Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Mae gofyn rhoi rhybudd o 3 diwrnod gwaith o leiaf os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu os gofynnir.
Cofnodion: Nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau wedi dod i law am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Eu cael.
Cofnodion: Roedd ymddiheuriad am absenoldeb wedi dod i law oddi wrth y Cynghorydd R. Leadbeater.
|
|
Datganiadau o Fuddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau o fuddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Hysbyswyd ynghylch y datganiad o fuddiant canlynol:
Eitem Rhif 5 – Canolfan Adnoddau Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig -Y Cynghorydd Lisa Winnett
Arhosodd yr Aelod yn y cyfarfod tra’r oedd yr eitem fusnes yn cael ei hystyried.
|
|
Eitem(au) Esempt Cael ac ystyried yr adroddiadau canlynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau esempt gan ystyried prawf budd y cyhoedd ac y dylid eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad i esemptio ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Cael ac ystyried yr adroddiadau canlynol a oedd, ym marn y swyddog priodol, yn eitemau esempt gan ystyried prawf budd y cyhoedd ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (roedd y rhesymau dros y penderfyniadau ar gyfer yr esemptiadau ar gael ar atodlen a gynhelir gan y swyddog priodol).
|
|
Canolfan Adnoddau Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Lisa Winnett fuddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod tra’r oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried.
Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch prawf budd y cyhoedd sef, at ei gilydd, bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.
PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod a oedd yn meddu ar yr wybodaeth honno) a chymeradwyo Opsiwn 3, sef bod y Cyngor yn datblygu Canolfan Adnoddau Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig ar gyfer y plant yr oedd arnynt angen lleoliad ym mis Medi.
|
|
Caffaeliad Arfaethedig Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch prawf budd y cyhoedd sef, at ei gilydd, bod budd y cyhoedd trwy gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd pe datgelid yr wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn esempt.
PENDERFYNWYD y dylid eithrio’r cyhoedd tra bo’r eitem fusnes hon yn cael ei thrafod gan ei bod hi’n debygol y byddai gwybodaeth yn cael ei datgelu sy’n esempt yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 14,, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.
Yn unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod a oedd yn meddu ar yr wybodaeth honno) a chymeradwyo Opsiwn 3, sef bod y Cyngor yn cytuno ar y caffaeliad fel yr oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
|