Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Llun, 8fed Chwefror, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Councillor.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiad buddiant na goddefebau.

 

4.

Ffioedd Trwyddedau Anstatudol 2021/22 pdf icon PDF 444 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu am yr adroddiad a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am y ffioedd trwydded a gynigir ar gyfer 2021/22 yng nghyswllt tacsis, metel sgrap, masnachu stryd a sefydliadau rhyw. Dywedwyd y cafodd y ffioedd eu penderfynu gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol i’w craffu.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau at yr opsiwn a ffafrir, sef cadw’r ffioedd presennol ar gyfer 2021/2022 er mwyn cefnogi busnesau a’r cyhoedd yn ehangach yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn. Fodd bynnag, soniodd y Rheolwr Tîm am y goblygiadau i’r gyllideb a dywedodd fod pwysau cost ar incwm y Pwyllgor Trwyddedu o £33,000 ar gyfer 2020/21 ar hyn o bryd. Ni chafodd y Gyllideb Incwm ei chynyddu ar gyfer 2021/22 ac felly byddai’r pwysau cost yn parhau os na eir i’r afael â hi ac felly gallai o bosibl waethygu pe byddai nifer y trwyddedau y gwneir cais amdanynt yn gostwng. Er mai’r opsiwn a ffafrir yw cadw’r ffioedd presennol teimlai ei bod yn bwysig dangos i’r Pwyllgor beth fyddai’r goblygiadau ar y gyllideb.

 

Dywedwyd, er ei bod yn arferol cynnal ymgynghoriadau ar gynnydd ffioedd, nad oedd angen ymgynghori pan nad oes unrhyw newidiadau i ffioedd.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu a Safonau Masnach y ffioedd a amlinellir yn yr atodiadau.

 

Croesawodd Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol rewi ffioedd trwyddedu a chytuno ei bod yn amser anodd i fusnesau. Mae’n bwysig fod yr Awdurdod Lleol yn cefnogi’r busnesau hyn ac felly

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n cefnogi’r cynnig i gadw lefelau ffioedd 2020/21 yn 2021/22.

 

5.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

6.

Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu..

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu, yn cynnwys:-

 

Cais am Drwydded Newydd Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r cais am drwydded newydd gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat.

 

Cyflwynwyd yr Ymgeisydd i Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod yr ymgeisydd am drwydded newydd a chyflwynodd gais yr Ymgeisydd i’r Aelodau.

 

Wedyn gwahoddodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd i gyflwyno ei achos.

 

Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at ddigwyddiadau ar ei gais a theimlai ei fod yn awr wedi aeddfedu a bod ei ymddygiad blaenorol tu ôl iddo.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd yr Ymgeisydd ei resymau pam na ddylai’r Pwyllgor ddiddymu ei Drwydded.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd iddo wneud cais am y drwydded i ddarparu ar gyfer ei deulu ac roedd wedi gobeithio, wrth i’r busnes tyfu, y gallai gynnwys bysus gan fod ganddo hefyd drwydded bws.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd Aelodau nifer o gwestiynau yng nghyswllt digwyddiadau ar ei gais a’r hyfforddiant/gyrru bws a wnaed gan yr Ymgeisydd.

 

Cafodd y cwestiynau eu hateb gan yr Ymgeisydd a Swyddogion.

 

Gadawodd yr Ymgeisydd a’r Swyddogion Trwyddedu y cyfarfod ar y pwynt hwn i Aelodau ystyried y cais.

 

Penderfynodd y Pwyllgor y cais yn faith a gwnaed penderfyniad a gwahoddwyd yr Ymgeisydd a’r Swyddogion yn ôl i’r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Aelodau wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r cais a gofynnodd i’r Cyfreithiwr ddarllen yn uchel benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel sy’n dilyn:

 

Mae’r cais gerbron y pwyllgor ar gyfer trwydded newydd gyrrwr Cerbyd Hacni a Cherbyd Hur Preifat. Hysbysodd y Swyddog Trwyddedu yr Aelodau na fu gan yr Ymgeisydd y math yma o drwydded o’r blaen.

 

Nododd y Pwyllgor o’r gofnod DBS a ddangoswyd iddynt heddiw fod gan yr Ymgeisydd nifer o euogfarnau blaenorol. Esboniodd yr Ymgeisydd amgylchiadau’r trwyddedau i’r Aelodau oedd yn bresennol.

 

I liniaru, yng nghyswllt y troseddau, dywedodd yr Ymgeisydd i’r prif droseddau ddigwydd amser maith yn ôl pan oedd yn ddyn ifanc a’i fod bellach wedi aeddfedu gyda phlentyn ifanc i’w ystyried.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gerbron y Pwyllgor heddiw wrth ddod i benderfyniad ac ystyriodd hefyd yr euogfarnau blaenorol a’r sylwadau a wnaed gan yr Ymgeisydd. Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd ystyried y sylwadau a wnaed gan y Swyddogion Trwyddedu oedd yn bresennol ac ystyried polisi euogfarnau y Cyngor a’r amodau canllawiau yn ymwneud â Thrwyddedau Gyrwyr Cerbyd Hacni a Thrwyddedau Gyrwyr Cerbydau Hur Preifat. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth neilltuol i natur y trwyddedau, pa mor  ...  view the full Cofnodion text for item 6.