Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 30ain Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd B. Willis a’r Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 230 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 7 y cyfarfod, h.y. ymateb y Swyddog i gwestiwn gan Aelod am y gwelliannau i’r ddolen reilffordd a’r benthyciad o £70m. Dywedodd iddo wrando ar y recordiad o’r cyfarfod a dywedodd na chyfeiriodd y Swyddog at y £70m yn ei hymateb, ond dywedodd fod ‘hwn yn arian ar wahân i bob awdurdod lleol i weithio ar brosiectau wrth ochr adnewyddu’r rheilffordd’.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 28 Ebrill 2021 pdf icon PDF 216 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021, yn cynnwys:-

 

Adolygu Perfformiad Ch4 202/21 Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 8 cofnodion y cyfarfod blaenorol pan ofynnodd Aelod pwy fyddai’n gyfrifol am unrhyw ddiffyg yn y cyllid pe na fyddai nifer y teithwyr yn cyrraedd yr ad-daliadau benthyciad.  Gan na fedrai’r Swyddog ymateb bryd hynny, dywedodd y gofynnwyd i hynny gael ei nodi fel pwynt gweithredu.

 

Lleoliadau ar gyfer mannau gwefru trydan

 

Dywedodd Aelod nad oes unrhyw leoliadau wedi eu dynodi ar gyfer Tredegar ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb esboniodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio mai’r rhain oedd y safleoedd gwreiddiol a ddynodwyd fel y rhai mwyaf fforddiadwy dan y cyllid ar gyfer y cynllun. Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda’r Fargen Ddinesig ar gyfer mannau gwefru ychwanegol, i gynnwys Tredegar a hefyd ddarparu mannau gwefru mewn safleoedd tacsi ledled y Fwrdeistref.

 

Dywedodd y Swyddog na wyddai faint yn fwy yn union o fannau gwefru ychwanegol oedd ar hyn o bryd, ond dywedodd fod cwmnïau sy’n barod i’w gosod yn rhad ac am ddim am elw masnachol, ac mae’r dewis hwn hefyd yn cael ei ymchwilio. Fodd bynnag, mae’n debygol y byddai o leiaf 2 fan gwefru ym mhob safle tacsi.

 

Gofynnodd Aelod os gallai aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio’r mannau gwefru mewn safleoedd tacsi. Atebodd y Swyddog fod hyn yn annhebygol am resymau diogelwch gyda symudiad tacsis ac yn y blaen a gofynion y gorchmynion rheoleiddio traffig fyddai eu hangen. Dywedodd y Swyddog hefyd fod arwyddion yn rhan o’r rhaglen ac y byddai’r rhain yn cael eu codi cyn i’r mannau gwefru fynd yn fyw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y byddai nodyn gwybodaeth ar fannau gwefru cerbydau trydan yn fanteisiol i Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod am ymgynghori gydag Aelodau Ward ar y lleoliadau a gynigir ar gyfer mannau gwefru o hyn ymlaen. Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y cynhelir ymgynghoriad gydag Aelodau cyn dynodi unrhyw ardaloedd.

 

Yng nghyswllt Sesiwn Briffio Aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr corfforaethol nad yw Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau dyddiad hyd yma.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 388 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Blaenraglen Gwaith arfaethedig y Pwyllgor Craffu ar gyfer 2021-22.

 

Awgrymodd Aelod y dylid gohirio Adroddiad Aneurin Bevan i ddigwydd ar yr un pryd â chyflwyno Adroddiad Canol Tref Tredegar/Adroddiad Treftadaeth Tref. Awgrymwyd y dylid cynnig ymweliad i 10 Y Cylch pan godir  cyfyngiadau.

