Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Iau, 29ain Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

Cynghorydd G. Collier

Cynghorydd L. Elias

Cynghorydd G. Paulsen

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

4.

Polisi Arfaethedig ar Weithio Ystwyth pdf icon PDF 520 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i’r polisi arfaethedig ar Weithio Ystwyth. Atgoffodd y Prif Swyddog Interim yr Aelodau fod y Cyngor wedi cytuno ar fodel gweithredu a threfniadau gwaith newydd y Cyngor ar 25 Mawrth 2021 oedd wedi cyflwyno model newydd o weithio ar draws y Cyngor. Mae’r trefniadau gweithio newydd yn cynnwys arferion gwaith modern a fyddai’n anelu i wella profiad gwaith gweithwyr, cynyddu perfformiad a chynhyrchiant a sicrhau’r gwerth mwyaf i’r sefydliad, yn ogystal â gwireddu buddion ariannol. Mae’r polisi Gweithio Hyblyg yn alluogydd allweddol wrth gyflwyno model gwaith y dyfodol ac mae hefyd yn gysylltiedig gyda gweledigaeth y Cyngor ar gyfer datblygu cynaliadwy sy’n cynnwys twf economaidd cynaliadwy a datgarboneiddio.

Amlinellodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a nododd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda’r undebau llafur. Dywedodd y bu cynrychiolydd undeb yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar 16 Ebrill 2021 er mwyn egluro sefyllfa’r undebau. Yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgor Craffu gofynnwyd am ddiwygio’r polisi i adlewyrchu’r adborth o’r ymgynghoriad ffurfiol gan yr undebau llafur fel sy’n dilyn:-

 

·      Y lwfans i weithwyr hyblyg i fod yn £15.60 y mis ac nid yn £12 fel yn y cynnig gwreiddiol

·      Yr holl weithwyr presennol a ddynodwyd fel gweithwyr cartref neu ystwyth i fedru defnyddio lwfans hyd at £200 i dalu am gost cadair a desg addas i amgylchedd cartref. Defnyddir y lwfans gyda chyflenwr cyngor cymeradwy neu gelfi wedi eu hailgylchu; ac

·      Unrhyw weithlu yn y dyfodol ar gyflog gradd 6 neu is a ddynodir fel gweithwyr cartref neu gweithwyr ystwyth i fedru defnyddio lwfans o hyd at £200 i dalu am gost cadair a desg addas i’r cartref. Defnyddir y lwfans gyda chyflenwr cyngor cymeradwy neu gelfi wedi ailgylchu.

      

Ychwanegwyd fod y Pwyllgor Craffu hefyd wedi awgrymu y dylid rhoi ystyriaeth i gyflwyno cymal cymdeithasol ar gyfer recriwtio yn y dyfodol i sicrhau fod y Cyngor yn cadw swyddi yn lleol. Dywedwyd y cafodd y cais hwn ei ystyried ac mai’r cyngor cyfreithiol oedd fod cais o’r fath yn achosi risg o wahaniaethu anuniongyrchol posibl. Dywedodd y Prif Swyddog Interim yn unol â pholisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth y Cyngor mai nod y Cyngor yw cael gweithlu amlddiwylliannol amrywiol ac y cyflawnir hynny yn rhannol drwy ymarferion recriwtio. Gallai cynnwys cymal cymdeithasol o fewn y polisi recriwtio o bosibl fod yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol ac felly argymhellwyd peidio cynnwys y cymal cymdeithasol.

 

Yn nhermau gweithredu’r Polisi, dywedodd y Prif Swyddog Interim mai’r cyngor gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd oedd parhau i weithio gartref. Fodd bynnag, os cymeradwyir y polisi, cytunir ar ddyddiad ‘mynd yn fyw’ yn unol gyda’r rheoliadau Covid-19 cyfredol.

 

Ar y pwynt hwn, croesawodd y Prif Swyddog Masnachol gwestiynau/sylwadau gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod os yw’r taliadau a wneir i staff yn debyg i awdurdodau eraill. Ni wyddai’r Prif Swyddog Interim Masnachol am daliadau a wneir mewn awdurdodau eraill  ...  view the full Cofnodion text for item 4.