Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 15fed Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr S. Healy ac M. Cross.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 140 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbenig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 243 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 30 Mehefin 2021 pdf icon PDF 197 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2021.

 

Mannau Gwefru Cerbydau Trydan

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio fod y Cyngor wedi derbyn dau gerbyd tacsi trydan. Mae trefniadau ar gyfer rheoli’r cerbydau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd, ac unwaith y bydd hyn yn ei le byddai’r cerbydau’n barod i’w defnyddio. Dywedodd y Swyddog y byddai’n hysbysu Aelodau pan mae’r tacsis yn weithredol.

 

Buddsoddiad Bwrdeisiol Cymunedol

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog fod y ffi gweinyddiaeth yn swm unwaith yn unig.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

7.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 210 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021.

 

CYTUNWYD i gadarnhau’r cofnodion.

8.

Adroddiad cynnydd ar y Cynllun Datgarboneiddio pdf icon PDF 589 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adroddiad cynnydd cyntaf ers mabwysiadu Cynllun Datgarboneiddio’r Cyngor a datgan Argyfwng Hinsawdd ar 24 Medi 2020. Mae’r Cynllun yn amlinellu sut y bwriadwn gyflawni ein hymrwymiad i’r uchelgais bod sector cyhoeddus Cymru yn cyflawni sero-net erbyn 2030. Mae’n amlinellu sut y gallem ostwng  allyriadau’r Cyngor mewn naw cyfnod pontio, a amlygir yn adran 2.3 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y gwnaed llawer o waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i geisio sefydlu datgarboneiddio yn y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu fel sefydliad, ac mae crynodeb yn adran 2.4 yr adroddiad yn dangos fod yn dal lawer o waith i’w wneud er ein bod yn gwneud cynnydd da.

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr wedyn drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai cyfle am gymorth ariannol gan WRAP i addasu ein fflyd a gwaith yn ein Canolfannau Ailgylchu.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y gwnaed gwaith da dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac i’r Cyngor lwyddo cynyddu ei gyfraddau ailgylchu a bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr agenda datgarboneiddio ac yn cael ei gydnabod gan Gynulliad Dinasyddion Newid Hinsawdd. Yn nhermau’r camau nesaf a datgarboneiddio ein fflyd, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod WRAP yn hwylusydd, ac felly byddai unrhyw gyllid posibl yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae’n edrych ymlaen at gyhoeddi Cynllun Cymru Sero yn yr wythnosau nesaf i weld pa gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei rhoi yn y Cynllun i’n helpu i gyflawni ei thargedau.

 

Cadarnhaodd Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y gwnaed gwaith gyda Gwasanaethau Cymunedol i adolygu ein fflyd ac y cynhaliwyd dadansoddiad hefyd o gerbydau/technoleg sydd ar y farchnad ar hyn o bryd a fyddai’n addas i’r Fwrdeistref. Teimlai fod y Cyngor mewn sefyllfa dda i gyflwyno cynigion ac achos busnes pan ddaw cyllid ar gael.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn falch gyda’r cynnydd a wnaed ers i’r Cynllun gael ei fabwysiadu gan y Cyngor a theimlai fod y Cyngor yn rhagweithiol a chanmolodd bawb a fu’n ymwneud â Chynulliad Dinasyddion Newid Hinsawdd Blaenau Gwent. Gofynnodd sut mae’r Cyngor yn bwriadu datblygu argymhellion y Cynulliad Dinasyddion.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod ymateb a brwdfrydedd swyddogion i gymryd rhan yn ardderchog. Rhoddir adroddiad maes o law ar ymateb y Cyngor i argymhellion y Cyngor a gelwir cyfarfod arbennig o’r Tîm Rheoli Corfforaethol ehangach i ystyried yr argymhellion ac edrych ar yr hyn a wnawn ar hyn o bryd a lle mae angen mwy o weithredu mewn ymateb i’r hyn mae ein preswylwyr yn ei ddweud wrthym. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus ym Mlaenau Gwent ac mae’n hyderus y byddai’r gwaith yn rhoi canlyniadau da a chamau gweithredu ar gyfer y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at dechnoleg ynni adnewyddadwy a dywedodd fod y cwmpas oes bras ar gyfer fferm wynt tua 20 mlynedd. Gofynnodd beth fyddai’n digwydd i’r safleoedd hyn pan nad  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Perfformiad Adfywio a Datblygu pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad gweithgaredd gwasanaeth blynyddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2020 i Gorffennaf 2021. Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol drwy’r adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at drafodaethau blaenorol yng nghyswllt yr Archwiliad Coffa a aeth drwy Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020, a gofynnodd pryd y gellid disgwyl adroddiad ar hyn.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’n ymchwilio.

