgan, Y.H., D. Rowberry a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni hysbyswyd ynghylch unrhyw ddatganiadau o fuddiant na goddefebau.

 

 

 

4.

Ffioedd a Thaliadau yn ôl Disgresiwn 2025/2026 pdf icon PDF 157 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Yn unfrydol,

 

PENDEFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 1, sef:

 

-        Cymeradwyo’r gofrestr Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2025/2026 ynghyd â’r ffioedd a thaliadau yn ôl disgresiwn a ganlyn:

 

·       cynnydd mewn ffioedd o 3% yn unol â’r dybiaeth ar gyfer chwyddiant yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC); a hefyd

 

·       y ffioedd amgen a gynigiwyd fel a nodwyd ym mharagraffau 5.1.5 i 5.1.14 yn yr adroddiad.

 

-        Dirprwyo p?er a chyfrifoldeb i Gyfarwyddwr Corfforaethol Interim y Gwasanaethau Cymdeithasol i bennu’r ffioedd a thaliadau ar gyfer 2025/2026 mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol allanol a Chwrt Mytton fel a nodwyd ym mharagraff 5.1.7 yn yr adroddiad.

 

-        Cymeradwyo’r codiadau prisiau craidd mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a oedd wedi’u hatodi yn Atodiad 2.

 

5.

Cyllideb Refeniw 2025/2026 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 197 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Ymunodd y Cynghorydd P. Baldwin â’r cyfarfod ar yr adeg hon.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, cynigiodd Arweinydd y Cyngor fod Opsiwn 1 yn cael ei gymeradwyo (paragraffau 3.2.1 - 3.2.7) gan gynnwys cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.95%. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Fe wnaeth Arweinydd y Gr?p Annibynnol gynnig y gwelliant canlynol:

Cynnig Wedi Ei Wella:

-        Rhoi cefnogaeth i ddarparu cyllid ychwanegol i’r Ymddiriedolaeth ond gyda hwnnw’n cael ei ariannu o Gronfeydd Wrth Gefn y Cyngor, gan arwain at gynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 3.95%. Eiliwyd y cynnig wedi ei wella.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd J. Gardner adael y cyfarfod ar yr adeg hon.

 

Ar hynny, gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi.

 

O Blaid y cynnig wedi ei wella gan gynnwys cynyddu’r Dreth Gyngor 3.95% – Y Cynghorwyr D. Davies, G. A. Davies, M. Day, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, J. Millard, J. P. Morgan, L. Parsons, G. Thomas, J. Wilkins.

 

Yn Erbyn y cynnig wedi ei wella gan gynnwys cynyddu’r Dreth Gyngor 3.95% – Y Cynghorwyr P. Baldwin, S. Behr, D. Bevan, K. Chaplin, M. Cross, H. Cunningham, S. Edmunds, G. Humphreys, R. Leadbeater, J. C. Morgan, C. Smith, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, L. Winnett.

 

Pan bleidleisiwyd ar y gwelliant ni chafodd ei dderbyn.

 

Nid oedd yn ofynnol cynnal pleidlais eiriol bellach mewn perthynas â’r cynnig gwreiddiol i gynyddu’r Dreth Gyngor 4.95% ond fe gytunodd yr Aelodau y dylai canlyniad y bleidlais gychwynnol a gynhaliwyd gael ei wrthdroi a’i gynnwys yn y penderfyniadau fel ei fod ar gofnod.

 

O Blaid y cynnig i gynyddu’r Dreth Gyngor 4.95% – Y Cynghorwyr P. Baldwin, S. Behr, D. Bevan, K. Chaplin, M. Cross, H. Cunningham, S. Edmunds, G. Humphreys, R. Leadbeater, J. C. Morgan, C. Smith, T. Smith, S. Thomas, H. Trollope, D. Wilkshire, L. Winnett.

 

Yn Erbyn y cynnig i gynyddu’r Dreth Gyngor 4.95% – Y Cynghorwyr D. Davies, G. A. Davies, M. Day, J. Hill, W. Hodgins, J. Holt, J. Millard, J. P. Morgan, L. Parsons, G. Thomas, J. Wilkins.

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 1, sef:

 

ØCymeradwyo’r tybiaethau a ddefnyddiwyd i ddatblygu Amcangyfrifon Drafft 2025/2026 (paragraffau 5.1.4 i 5.1.10).

 

ØCymeradwyo’r pwysau o ran costau a nodwyd ym mharagraffau 5.1.11 i 5.1.17 ac a ddangoswyd yn nhabl 2 yn 5.1.8 mewn perthynas â’r canlynol:

 

-        y Cyngor - £2.3m

-        Ysgolion - £2.4m

-        Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin - £0.4m

 

ØBod y grantiau sy’n trosglwyddo i mewn i’r Setliad ar gyfer 2025/2026 yn cael eu pasbortio i’r gwasanaethau perthnasol fel a nodwyd ym mharagraff 2.8 ac a gynhwyswyd yn nhabl 2 yn 5.1.16.

 

ØCymeradwyo toriadau/arbedion effeithlonrwydd y gyllideb Pontio’r Bwlch ym mharagraffau 5.1.18 i 5.1.23.

 

ØCymeradwyo cynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/2026.

 

ØCymeradwyo’r SATC wedi’i diweddaru ar gyfer 2025/2026 i 2029/2030 a oedd wedi’i hatodi yn Atodiad 2.

 

 

6.

Cynnig – Gofal Iechyd Sylfaenol ym Mlaenau Gwent pdf icon PDF 48 KB

Ystyried y Cynnig a atodwyd.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Cynnig a enwir uchod.

 

Yn unfrydol,

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor:

 

-        Yn croesawu ymddiswyddiad y bartneriaeth meddygon teulu o bob meddygfa ym Mlaenau Gwent yr oedd ganddynt gontractau ar eu cyfer.

 

-        Yn credu bod cwestiynau’n bodoli o hyd yngl?n â dyfarnu a rheoli’r contractau hyn, yn enwedig mewn perthynas â phryderon a godwyd gan gleifion, staff practisiau, gweithwyr meddygol proffesiynol a chynrychiolwyr etholedig.

 

-        Yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r digwyddiadau hyn.

 

-        Yn erfyn ar y Gweinidog Iechyd Jeremy Miles i gomisiynu adolygiad brys o’r Contract Meddygon Teulu yng Nghymru.