 

Dywedodd Aelod arall y dylid cyflwyno adroddiad ar unedau masnachol y Fwrdeistref ynghynt, yng ngoleuni problemau diweddar oherwydd y trefniadau prydles newydd.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na chaiff manylion trefniadau rhwng y Cyngor a chwmnïau unigol eu cynnwys yn adroddiad blynyddol Perfformiad Eiddo Diwydiannol. Mae’r adroddiad yn rhoi’r sefyllfa gyffredinol yn nhermau adolygu prydlesau a nifer y bobl sydd wedi trosi i’r trefniadau prydles newydd fel rhan o’r rhaglen Pontio’r Bwlch  a gytunwyd gan y Cyngor. Fodd bynnag, gellid llunio adroddiad penodol ar drefniadau prydles a’r hyn a gytunwyd gan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cyflwyniad diweddar i Aelodau ar y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a’r Gronfa Rhannu Ffyniant a gofynnodd am adroddiad ar y cynigion am y Gronfa Codi’r Gwastad i’r Pwyllgor Craffu cyn ei gyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gobeithir derbyn penderfyniad ar y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer y Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf a chyflwynir adroddiad ar y cynigion cymeradwyo i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi.

 

Yng nghyswllt cynigion i Gronfa Codi’r Gwastad, bydd adroddiadau ar wahân arnynt i’r Pwyllgor Craffu yn ceisio cytundeb ar y math o brosiectau a gyflwynir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai diwedd mis Gorffennaf oedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion ar gyfer y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, ond ni fedrai roi dyddiad penodol.

 

Yng nghyswllt Cronfa Codi’r Gwastad, ni fedrai roi dyddiad cau ar gyfer cylch nesaf y cynigion, fodd bynnag bydd y Gronfa yn dod i ben yn 2023/24. Tanlinellodd hefyd ei bod yn bwysig mai dim ond cynigion sy’n barod i fynd a gyflwynir gan ei bod yn broses gystadleuol iawn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol na fedrai roi unrhyw fanylion am y Gronfa Rhannu Ffyniant, ond mae’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn rhagflaenydd posibl i’r Gronfa honno. Fodd bynnag, nid oedd cais llwyddiannus i’r CRF yn golygu mynediad awtomatig i gyllid Rhannu Ffyniant. Rhoddodd sicrwydd y caiff Aelodau eu hysbysu pan ddaw mwy o wybodaeth ar y gronfa Rhannu Ffyniant i law.

 

Gofynnodd Aelod am adroddiad am nifer y swyddi a gafodd eu creu/colli ac effaith pandemig Covid ar lefelau diweithdra ym Mlaenau Gwent.

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio bod yr wybodaeth hon yn cysylltu gydag adroddiad adfer Covid-19 ymhellach ar yr agenda yn nhermau adeiladu dulliau i fonitro sut mae gwaith y Cyngor yn cefnogi’r gymuned mewn creu swyddi a diogelu swyddi.

 

Dywedodd yr Aelod y byddai adroddiad blynyddol ar ffigurau swyddi yn ddefnyddiol, a dywedodd y Swyddog y gellir amlygu’r wybodaeth hon o fewn dulliau adrodd perfformiad rheolaidd.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad Cynllun Datblygu Lleol Newydd Blaenau Gwent, a gofynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Buddsoddiad Bwrdeisiol Cymunedol pdf icon PDF 522 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n gofyn am gymeradwyaeth i symud ymlaen gyda Buddsoddiad Ynni Cymunedol fel offeryn ariannol i gyllido seilwaith cynhyrchu ynni carbon isel a thechnoleg i ddarparu a gwres i breswylwyr a busnesau Blaenau Gwent.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau a gynhwysir ynddo.

 

Gofynnodd Aelod os byddai’r Cyngor yn dal i fedru cael mynediad i gyllid yr Undeb Ewropeaidd, a pha enilliad y gallai pobl ei ddisgwyl ar eu buddsoddiad.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog y byddai Sesiwn Briffio i Aelodau ar gyllid Ewropeaidd yn fanteisiol. Yn nhermau’r cyllid hwn, roedd yn wreiddiol drwy Horizon 2020 ac er bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, roedd cytundeb y gallai’r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn y trefniant cyllid hwn. Roedd hyn hefyd yn wir am Horizon European, ei olynydd yn y rhaglen.

