Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Nodyn: Oherwydd nam technegol nid oes recordiad o’r cyfarfod hwn ar gael
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Adroddwyd ymddiheuriad am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd B. Willis, oedd yn cael anawsterau technegol wrth ymuno â’r cyfarfod, a’r Prif Swyddog Masnachol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 245 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig). Cofnodion: I dderbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020, yn cynnwys:-
Baddonau Pen Pwll Llanhiledd
Dilynodd trafodaeth fer pan ofynnodd y Cadeirydd am eglurdeb pam y cyflwynwyd y cofnodion i gyfarfod ‘arbennig’ o’r Pwyllgor.
Mynegodd Aelod bryder nad yw’r cofnodion yn rhoi adlewyrchiad cywir o’r drafodaeth a gynhaliwyd, ac yn methu cyfleu sylwadau a wnaeth am bryderon am hyfywedd y prosiect. Deallai y cafodd trydydd opsiwn ei gyflwyno h.y. cael trafodaethau pellach gyda’r perchennog. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith y cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol, ac yna cyhoeddwyd datganiad i’r wasg ar y mater, a theimlai fod y broses Craffu wedi ei bychanu.
Cytunodd Aelod arall a dywedodd nad yw’r cofnodion yn sôn am gwestiynau a gododd yn y cyfarfod ac yn ei farn ef nid yw’r cofnodion yn adlewyrchiad cywir o’r drafodaeth ac na fedrai eu cefnogi.
Dywedodd y Swyddog Craffu fod yr adroddiad a ystyriwyd yn adroddiad eithriedig, sy’n cyfyngu natur y drafodaeth y gellid ei rhoi yn y cofnodion.
Dywedodd Aelod mai ei ddealltwriaeth ef bod y Pwyllgor wedi cytuno ar Opsiwn 2 sef symud i’r cam nesaf i baratoi cynllun busnes, ac y byddai’r cam nesaf yn cynnwys yr holl faterion a godwyd gan Aelodau. Teimlai fod y cofnodion yn adlewyrchiad gwir o’r hyn a gytunwyd gan y Pwyllgor Craffu.
Cytunodd y Pwyllgor Craffu a chadarnhaodd y byddai Swyddogion yn rhoi ystyriaeth i bryderon pob Aelod wrth ddatblygu’r achos busnes.
Mewn ymateb dywedodd Aelod fod angen eglurdeb yn nhermau cofnodi trafodaethau ar wybodaeth eithriedig.
Dywedodd Aelod arall fod y Pwyllgor Craffu wedi esbonio pam fod manylion y drafodaeth yn gyfyngedig ac yn ei farn ef mae’r cofnodion yn adlewyrchu’r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod. Yn nhermau’r argymhelliad, roedd wedi cynnig opsiwn 2 fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a chafodd hynny ei eilio.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y cofnodion yn dweud y caiff pryderon Aelodau eu trin fel y cam nesaf, a chredai ef hefyd fod y cofnodion yn gywir yn nhermau’r hyn y gellid ei ddogfennu.
Mewn pleidlais, Derbyniodd 5 aelod y cofnodion fel cofnod gywir. Pleidleisiodd 3 aelod yn erbyn derbyn y cofnodion.
CYTUNODD y pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 8 Medi 2020 PDF 94 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn eillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Yr Economi – Aderiad Economaidd yn dilyn Covid-19 PDF 739 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.
Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu yr adroddiad sy’n nodi’r strategaeth arfaethedig ar gyfer Blaenau Gwent mewn ymateb i bandemig COVID-19, er mwyn cefnogi’r sectorau a busnesau yn y Fwrdeistref Sirol a rhoddodd ddiweddariad ar y gwaith sy’n mynd rhagddo’n lleol, ac yn bwydo i’r cynlluniau rhanbarthol.
Cyfeiriodd y Swyddog at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru a chadarnhaodd fod yr Awdurdod yn dal i fod yn y dull ymateb, a dywedodd ei bod yn bwysig sicrhau fod yr Adran yn parhau i ddatblygu’r gwaith rhagweithiol sy’n mynd rhagddo, ynghyd â gweithgareddau adfer.
Mae pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo dilynol wedi ymyrryd ar fusnesau a chyflogaeth ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig, gan achosi problemau tymor byr a thymor hir ar draws llawer o sectorau. Mae’r adroddiad yn edrych ar gefndir data a gasglwyd gan wahanol sefydliadau a melinau trafod a gweithredu modelu i edrych ar y ffigurau diweithdra posibl ar gyfer Blaenau Gwent. Mae hefyd wedi ystyried yr holl fusnesau sydd angen cymorth a’r rhai a allai ychwanegu mwyaf i’r economi lleol ar gyfer y dyfodol.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Yn nhermau’r ymagwedd strategol, mae hyn yn cynnwys cyfuniad o gamau gweithredu tymor byr a thymor hirach mewn amrywiaeth o sectorau a phartneriaid i gynorthwyo gyda chyflenwi effeithlon. Byddai’r prif feysydd, a restrir islaw, yn galw am ddull gweithredu rhanbarthol neu Gymru-gyfan, lle byddai angen i Flaenau Gwent ddylanwadu ar y gwaith adferiad economaidd:
• Cyngor technolegol, buddsoddiad a sgiliau gweithgynyrchu • Rhaglen sgiliau digidol ar draws pob sector • Cefnogaeth cadwyn gyflenwi, safleoedd ac adeiladau (cyfleusterau ar-draeth) • Cymorth penodol ar gyfer cwmnïau twf ac ymchwil a datblygu ym Mlaenau Gwent • Cynlluniau a ddynodir ar gyfer hyfforddiant cysylltiedig â gwaith 18-24 ôl-addysg (e.e. FJF) • Adeiladu’r Economi Sylfaen • Ehangu hygyrchedd drwy ddatrysiadau trafnidiaeth arloesol/ cynaliadwy • Galluogi mwy o fusnesau newydd yn arbennig yng nghanol trefi ac ar-lein • Cynnydd gyda’r cyfleuster profi fel buddsoddiad angor i wynebu’r dyfodol ym Mlaenau Gwent
Cadarnhaodd y Swyddog fod y gwaith eisoes wedi dechrau ar nifer o gynlluniau a hefyd y cafodd nifer o brosiectau eu hailweithio i roi ystyriaeth i’r hyn fydd ei angen ar ôl COVID-19.
Rhoddodd y Rheolwr Arloesedd Busnes drosolwg manwl o weithgaredd ymgysylltu a’r gefnogaeth ariannol a roddwyd i fusnesau ers 17 Mawrth 2020.
Mewn ymateb i gwestiwn am gapasiti o fewn yr Adran, dywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod yr Adran yn gweithio i gapasiti i gyflenwi prosiectau a bod partneriaid y Cyngor hefyd wedi bod yn cynorthwyo.
Holodd Aelod arall os derbyniwyd unrhyw ddiddordeb yng nghyswllt Cwm Technoleg.
Cadarnhaodd y Swyddog y daeth ymholiadau i law a bod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau na chollwyd y diddordeb hwnnw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr unedau yn Roseheyworth, cadarnhaodd y Rheolwr Arloesedd Busnes y cafodd pob un o’r 4 uned eu cwblhau gyda phrydlesau wedi eu llofnodi ar 3 o’r unedau ... view the full Cofnodion text for item 6. |