 

Holodd Aelod arall am y canran cyfredol o anheddau ar rent o gymharu â pherchnogaeth cartrefi ac os mai mwy o dai cymdeithasol neu dai preifat sydd fwyaf o’u hangen yn y Fwrdeistref.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod sicrhau cydbwysedd yn allweddol wrth ddiwallu anghenion y gymuned a chael y cyfuniad cywir o gartrefi i ddiwallu’r anghenion hynny. Yn nhermau’r canran o anheddau rhent, dywedodd fod hyn tua 30% yn cynnwys landlordiaid cymdeithasol a rhent preifat. Cadarnhaodd y defnyddiwyd yr Asesiad Anghenion Marchnad Tai i ddynodi tueddiadau a gofynion sy’n dod trwodd, a bod galw ar hyn o bryd o bobl sydd eisiau symud i Flaenau Gwent a hefyd ar gyfer pobl sy’n dymuno symud lan yr ysgol eiddo sydd wedi ysgogi diddordeb gan ddatblygwyr tai preifat, fodd bynnag mae’n bwysig peidio colli golwg ar anghenion ein cymuned bresennol. Cadarnhaodd y byddai’r Asesiad Anghenion Tai Marchnad yn dod i’r Pwyllgor Craffu maes o law i sicrhau fod y cydbwysedd a’r dealltwriaeth gywir o alw y dyfodol gennym.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cymunedau Cysylltiedig y byddid yn annog ymagwedd mwy cyfunol at ddatblygiadau tai newydd yn y dyfodol h.y. cymysgedd o gynnyrch rhent cymdeithasol a chanolraddol, a hefyd berchnogaeth cartrefi cost isel.

 

Gofynnodd Aelod hefyd faint o dai gwag hirdymor sydd yn y Fwrdeistref ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y ffigur hwn tua 800-900 annedd wag ar hyn o bryd. Mae nifer o gynlluniau i ostwng y ffigur hwn, e.e. llai o ostyngiad eiddo gwag, a hefyd mae rhaglen grantiau a benthyciadau prysur iawn yn ei lle i ddod ag anheddau gwag yn ôl  i ddefnydd. Yn 2019/20 daeth 56 o anheddau yn ôl i ddefnydd, fodd bynnag mae’r rhif hwn yn llai yn ystod 2021 oherwydd adleoli staff mewn ymateb i bandemig Covid. Fodd bynnag, mae llai o anheddau gwag am gyfnod o 6 mis sy’n golygu fod y gwaith sy’n mynd rhagddo yn y maes hwn yn fuddiol.

 