 

Yn nhermau cyfradd yr adenilliad y gellid ei ddisgwyl, mater i’r Cyngor yw penderfynu hyn. Anelwyd iddo fod yn is na chyfradd Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus sy’n tueddu i fod rhwng 2-4%. Byddai’r Cyngor yn cytuno ar gyfradd ychydig yn is na hynny, a dyna fyddai’r enilliad i breswylwyr.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.4 yr adroddiad a gofynnodd os y gellid defnyddio’r gronfa bondiau i ddarparu benthyciadau.

 

Dywedodd y Swyddog fod y gronfa bondiau o fudd i’r Cyngor i’w defnyddio yn hytrach na mynd i fanc neu fenthyca darbodus.

 

Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at adran 2.5 a gofynnodd pwy fyddai’n gyfrifol am gymeradwyo prosiectau.

 

Dywedodd y Swyddog fod Awdurdodau wedi cymryd y dull o nodi prosiect penodol, neu gallai’r Cyngor fod eisiau cymryd dull mwy cyffredinol a dywedodd y byddai arian yn mynd at nifer o brosiectau a gynhwysir o fewn ein Prosbectws Ynni, gyda sicrwydd achos busnes. Fodd bynnag, byddai’r risg gyda’r Cyngor i gynnal y prosiectau hyn a bod â’r arian i ad-dalu’r benthyca, felly mae’n bwysig peidio cyrchu unrhyw arian nes fod prosiectau’n barod i fynd rhagddynt. Gellid defnyddio strwythurau arferol y Cyngor i reoli’r broses honno.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr effaith bosibl ar brosiectau pe byddai buddsoddwr yn penderfynu tynnu eu harian.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog y byddai bondiau fel arfer yn cael eu buddsoddi am gyfnod penodol, 5 mlynedd fel arfer. Fodd bynnag, pe byddai buddsoddwr eisiau tynnu eu harian byddai’n mynd yn ôl i’r llwyfan drwy Abundance a byddai’r bond yn cael ei ailhysbysebu.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan eglurodd y Swyddog y pwyntiau a godwyd gan Aelodau.

 

Mynegodd Aelod bryderon am yr effaith ariannol ar yr Awdurdod pe byddai’r cwmni yn methu, a gofynnodd os y byddai’r cyllid yn cael ei warantu.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog fod y cwmni yn llwyfan i hwyluso’r buddsoddiad ac mae’r arian ar gyfer y Cyngor i’w fuddsoddi. Methiant y Cyngor i gyflawni’r prosiect oedd y risg fwyaf i fuddsoddwyr, fodd bynnag caiff hyn ei wneud yn glir fel rhan o’r prosesau diwydrwydd dyladwy a thrafodaethau gyda’n Hadran Gyfreithiol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Datblygu Model Ynni Busnes i alluogi parciau busnes i sicrhau canlyniadau sero net pdf icon PDF 849 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi manylion cefndir y prosiect ac y gwneir cynnydd fel arddangosydd o Raglen Byw yn Glyfar Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o brosiect WBRID (‘Whole System Business Research Innovation for Decarbonisation’) a throsolwg o gystadleuaeth WBRID Blaenau Gwent.

 

Croesawodd Aelodau yr adroddiad.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

9.

Adferiad Covid-19 - Economi pdf icon PDF 429 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi crynodeb i Aelodau o’r gwaith a wnaethpwyd a’r cynigion i gefnogi ‘adferiad’ economaidd o fewn Blaenau Gwent.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod y byddai wedi hoffi gweld cysylltiad gyda rhaglenni cyflogadwyedd presennol ym Mlaenau Gwent a allai roi cyfleoedd hyfforddiant i helpu busnesau i ddynodi unrhyw fwlch sgiliau yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio fod gan y Cyngor berthynas dda iawn gyda nifer o bartneriaid yn y maes hwn ac y byddai rhwydweithiau presennol yn dal i chwarae rhan allweddol yn y gwaith.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at sylwadau flaenorol a dywedodd y byddai’n ddiddorol gwybod faint o fusnesau sy’n dal i weithredu cyn pandemig Covid a faint sy’n dal i fod yn gweithredu.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod dadansoddiad o’r data hwn yn rhan allweddol o’r gwaith a wneir ar hyn o bryd yn nhermau dynodi effaith Covid ar fusnesau lleol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.