Agenda and minutes

Arbennig, Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 9fed Mehefin, 2021 11.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd L. Parsons a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad dilynol o fuddiant:

Cynghorydd G. Paulsen – Eitem Rhif 5 Cronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF)

 

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y bydd cyfarfodydd y dyfodol yn parhau i gychwyn am 10.00 a.m.

 

5.

Gwybodaeth Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniadau am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

6.

Cronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF)

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cymunedau Cysylltiedig yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a’r broses asesu prosiectau lleol gysylltiedig. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r rhestr fer o brosiectau arfaethedig a fyddai’n ffurfio cais CRF Blaenau Gwent i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn argymell fod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i ymgyfraniad CBSBG yn y Cynnig Prosiect Cyflogadwyedd Rhanbarthol (CELT). Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad yng nghyswllt Cronfa Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig a pharatoi cyflwyniad y Cyngor, a bydd adroddiad pellach ar fanylion y cynnig hwn.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu’r pwyntiau allweddol ynddo.

 

Gofynnodd Aelod os bydd cyfle i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i efallai ddod â buddsoddiad i stadau tai y Fwrdeistref.

 

Esboniodd y Swyddog fod yr amserlen ar gyfer cyflwyno ceisiadau yn heriol gan fod yn rhaid eu cyflwyno erbyn 20 Mai 202. Byddai LCC wedi cael cyfle i gyflwyno cynigion ond ni dderbyniwyd unrhyw rai.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan yr Aelod, dywedodd y Swyddog bod y cyllid ar gael ar gyfer prosiectau peilot i’w cyflwyno o fewn 2021/22. Byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedyn yn dysgu o’r prosiectau hyn ac yn profi’r gwahanol ddulliau gweithredu ar sail 1 flwyddyn.

 

Gofynnodd Aelod os oedd yn bosibl cyfuno rhai o’r prosiectau a restrir yn yr adroddiad. Dywedodd y Swyddog y byddai lan i bartneriaid unigolion i ddechrau’r trafodaethau hynny ond yn anffodus nid yw’r amserlenni tyn yn hwyluso hynny. Fe wnaeth y Swyddog hefyd gadarnhau fod pob prosiect yn cael eu sgorio ar yr un meini prawf yn seiliedig ar flaenoriaethau strategol lleol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y ffigur a amlygir yn adran 2.18 yr adroddiad a gofynnodd sut y caiff hyn ei ddyrannu. Cyfeiriodd hefyd at CELT a holodd am swyddogaethau’r gr?p a chynrychiolaeth y Cyngor.

 

Wedyn cyfeiriodd at y ffaith y byddai prosiectau llwyddiannus yn derbyn cyllid mewn dwy ddogn, a holodd os byddai unrhyw oblygiadau cyllido ar gyfer y Cyngor wrth dynnu lawr ail ddogn  cyllid pe na fyddai’r prosiect yn cyflawni’r deilliannau a ddisgwylid.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y defnyddir y cyllid a ddynodir yn adran 2.18 yr adroddiad i gefnogi datblygiad y CRF. Yng nghyswllt CELT, dywedodd fod hyn yn deillio o waith sy’n mynd rhagddo ar draws y rhanbarth ac iddo gael ei sefydlu i edrych ar raglenni cyflogadwyedd. Os cymeradwyir yr adroddiad, byddai’r Cyngor yn eistedd ar y gr?p hwnnw ac yn sicrhau y caiff trafodaethau ar lefel rhanbarthol eu hatgynhyrchu yn lleol.

 

Cadarnhaodd Arweinydd Tîm Cymunedau Cysylltiedig y caiff cynllun ei roi ar waith i ddiogelu risg peidio cyflawni prosiect i atal ader unrhyw arian.

 

Mewn ymateb i sylw gan Aelod am ymgysylltu gyda busnesau lleol, dywedodd y Swyddog fod hwn yn un o’r llu o gronfeydd a weinyddir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf mewn ymateb i bandemig Covid. Cadarnhaodd fod Swyddogion wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 6.