Mynegodd Aelod bryder am effaith y cynnydd rhent unedau busnes y Cyngor, oedd wedi arwain at i rai fusnesau adael y Fwrdeistref. Teimlai hefyd nad oedd yr unedau newydd yn Box Works wedi eu hysbysebu’n ddigonol.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Aelodau yn gwybod y cyflwynwyd tâl gwasanaeth ar gyfer ein hunedau busnes er mwyn dod yn sefydliad mwy masnachol ac i reoli ein hunedau yn fwy effeithlon. Er bod hynny wedi arwain at gynnydd yn y rhent ar gyfer defnyddwyr, maent yn awr yn cael gwasanaeth gwell. Dywedodd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Buddsoddiad mewn Datblygu Micro-Hydro pdf icon PDF 546 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd ar Astudiaeth Dichonolrwydd Micro-Hydro ar gyfer wardiau Cwm a Llanhiledd, a gofynnodd am gefnogaeth ar gyfer y camau nesaf ar gyfer rhan hon y Prosiect.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn siomedig na fyddid yn symud ymlaen â’r prosiect a gofynnodd os oedd yn bosibl cymryd cynnal cynllun prawf mewn un lleoliad yn y Fwrdeistref.

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio ei fod yn gynllun da, fodd bynnag oherwydd costau’r dechnoleg a chostau grid ar hyn o bryd, ni fyddai’r cynllun yn cynnig yr adenillion ariannol y byddai’r Cyngor yn eu disgwyl. Fodd bynnag, os yw’r grwpiau cymunedol ac yn y blaen yn sicrhau cyllid, gellid cynnig astudiaethau dichonolrwydd a gallai’r Cyngor gefnogi’r sefydliadau hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor argymell derbyn yr adroddiad a bod y Cyngor wedi dewis peidio mynd â’r cynlluniau hyn ymlaen ar gyfer eu hymchwilio a’u datblygu ymhellach. Byddai’r prosiectau yn cael eu cau o’r pwynt cyfredol a dim ond os y bydd costau’n gostwng yn sylweddol neu y daw technolegau newydd ar gael y byddir yn edrych ar y mater eto (Opsiwn 1).

 

11.

Dull Darparu Partneriaeth – Canol Trefi pdf icon PDF 488 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleodd Adfywio yr adroddiad sy’n ceisio cefnogaeth ar gyfer ffurfio Byrddau Ymgynghori Canol Tref ar draws canol trefi Abertyleri, Brynmawr a Glynebwy i gefnogi dull darparu partneriaeth ar gyfer darpariaeth prosiect yn y dyfodol.

 

Mynegodd Aelod bryder y cafodd Blaenau ei adael allan o’r adroddiad.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog y cafodd Blaenau ei adael allan oherwydd yr adnoddau presennol o fewn y Tîm. Fodd bynnag, y bwriad yw sefydlu Bwrdd Ymgynghori Canol y Dref i Blaenau yn y dyfodol a dywedodd y Swyddog y byddai’n diwygio’r adroddiad i gynnwys blaenau cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Dilynodd trafodaeth am gynrychiolaeth ar y Byrddau Ymgynghori am bwysigrwydd pawb yn gweithio tuag at y deilliannau a gwelliannau gorau ar gyfer eu trefi.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn ychwanegol at ychwanegu Blaenau, i dderbyn yr adroddiad; a

 

·         Bod Aelodau yn cefnogi ac yn argymell cymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol i ffurfio cyfres o fyrddau ymgynghori ar gyfer canol trefi Abertyleri, Brynmawr a Glynebwy yn seiliedig ar ddull gweithredu Bwrdd Ymgynghori Tredegar ac yn cydnabod y drafft gylch gorchwyl (Atodiad Un). Bydd y Bwrdd Ymgynghori yn gweithredu fel corff ymgynghori i oruchwylio datblygiad a chyflenwi strategaethau a chynlluniau canol trefi.

 

·         Bydd pob un yn dechrau gydag aelodaeth fach a ddynodir gan aelodau’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi wrth ochr swyddogion. Gellir wedyn ymestyn yr aelodaeth a’i ddatblygu ymhellach wrth i drafodaethau ddatblygu (Opsiwn 1).

 

 

12.

Blaenraglen Gwaith: 3 Tachwedd 2021 pdf icon PDF 396 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhelir ar 3 Tachwedd 2021.

 

Dywedwyd y byddid yn symud adroddiad Cynllun Creu Lleoedd Tredegar i gyfarfod mis Rhagfyr.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer 3 Tachwedd 2021.